Data Tueddiadau'r Farchnad Mis Mai gan y Gofrestrfa Tir
- Prisiau tai mis Mai yn codi 0.5 y cant oddi ar fis Ebrill: pris tŷ cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £161,677
- De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol ym mis Mai gyda 267,587 o geisiadau
- Cyflwynwyd dros 54,000 o brisiau gwerthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i'w cofrestru ym mis Mai gyda phrisiau yn amrywio o £10,000 i £18.5 miliwn
Mae data mis Mai o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos cynnydd prisiau blynyddol o 0.4 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £161,677. Mae'r newid misol o fis Ebrill i fis Mai yn gynnydd o 0.5 y cant.
- Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 7.7 y cant.
- Yn Llundain y gwelwyd y cynnydd misol mwyaf hefyd gyda chynnydd o 2.6 y cant.
- Gwelodd Swydd Gaerefrog a'r Humber y gostyngiad prisiau blynyddol mwyaf gyda gostyngiad o 3.9 y cant.
- Dwyrain Lloegr welodd y gostyngiad misol mwyaf arwyddocaol mewn prisiau gyda gostyngiad o 1.9 y cant.
- Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Mawrth 2012 gynyddu 25 y cant i 58,609 o gymharu â 46,742 ym mis Mawrth 2011.
- Mae nifer yr eiddo yng Nghymru a Lloegr a werthwyd am fwy nag £1 miliwn ym mis Mawrth 2012 wedi gostwng 41 y cant i 501 o 845 ym mis Mawrth 2011.
Rhanbarth | Newid misol (oddi ar fis Ebrill 2012) | Newid blynyddol (oddi ar fis Mai 2011) | Pris cyfartalog (Mai 2012) |
---|---|---|---|
Llundain | 2.6% | 7.7% | £365,359 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 2.0% | -1.2% | £129,827 |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | 0.8% | -3.9% | £117,371 |
De Ddwyrain Lloegr | 0.5% | 1.7% | £208,720 |
Cymru a Lloegr | 0.5% | 0.4% | £161,677 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 0.2% | -1.6% | £122,858 |
Dwyrain Lloegr | 0.2% | 1.6% | £174,226 |
De Orllewin Lloegr | -0.2% | -0.2% | £172,437 |
Gogledd Orllewin Lloegr | -1.5% | -2.8% | £110,047 |
Cymru | -1.8% | -2.0% | £115,299 |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | -1.9% | -3.5% | £99,492 |
Prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) | Mai 2012 | Mai 2011 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £254,407 | £254,511 | - |
Tŷ pâr | £152,965 | £152,552 | 0.3% |
Tŷ teras | £122,165 | £122,445 | -0.2% |
Fflat/Fflat deulawr | £153,018 | £149,591 | 2.3% |
Holl | £161,677 | £160,961 | 0.4% |
Mis | Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr) | Gwerthiannau 2010 (Cymru a Lloegr) | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Ionawr | 37,601 | 35,880 | 5% |
Chwefror | 39,675 | 42,575 | -7% |
Mawrth | 46,742 | 51,464 | -9% |
Ebrill | 50,707 | 52,332 | -3% |
Mai | 48,959 | 52,234 | -6% |
Mehefin | 57,665 | 62,779 | -8% |
Gorffennaf | 62,257 | 67,531 | -8% |
Awst | 64,333 | 61,518 | 5% |
Medi | 63,456 | 57,514 | 10% |
Hydref | 57,845 | 58,672 | -1% |
Tachwedd | 60,157 | 56,351 | 7% |
Rhagfyr | 63,213 | 56,903 | 11% |
Cyfanswm | 652,610 | 655,753M | 0% |
Mis | Gwerthiannau 2012 (Cymru a Lloegr) | Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr) | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Ionawr | 43,315 | 37,601 | 15% |
Chwefror | 44,125 | 39,675 | 11% |
Mawrth | 58,609 | 46,742 | 25% |
Mae'r Data Trafodiad yn dangos i'r Gofrestrfa Tir dderbyn dros 1 filiwn o geisiadau gan ei holl gwsmeriaid (gyda a heb gyfrif) ym mis Mai. Mae hyn yn cynnwys 1,095,004 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda 261,845 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau); 492,374 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl; 161,062 yn chwiliadau a 49,809 yn drafodion am werth.
Data trafodiad
Tri phrif gwsmer | Trafodion am werth | |
---|---|---|
Countrywide Property Lawyers | 1,262 | |
My Home Move Ltd | 1,016 | |
O'Neill Patient | 681 |
Tri phrif gwsmer | Chwiliadau |
---|---|
Enact | 5,959 |
Optima Legal Services | 5,720 |
TM Group (UK) LTD (Search Choice) | 5,419 |
Tair prif ardal awdurdod lleol | Ceisiadau | |
---|---|---|
Dinas Westminster | 19,577 | |
Birmingham | 18,320 | |
Cernyw | 13,913 |
Rhanbarth | Ceisiadau |
---|---|
De Ddwyrain Lloegr | 267,587 |
Llundain Fwyaf | 212,370 |
Gogledd Orllewin Lloegr | 126,984 |
De Orllewin Lloegr | 118,486 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 102,591 |
Swydd Gaerefrog a'r Humber | 96,062 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 85,004 |
Cymru | 58,637 |
Gogledd Lloegr | 56,807 |
Dwyrain Anglia | 47,885 |
Cymru a Lloegr (heb eu haseinio) | 61 |
Ynysoedd Sili | 27 |
Cymru a Lloegr | 1,172,501 |
Mae'r Data pris a dalwyd yn cynnwys manylion dros 54,000 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i'w cofrestru ym mis Mai 2012. Gwerthwyd yr eiddo drutaf am £18.5 miliwn ym mis Mai 2012 ac mae wedi'i leoli yng nghanol Llundain; gwerthwyd yr eiddo rhataf yn Shaw, Oldham, Swydd Gaerhirfryn am £10,000 ym mis Ebrill 2012.
*Nodwyd y ffigur o £28 miliwn a adroddwyd yn flaenorol fel gwall. Diweddarwyd ein systemau a dangosir y newidiadau i'r set ddata yn ffeil y mis nesaf. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achoswyd.
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
- Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a setiau data Trafodiad a Data pris a dalwyd mis Mehefin am 11 y bore ar ddydd Gwener 27 Gorffennaf 2012.
- Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis.
- Mae'r Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA), a ddatblygwyd gan yr Archif Genedlaethol, yn caniatáu’r defnydd ac ail-ddefnydd rhydd o wybodaeth y sector gyhoeddus.
- Mae'r Grŵp Data Cyhoeddus yn dod â'r Gofrestrfa Tir, Tŷ’r Cwmnïau, y Swyddfa Dywydd a'r Arolwg Ordnans at ei gilydd i gydweithio i ddod o hyd i gyfleoedd a llywio effeithlonrwydd, yn ogystal â rhyddhau eu data i ddefnyddwyr ac ail-ddefnyddwyr am bris gostyngol neu am ddim.
- Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion am 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
- 6. Fel y rhan gyntaf o'i hymrwymiad i flaenoriaethau'r Llywodraeth o ran twf economaidd a thryloywder data, mae gwybodaeth pris a dalwyd y Gofrestrfa Tir bellach ar gael yn fisol yn ogystal â'r Mynegai Prisiau Tai a'r data trafodiad.
- Mae'r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:
- y cyfeiriad llawn
- y pris a dalwyd
- dyddiad y trosglwyddiad
- y math o eiddo
- ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio
- ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo
- Gellir ei llwytho i lawr o wefan y Gofrestrfa Tir fel cipolwg misol o'n cronfa ddata pris a dalwyd yn www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/price-paid-data ac mae ar gael i bawb ei harchwilio neu ei hail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
- I gael Data Pris a Dalwyd hanesyddol, anfonwch ebost at addvalueservices@landregistry.gsi.gov.uk neu ffoniwch 0800 678 1678. Codir tâl am yr adroddiadau hyn.
- Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
- Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion mwy nag 16 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
- Mae'r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. I gael esboniad o'r termau a ddefnyddir, ewch i http://www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/faqs#m11
- Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
- Mae'r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i'r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o chwiliadau, ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/faqs#m11
- Mae eleni'n nodi 150 mlwyddiant y Gofrestrfa Tir. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
- I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk
Cysylltu
Marion Shelley 0300 0067543, 07790 690297
marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk
Dilynwch ni ar Twitter@LandRegGov a LinkedIn