logo_w

PR04/12 28/02/2012

Data Tueddiadau'r Farchnad mis Ionawr gan y Gofrestrfa Tir

Mae gwybodaeth trafodion misol manwl bellach ar gael yn ogystal â'r Mynegai Prisiau Tai

Prisiau tai mis Ionawr yn codi 1.1 y cant oddi ar fis Rhagfyr: prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £161,545

De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol ym mis Ionawr gyda 247,768 o geisiadau

Fel y rhan gyntaf o'i hymrwymiad i flaenoriaethau'r Llywodraeth o ran twf economaidd a thryloywder data, mae gwybodaeth trafodion manwl y Gofrestrfa Tir bellach ar gael yn fisol yn ogystal â'r Mynegai Prisiau Tai. Caiff data trafodion mis Ionawr ei ryddhau gan y Gofrestrfa Tir, fel aelod o'r Grŵp Data Cyhoeddus, ac mae'n cynnwys dadansoddiad manwl o geisiadau yn ôl nifer a math gan gyfreithwyr, trawsgludwyr a rhoddwyr benthyg ac mae'n cynnwys eiddo masnachol a thir, yn ogystal ag eiddo preswyl.

Mae data mis Ionawr o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos gostyngiad prisiau blynyddol o 1.0 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £161,545. Mae'r newid misol o fis Rhagfyr i fis Ionawr yn 1.1 y cant.

Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 2.9 y cant. Yn Llundain y gwelwyd y cynnydd misol mwyaf hefyd gyda symudiad o 2.5 y cant. Gwelodd Gogledd Ddwyrain Lloegr y gostyngiad prisiau blynyddol mwyaf gyda gostyngiad o 4.5 y cant. Gogledd Orllewin Lloegr welodd y gostyngiad misol mwyaf arwyddocaol mewn prisiau gyda gostyngiad o 2.1 y cant.

Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Tachwedd 2011 gynyddu 3 y cant i 57,967 o gymharu â 56,312 ym mis Tachwedd 2010. Mae nifer yr eiddo yng Nghymru a Lloegr a werthwyd am fwy nag £1 miliwn ym mis Tachwedd 2011 wedi gostwng 4 y cant i 524 o 548 ym mis Tachwedd 2010.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i http://www.cofrestrfatir.gov.uk/house-prices

Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov

Rhanbarth

Newid misol (oddi ar fis Rhagfyr 2011)

Newid blynyddol

(oddi ar fis Ionawr 2011)

Pris cyfartalog

(Ionawr 2012)

Llundain

2.5%

2.9%

£351,305

Gogledd Ddwyrain Lloegr

2.2%

-4.5%

£102,066

De Orllewin Lloegr

1.6%

-0.6%

£173,090

Cymru a Lloegr

1.1%

-1.0%

£161,545

De Ddwyrain Lloegr

1.0%

0.5%

£207,761

Dwyrain Lloegr

1.0%

-0.4%

£173,412

Cymru

0.9%

-3.8%

£117,078

Swydd Gaerefrog a’r Humber

0.3%

-3.7%

£119,014

Dwyrain Canolbarth Lloegr

0.2%

-2.7%

£123,142

Gorllewin Canolbarth Lloegr

0.1%

-2.2%

£128,803

Gogledd Orllewin Lloegr

-2.1%

-4.2%

£109,866

 

 

Prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr)

Ionawr 2012

Ionawr 2011

Gwahaniaeth

Tŷ sengl

£254,943

£258,046

-1.2%

Tŷ pâr

£153,729

£153,966

-0.2%

Tŷ teras

£121,860

£124,646

-2.2%

Fflat/Fflat deulawr

£152,013

£152,803

-0.5%

Holl

£161,545

£163,206

-1.0%

 

 

Mis

Gwerthiannau 2010 (Cymru a Lloegr)

Gwerthiannau 2009 (Cymru a Lloegr)

Gwahaniaeth

Ionawr

35,868

26,303

36%

Chwefror

42,558

27,311

56%

Mawrth

51,444

35,567

45%

Ebrill

52,310

39,386

33%

Mai

52,206

45,899

14%

Mehefin

62,754

54,818

14%

Gorffennaf

67,504

63,721

6%

Awst

61,497

58,389

5%

Medi

57,489

58,568

-2%

Hydref

58,640

65,857

-11%

Tachwedd

56,312

61,182

-8%

Rhagfyr

56,861

78,590

-28%

Cyfanswm

655,443

615,591

6%

 

 

Mis

Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr)

Gwerthiannau 2010 (Cymru a Lloegr)

Gwahaniaeth

Ionawr

37,562

35,868

5%

Chwefror

39,651

42,558

-7%

Mawrth

46,686

51,444

-9%

Ebrill

50,640

52,310

-3%

Mai

48,863

52,206

-6%

Mehefin

57,506

62,754

-8%

Gorffennaf

62,052

67,504

-8%

Awst

64,012

61,497

4%

Medi

62,830

57,489

9%

Hydref

56,877

58,640

-3%

Tachwedd

57,967

56,312

3%

 

Mae'r Data Trafodiad yn dangos i'r Gofrestrfa Tirdderbyn dros 1.1 miliwn o geisiadau gan ei holl gwsmeriaid (gyda a heb gyfrif) ym mis Ionawr. Mae hyn yn cynnwys 1,005,863 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda 247,549 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau), 458,829 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl, 141,463 yn chwiliadau a 60,210 yn drafodion am werth.

Tri phrif gwsmer

Ceisiadau

NLIS Operations

22,393

Enact

19,722

Optima Legal Services

17,440

 

 

 

Tri phrif gwsmer

Chwiliadau

Enact

6,080

Optima Legal Services

4,956

NLIS Operations

3,682

 

 

Tair prif awdurdod lleol

Ceisiadau

Birmingham

17,625

Dinas Westminster

16,532

Cernyw

12,295

 

Rhanbarth

Ceisiadau

De Ddwyrain Lloegr

247,768

Llundain Fwyaf

190,156

Gogledd Orllewin Lloegr

117,987

De Orllewin Lloegr

107,113

Gorllewin Canolbarth Lloegr

99,203

Swydd Gaerefrog a'r Humber

87,741

Dwyrain Canolbarth Lloegr

77,716

Cymru

54,818

Gogledd Lloegr

51,323

Dwyrain Anglia

44,231

Ynysoedd Sili

48

Cymru a Lloegr heb ei aseinio

25

Cymru a Lloegr

1,078,129

 

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  1. Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Caiff Mynegai Prisiau Tai a Data Trafodiad mis Chwefror eu cyhoeddi am 11 y bore ar ddydd Mercher 28 Mawrth 2012.
  2. O fis Mawrth 2012, caiff gwybodaeth fisol Price Paid y Gofrestrfa Tir sy'n dangos holl werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr ar lefel cyfeiriad ei chyhoeddi fel rhan o’r Data Tueddiadau’r Farchnad.
  3. Mae'r Grŵp Data Cyhoeddus yn dod â'r Gofrestrfa Tir, Tŷ’r Cwmnïau, y Swyddfa Dywydd a'r Arolwg Ordnans at ei gilydd i gydweithio i ddod o hyd i gyfleoedd a llywio effeithlonrwydd, yn ogystal â rhyddhau eu data i ddefnyddwyr ac ail-ddefnyddwyr am bris gostyngol neu am ddim.
  4. Mae'r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. I gael esboniad o'r byrfoddau a thermau a ddefnyddir, ewch i http://www.cofrestrfatir.gov.uk/market-trend-data/faqs#m11. Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
  5. Mae'r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i'r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o chwiliadau, ewch i http://www.cofrestrfatir.gov.uk/market-trend-data/faqs#m11. Mae'r Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA), a ddatblygwyd gan yr Archif Genedlaethol, yn caniatáu’r defnydd ac ail-ddefnydd rhydd o wybodaeth y sector gyhoeddus. I gael rhagor o wybodaeth ewch i http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence
  6. Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
  7. Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion mwy nag 16 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
  8. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
  9. Mae eleni'n nodi 150 mlwyddiant y Gofrestrfa Tir. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
  10. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.ukCysylltu

Marion Shelley 0300 0067543, 07790 690297

marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk

© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix