logo_w

29 Ionawr 2013
PR 02/13

DATA TUEDDIADAU'R FARCHNAD MIS RHAGFYR GAN Y GOFRESTRFA TIR

Niferoedd yr adfeddiannau bellach wedi'u cynnwys yn adroddiad misol y Mynegai Prisiau Tai

  • Prisiau tai mis Rhagfyr wedi codi 0.8 y cant oddi ar fis Tachwedd: prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £162,080
  • 1,524 o adfeddiannau yng Nghymru a Lloegr yn ystod mis Hydref 2012
  • De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol ym mis Rhagfyr gyda 193,079 o geisiadau
  • Cyflwynwyd dros 54,500 o eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i'w cofrestru ym mis Rhagfyr yn amrywio o £10,000 i £14 miliwn

Mae data mis Rhagfyr o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos cynnydd prisiau blynyddol o 1.7 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £162,080. Mae'r newid misol o fis Tachwedd i fis Rhagfyr yn gynnydd o 0.8 y cant.

Bu gostyngiad o 16 y cant yn nifer yr adfeddiannau, sydd wedi'u cynnwys am y tro cyntaf yn adroddiad y mis hwn, yn ystod mis Hydref 2012 i 1,524 o gymharu â 1,805 yn yr un cyfnod blwyddyn yn gynharach.

  • Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 8.4 y cant.
  • Llundain welodd y cynnydd misol mwyaf hefyd gyda chynnydd o 3.1 y cant.
  • Gwelodd Gogledd Orllewin Lloegr y gostyngiad prisiau blynyddol mwyaf gyda gostyngiad o 3.5 y cant.
  • Gogledd Orllewin Lloegr welodd y gostyngiad misol mwyaf arwyddocaol mewn prisiau hefyd gyda gostyngiad o 0.9 y cant.
  • Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Hydref 2012 ostwng 3 y cant i 56,337 o gymharu â 57,988 ym mis Hydref 2011.
  • Mae nifer yr eiddo yng Nghymru a Lloegr a werthwyd am fwy nag £1 miliwn ym mis Hydref 2012 wedi cynyddu 14 y cant i 623 o 548 ym mis Hydref 2011.
  • Gwelodd pob rhanbarth ostyngiad yn nifer yr adfeddiannau rhwng mis Hydref 2011 a mis Hydref 2012 yn amrywio o 8 y cant yn Ne Ddwyrain Lloegr i 35 y cant yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr.

chevron_bullet Llwytho adroddiad llawn y mynegai i lawr
chevron_bullet Chwilio'r mynegai
chevron_bullet Am y mynegai

Rhanbarth Newid misol (oddi ar fis Tachwedd 2012) Newid blynyddol
(oddi ar fis Rhagfyr 2011)
Pris cyfartalog
(Rhagfyr 2012)
Llundain 3.1% 8.4% £371,223
Gogledd Ddwyrain Lloegr 1.9% 0.3% £99,974
Gorllewin Canolbarth Lloegr 1.3% 1.7% £130,251
Cymru 1.0% 0.0.% £116,402
Cymru a Lloegr 0.8% 1.7% £162,080
Swydd Gaerefrog a’r Humber 0.7%< -0.7% £116,798
De Ddwyrain Lloegr 0.6% 3.0% £211,092
Dwyrain Lloegr 0.1% 1.1% £173,315
Dwyrain Canolbarth Lloegr -0.2% 0.1% £122,646
De Orllewin Lloegr -0.6% 0.3% £170,337
Gogledd Orllewin Lloegr -0.9% -3.5% £108,257
Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo
(Cymru a Lloegr)
Rhagfyr 2012 Rhagfyr 2011 Gwahaniaeth

Tŷ sengl

£253,352

£251,420

0.8%

Tŷ pâr

£154,072

£151,621

1.6%

Tŷ teras

£122,939

£120,834

1.7%

Fflat/Fflat deulawr

£152,971

£148,815

2.8%

Holl

£162,080

£159,335

1.7%

Mis Gwerthiannau 2011
(Cymru a Lloegr)
Gwerthiannau 2010
(Cymru a Lloegr)
Gwahaniaeth

Ionawr

37,627

35,897

5%

Chwefror

39,693

42,583

-7%

Mawrth

46,767

51,483

-9%

Ebrill

50,769

52,367

-3%

Mai

48,995

52,253

-6%

Mehefin

57,735

62,809

-8%

Gorffennaf

62,321

67,567

-8%

Awst

64,424

61,556

5%

Medi

63,558

57,550

10%

Hydref

57,988

58,718

-1%

Tachwedd

60,353

56,382

7%

Rhagfyr

63,558

56,951

12%

Cyfanswm

653,788

656,116

0%

Mis Gwerthiannau 2012
(Cymru a Lloegr)
Gwerthiannau 2011
(Cymru a Lloegr)

Gwahaniaeth

Ionawr

43,712

37,627

16%

Chwefror

44,769

39,693

13%

Mawrth

61,216

46,767

31%

Ebrill

43,159

50,769

-15%

Mai

52,322

48,995

7%

Mehefin

59,433

57,735

3%

Gorffennaf

58,627

62,321

-6%

Awst

64,204

64,424

0%

Medi

51,475

63,558

-19%

Hydref

56,337

57,988

-3%

Adfeddiannau fesul rhanbarth Hydref 2012 Hydref 2011

Gwahaniaeth

Dwyrain Lloegr

126

147

14%

Dwyrain Canolbarth Lloegr

144

161

-11%

Llundain

138

183

-25%

Gogledd Ddwyrain Lloegr

35

54

-35%

Gogledd Orllewin Lloegr

334

373

-10%

De Ddwyrain Lloegr

195

211

-8%

De Orllewin Lloegr

93

117

-21%

Cymru

108

137

-21%

Gorllewin Canolbarth Lloegr

117

165

-29%

Swydd Gaerefrog a’r Humber

234

257

-9%

Cymru a Lloegr

1,524

1,805

-16%

Mae'r Data Trafodiad yn dangos i'r Gofrestrfa Tir dderbyn dros 846,800 o geisiadau gan ei chwsmeriaid (gyda a heb gyfrif) ym mis Rhagfyr. Mae hyn yn cynnwys 810,495 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda 227,930 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau); 316,851 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl; 141,280 yn chwiliadau a 57,764 yn drafodion am werth.

chevron_bullet Mynediad i'r set lawn o ddata

Tri phrif gwsmer

Trafodion am werth

My Home Move Limited

1,069

Countrywide Property Lawyers

1,061

O'Neill Patient

720

Tri phrif gwsmer Chwiliadau

Optima Legal Services 4,626
Enact 4,228
NLIS Operations 3,446
Tair prif ardal awdurdod lleol Ceisiadau
Dinas Westminster 13,125
Birmingham 12,659
Leeds 10,136
Rhanbarth

Ceisiadau

De Ddwyrain Lloegr

193,079

Llundain Fwyaf

153,725

Gogledd Orllewin Lloegr

92,944

De Orllewin Lloegr

85,272

Gorllewin Canolbarth Lloegr

72,559

Swydd Gaerefrog a'r Humber

71,002

Dwyrain Canolbarth Lloegr

62,314

Cymru

40,956

Gogledd Lloegr

40,025

Dwyrain Anglia

34,900

Cymru a Lloegr a (heb eu haseinio)

52

Ynysoedd Sili

22

Cyfanswm

846,850

Mae'r Data pris a dalwyd yn cynnwys manylion dros 54,500 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i'w cofrestru ym mis Rhagfyr 2012. Mae'r eiddo drutaf a werthwyd wedi'i leoli yn Knightsbridge, canol Llundain, a werthwyd am £14 miliwn ym mis Tachwedd 2012. Gwerthwyd yr eiddo rhataf am £10,000 ym mis Rhagfyr 2012 ac mae wedi'i leoli ym Mlaenau Gwent.

chevron_bullet Mynediad i'r set lawn o ddata

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  1. Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a setiau data Trafodiad a Data pris a dalwyd mis Ionawr am 11 y bore ar ddydd Iau 28 Chwefror 2013.
  2. Mae'r Grŵp Data Cyhoeddus yn dod â'r Gofrestrfa Tir, Tŷ’r Cwmnïau, y Swyddfa Dywydd a'r Arolwg Ordnans at ei gilydd i gydweithio i ddod o hyd i gyfleoedd a llywio effeithlonrwydd, yn ogystal â rhyddhau eu data i ddefnyddwyr ac ail-ddefnyddwyr am bris gostyngol neu am ddim.
  3. Mae'r Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA), a ddatblygwyd gan yr Archif Genedlaethol, yn caniatáu’r defnydd ac ail-ddefnydd rhydd o wybodaeth y sector gyhoeddus. I gael rhagor o wybodaeth ewch i http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence
  4. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
  5. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
  6. Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
  7. Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion am 17 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
  8. Mae'r prif ystadegau ar gyfer Cymru a Lloegr ar dudalen 14 yr adroddiad Mynegai Prisiau Tai misol yn cynnwys data adfeddiannau ychwanegol a nodir am y tro cyntaf y mis hwn.
  9. Mae'r data adfeddiannau yn seiliedig ar nifer y trafodion a gyflwynwyd i'r Gofrestrfa Tir gan roddwyr benthyg sy'n arfer eu pŵer gwerthu. Unwaith y byddwn wedi nodi'r trafodion hyn, rydym yn tynnu'r wybodaeth pris a dalwyd o'r cofnod perthnasol yn y gofrestr.
  10. Er bod y Mynegai yn mynd yn ôl i Ionawr 1995, dim ond oddi ar 2006 rydym wedi bod yn cofnodi adfeddiannau'n gynhwysfawr. Mae hyn yn golygu nad yw data adfeddiannau hanesyddol ar gael cyn mis Ionawr 2006. Gweler http://www.cofrestrfatir.gov.uk/public/house-prices-and-sales/about-hpi i gael rhagor o wybodaeth.
  11. Mae'r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. I gael esboniad o'r termau a ddefnyddir, ewch i http://www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/faqs#m11
  12. Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
  13. Mae'r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i'r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o chwiliadau, ewch i http://www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/faqs#m11
  14. Mae'r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:
    • y cyfeiriad llawn
    • y pris a dalwyd
    • dyddiad y trosglwyddiad
    • y math o eiddo
    • ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio
    • ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo .
    • Gellir ei llwytho i lawr o wefan y Gofrestrfa Tir fel cipolwg misol o'n cronfa ddata pris a dalwyd yn http://www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/price-paid-data ac mae ar gael i bawb ei harchwilio neu ei hail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
    • I gael Data Pris a Dalwyd hanesyddol, anfonwch ebost at addvalueservices@landregistry.gsi.gov.uk neu ffoniwch 0800 678 1678. Codir tâl am yr adroddiadau hyn.
    • I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov Dewch o hyd i ni ar LinkedIn

    Cysylltu

    Marion Shelley 0300 0067543, 07790 690297

    marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk

    © Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix