PR 08/12
29 Mai 2012
Data Tueddiadau'r Farchnad mis Ebrill gan y Gofrestrfa Tir
- Prisiau tai mis Ebrill wedi gostwng 0.3 y cant oddi ar fis Mawrth: prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £160,417
- De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol ym mis Ebrill gyda 233,486 o geisiadau
- Cyflwynwyd dros 51,000 o brisiau gwerthiannau eiddo preswyl yn amrywio o £8,000 i £55 miliwn yng Nghymru a Lloegr i'w cofrestru ym mis Ebrill
Mae data mis Ebrill o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos gostyngiad prisiau blynyddol o 1.0 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £160,417. Mae'r newid misol o fis Mawrth i fis Ebrill yn ostyngiad o 0.3 y cant.
- Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 5.1 y cant
- Llundain welodd y cynnydd misol mwyaf hefyd gyda chynnydd o 5.1 y cant. Swydd Gaerefrog a'r Humber welodd y gostyngiad prisiau blynyddol mwyaf gyda gostyngiad o 5.6 y cant
- Swydd Gaerefrog a'r Humber welodd y gostyngiad prisiau blynyddol mwyaf gyda gostyngiad o 5.6 y cant.
- Gorllewin Canolbarth Lloegr welodd y gostyngiad prisiau misol mwyaf gyda gostyngiad o 2.7 y cant.
- Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai yng Nghymru a Lloegr ym mis Chwefror 2012 gynyddu 9 y cant i 43,331 o gymharu â 39,670 ym mis Chwefror 2011
- Mae nifer yr eiddo yng Nghymru a Lloegr a werthwyd am fwy nag £1 miliwn ym mis Chwefror 2012 wedi gostwng 3 y cant i 462 o 478 ym mis Chwefror 2011.
Mynediad i'r set lawn o ddata http://www.cofrestrfatir.gov.uk/public/house-prices-and-sales
Rhanbarth | Newid misol | Newid blynyddol | Pris cyfartalog |
Llundain | 5.1% | 5.1% | £360,721 |
De Orllewin Lloegr | 2.0% | 0.5% | £174,261 |
De Ddwyrain Lloegr | 0.1% | 0.4% | £206,816 |
Dwyrain Lloegr | 0.1% | 0.5% | £173,357 |
Cymru | -0.1% | -4.6% | £114,762 |
Cymru a Lloegr | -0.3% | -1.0% | £160,417 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | -0.3% | -1.1% | £123,429 |
Gogledd Orllewin Lloegr | -1.3% | -3.2% | £110,954 |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | -2.1% | -3.3% | £101,034 |
Swydd Gaerefrog a'r Humber | -2.4% | -5.6% | £115,783 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | -2.7% | -4.1% | £126,527 |
Prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) | Ebrill 2012 | Ebrill 2011 | Gwahaniaeth |
Tŷ sengl | £257,767 | £255,093 | 1.0% |
Tŷ pâr | £151,073 | £153,073 | -1.3% |
Tŷ teras | £120,862 | £123,473 | -2.1% |
Fflat/fflat deulawr | £149,508 | £151,879 | -1.6% |
Holl | £160,417 | £162,019 | -1.0% |
Mis | Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr) | Gwerthiannau 2010 (Cymru a Lloegr) | Gwahaniaeth |
Ionawr | 37,592 | 35,876 | 5% |
Chwefror | 39,670 | 42,572 | -7% |
Mawrth | 46,725 | 51,457 | -9% |
Ebrill | 50,698 | 52,330 | -3% |
Mai | 48,943 | 52,229 | -6% |
Mehefin | 57,645 | 62,774 | -8% |
Gorffennaf | 62,237 | 67,521 | -8% |
Awst | 64,298 | 61,511 | 5% |
Medi | 63,391 | 57,504 | 10% |
Hydref | 57,768 | 58,667 | -2% |
Tachwedd | 60,055 | 56,344 | 7% |
Rhagfyr | 62,955 | 56,891 | 11% |
Cyfanswm | 651,977 | 655,676 | -1% |
Mis | Gwerthiannau 2012 (Cymru a Lloegr) | Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr) | Gwahaniaeth |
Ionawr | 43,058 | 37,592 | 15% |
Chwefror | 43,331 | 39,670 | 9% |
Mae'r Data Trafodiad yn dangos i'r Gofrestrfa Tir dderbyn dros 1 miliwn o geisiadau gan ei holl gwsmeriaid (gyda a heb gyfrif) ym mis Ebrill. Mae hyn yn cynnwys 931,857 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif gyda:
- 229,615 o geisiadau mewn perthynas â theitl cofrestredig (deliadau)
- 500,063 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl
- 131,252 yn chwiliadau a
- 57,091 yn drafodion am werth.
Mynediad i'r set lawn o ddata: http://www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/transaction-data
Tri phrif gwsmer | Trafodion am werth |
Stevensons | 6,810 |
My Home Move Ltd | 1,368 |
Countrywide Property Lawyers | 1,353 |
Tri phrif gwsmer | Chwiliadau |
Enact | 5,296 |
Optima Legal Services | 4,501 |
NLIS Operations | 3,457 |
Tair prif awdurdod lleol | Ceisiadau |
Dinas Westminster | 15,597 |
Birmingham | 15,161 |
Cernyw | 12,300 |
Rhanbarth | Ceisiadau |
De Ddwyrain Lloegr | 233,486 |
Llundain Fwyaf | 178,370 |
Gogledd Orllewin Lloegr | 113,150 |
De Orllewin Lloegr | 101,796 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 84,997 |
Swydd Gaerefrog a'r Humber | 83,047 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 71,393 |
Cymru | 50,139 |
Gogledd Lloegr | 48,753 |
Dwyrain Anglia | 40,693 |
Ynysoedd Sili | 39 |
Cymru a Lloegr (heb eu haseinio) | 29 |
Cymru a Lloegr | 1,005,892 |
Mae'r Data Pris a Dalwyd yn cynnwys manylion dros 51,000 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i'w cofrestru ym mis Ebrill 2012.
Mae'r eiddo drutaf a werthwyd am ychydig llai na £55 miliwn ym mis Mawrth 2012 yng nghanol Llundain; mae'r eiddo rhataf yn Colne, Swydd Gaerhirfryn a werthodd am £8,000 ym mis Mawrth 2012. Mynediad i'r set lawn o ddata http://www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/price-paid-data
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
- Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a setiau data Trafodiad a Pris a Dalwyd mis Mai am 11 y bore ar ddydd Llun 2 Gorffennaf 2012.
- Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad is ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis.
- Mae'r Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA) a ddatblygwyd gan yr Archif Genedlaethol, yn caniatáu’r defnydd ac ailddefnydd rhydd o wybodaeth y sector gyhoeddus. I gael rhagor o wybodaeth ewch i http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence
- Mae'r Grŵp Data Cyhoeddus yn dod â'r Gofrestrfa Tir, Tŷ’r Cwmnïau, y Swyddfa Dywydd a'r Arolwg Ordnans at ei gilydd i gydweithio i ddod o hyd i gyfleoedd a llywio effeithlonrwydd, yn ogystal â rhyddhau eu data i ddefnyddwyr ac ail-ddefnyddwyr am bris gostyngol net am ddim.
- Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
- Fel y rhan gyntaf o'i hymrwymiad i flaenoriaethau'r Llywodraeth o ran twf economaidd a thryloywder data, mae gwybodaeth pris a dalwyd y Gofrestrfa Tir bellach ar gael yn fisol yn ogystal â'r Mynegai Prisiau Tai a'r data trafodiad.
- Mae'r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:
- cyfeiriad llawn
- y pris a dalwyd
- dyddiad y trosglwyddiad
- y math o eiddo
- ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio
- ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo.
- Gellir ei llwytho i lawr o wefan y Gofrestrfa Tir fel cipolwg misol o'n cronfa ddata pris a dalwyd yn http://www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/price-paid-data ac mae ar gael i bawb ei harchwilio neu ei hail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
- I gael Data Pris a Dalwyd , hanesyddol, anfonwch ebost at addvalueservices@landregistry.gsi.gov.uk neu ffoniwch 0800 678 1678. Codir tâl am yr adroddiadau hyn.
- Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
- Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion mwy nag 16 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
- Mae'r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. I gael esboniad o'r termau a ddefnyddir, ewch i http://www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/faqs#m11
- Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
- Mae'r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i'r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o chwiliadau, ewch i http://www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/faqs#m11
- Mae eleni'n nodi 150 mlwyddiant y Gofrestrfa Tir. Fel adran o'r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy'n atebol i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae'r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
- I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk
Cysylltu
- Marion Shelley 0300 0067543, 07790 690297
- marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk
- Follow us on Twitter @LandRegGov