logo_w

PR08/11 28/06/2011

Prisiau tai mis mai wedi gostwng 0.4 y cant oddi ar fis Ebrill: pris tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £161,823

Mae data mis Mai o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos gostyngiad pris blynyddol o -2.2 y cant sy’n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £161,823. Mae’r newid misol o fis Ebrill i fis Mai yn ostyngiad o -0.4 y cant.

Llundain oedd yr unig ranbarth yng Nghymru a Lloegr i weld cynnydd o ran gwerth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf gyda symudiad o 2.9 y cant. Dwyrain Canolbarth Lloegr welodd y cynnydd misol mwyaf gyda symudiad o 0.4 y cant. Unwaith eto, Gogledd Ddwyrain Lloegr welodd y gostyngiad pris tai blynyddol mwyaf gyda gostyngiad o -6.9 y cant. Cymru oedd y rhanbarth gyda’r gostyngiad prisiau misol mwyaf arwyddocaol gyda symudiad o -3.5 y cant.

Mae’r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Mawrth 2011 ostwng -13 y cant i 44,803 o 51,399 ym mis Mawrth 2010. Cododd nifer yr eiddo a werthwyd am dros £1 filiwn yng Nghymru a Lloegr 58 y cant rhwng mis Mawrth 2010 a mis Mawrth 2011, o 511 i 805.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk/houseprices

Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov

Rhanbarth

Newid misol (oddi ar fis Ebrill 2011)

Newid blynyddol

(oddi ar fis Mai 2010)

Pris cyfartalog

(Mai 2011)

Dwyrain Canolbarth Lloegr

0.4%

-1.5%

£125,849

Llundain

0.2%

2.9%

£344,819

De Ddwyrain Lloegr

0.1%

-2.1%

£206,980

Gogledd Orllewin Lloegr

-0.3%

-4.9%

£114,223

Cymru a Lloegr

-0.4%

-2.2%

£161,823

Dwyrain Lloegr

-0.7%

-2.5%

£171,531

De Orllewin Lloegr

-0.7%

-2.7%

£173,083

Swydd Gaerefrog a’r Humber

-0.7%

-3.1%

£122,311

Gorllewin Canolbarth Lloegr

-1.1%

-3.0%

£131,282

Gogledd Ddwyrain Lloegr

-1.8%

-6.9%

£102,231

Cymru

-3.5%

-5.6%

£115,664

 

Prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr)

Mai 2011

Mai 2010

Gwahaniaeth (%)

Tŷ sengl

£255,911

£257,994

-0.8%

Tŷ pâr

£152,701

£157,114

-2.8%

Tŷ teras

£123,063

£126,837

-3.0%

Fflat/fflat deulawr

£151,024

£154,506

-2.3%

Holl

£161,823

£165,499

-2.2%

 

 

Mis

Gwerthiannau 2010 (Cymru a Lloegr)

Gwerthiannau 2009 (Cymru a Lloegr)

Gwahaniaeth

Ionawr

35,827

26,278

36%

Chwefror

42,524

27,279

56%

Mawrth

51,399

35,533

45%

Ebrill

52,265

39,356

33%

Mai

52,152

45,871

14%

Mehefin

62,674

54,789

14%

Gorffennaf

67,406

63,671

6%

Awst

61,363

58,343

5%

Medi

57,325

58,516

-2%

Hydref

58,434

65,808

-11%

Tachwedd

56,050

61,121

-8%

Rhagfyr

56,396

78,491

-28%

Cyfanswm

653,815

615,056

6%

 

 

Mis

Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr)

Gwerthiannau 2010 (Cymru a Lloegr)

Gwahaniaeth

Ionawr

37,157

35,827

4%

Chwefror

38,900

42,524

-9%

Mawrth

44,803

51,399

-13%

 

DIWEDD 

Nodiadau i olygyddion

1. Oddi ar 2006, mae Mynegai Prisiau Tai'r Gofrestrfa Tir, sydd ar gael am ddim yn www.cofrestrfatir.gov.uk/houseprices wedi cynyddu momentwm i ddod yn ddangosydd blaenllaw o symudiadau eiddo yng Nghymru a Lloegr. Caiff ei ystyried yn eang fel "y baromedr mwyaf cywir o'r farchnad dai".

2. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y Gofrestrfa Tir ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir mynegai mis Mehefin am 11 y bore ar ddydd Iau 28 Gorffennaf 2011.

3. Mae’r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy’n fwy na’r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae’n cael ei gyfrifo ar sail set ddata’r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.

4. Mae set ddata’r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion 16 miliwn o drafodion preswyl. O’r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy’n darparu’r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio’r mynegai. Mae’r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.

5. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 22 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy warchod perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.

6. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder ac Arglwydd Ganghellor, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.

7. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk

Cysylltu

Marion Shelley 0300 0067543, 07790 690297

marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk

Jill Inglis 0300 0067487

jill.inglis@landregistry.gsi.gov.uk

© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix