PR07/11 09/06/2011
Y Gofrestrfa Tir yn cyhoeddi'r adroddiad o'i hymgynghoriad ar Gofrestru Tir a Deddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007
Mae’r Gofrestrfa Tir wedi cyhoeddi’r adroddiad o’i hymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth cofrestru tir i ystyried y newidiadau a wnaed gan Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007. Mae gweithredu Rhan 5 o Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007, a ddisgwylir ym mis Hydref 2011, yn effeithio ar reoleiddio darparwyr gwasanaethau cyfreithiol ac mae’n cyflwyno Strwythurau Busnes Amgen.
Gwneir y newidiadau i ddwy set o reolau cofrestru tir (Rheolau Cofrestru Tir 2003 a Rheolau Cofrestru Tir (Mynediad i’r Rhwydwaith) 2008) ac un gorchymyn cofrestru tir (Gorchymyn Cofrestru Tir (Swyddfa Briodol) 2010). Mae eu hangen er mwyn newid y diffiniadau o ‘drawsgludwr’ a’r unigolion sydd â’r hawl i wneud ceisiadau electronig i’r Gofrestrfa Tir er mwyn bod yn gyson â’r darparwyr sydd, o dan y Ddeddf, â’r awdurdod i baratoi dogfennau trawsgludo a gwneud ceisiadau at ddibenion cofrestru tir.
Mynegodd y rhan fwyaf o ymatebwyr, gan gynnwys cynrychiolwyr y diwydiant cyfreithiol a thrawsgludo, eu bod yn cymeradwyo’r cynigion yn gyffredinol. Gwrthwynebodd lleiafrif i eithrio Cymrodorion Sefydliad y Gweithredwyr Cyfreithiol o’r diffiniad o drawsgludwr.
Bydd y Strwythurau Busnes Amgen newydd yn galluogi cyfreithwyr a phobl nad ydynt yn gyfreithwyr i gydweithio i gyflwyno gwasanaethau cyfreithiol a gwasanaethau eraill a disgwylir iddynt roi gwell hyblygrwydd i ddarparwyr cyfreithiol i ymateb i alw’r farchnad, yn y DU a thramor.
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
- Gosodwyd Rheolau Cofrestru Tir (Newidiad) 2011 a Gorchymyn Cofrestru Tir (Swyddfa Briodol) (Newidiad) 2011 gerbron y Senedd ar 6 Mehefin 2011. Gosodwyd Rheolau Cofrestru Tir (Mynediad i’r Rhwydwaith) (Newidiad) 2011 ger ei bron heddiw, dydd Mawrth 7 Mehefin 2011.
- Mae adroddiad yr ymgynghoriad ar gael yn www.cofrestrfatir.gov.uk/public/consultations
- Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 6 Rhagfyr 2010 a 28 Chwefror 2011.
- Ceisiodd y papur ymgynghori farn ar y newidiadau arfaethedig i Reolau Cofrestru Tir 2003, Rheolau Cofrestru Tir (Mynediad i’r Rhwydwaith) 2008 a Gorchymyn Cofrestru Tir (Swyddfa Briodol) 2010.
- Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd yn 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
- I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk
- Arweiniodd y broses o gyflwyno Deddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007 a chyflwyniad arfaethedig y Strwythurau Busnes Amgen i’r Gofrestrfa Tir adolygu’r ddeddfwriaeth bresennol a nodi newidiadau i adlewyrchu’r drefn newydd.
- Gyda’r gronfa ddata o drafodion fwyaf o’r fath gyda manylion dros 22 miliwn o deitlau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cefnogi’r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy’n werth biliynau o bunnoedd.
Cysylltu
Marion Shelley 0300 0067543, 07790 690297