logo_w

5 Chwefror 2013
PR 03/13

fraud-hotline-1

Y Gofrestrfa Tir yn lansio Llinell Twyll Eiddo ar gyfer Perchnogion Cartrefi

Lansiwyd llinell twyll eiddo heddiw sy'n golygu y gall perchnogion sy'n pryderu y gallai eu heiddo fod yn destun gwerthiant neu forgais twyllodrus hysbysu'r Gofrestrfa Tir yn gyflym.

Gallent siarad ag aelod o staff sydd wedi'i hyfforddi'n benodol i gael cyngor ymarferol am beth i'w wneud nesaf. Y rhif ffôn yw 0300 006 7030 ac mae'r llinell ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. 

Mae'r eiddo sydd fwyaf mewn perygl o dwyll cofrestru neu forgais fel arfer yn wag, gyda thenantiaid neu'n ddi-forgais. Ymhlith yr unigolion sydd fwyaf agored i risg o dwyll mae perchnogion nad ydynt yn byw yn yr eiddo gan eu bod yn byw tramor, landlordiaid prynu i osod, unigolion sydd mewn gofal ysbyty neu ofal preswyl hirdymor neu lle y chwalodd perthynas.

Mae enghreifftiau o dwyll eiddo yn cynnwys sefyllfaoedd lle mae landlord prynu i osod yn cael galwad gan asiant gwerthu tai lleol i'w hysbysu fod un o'i eiddo yn cael ei farchnata ar werth neu pan fo perthynas yn clywed fod eiddo wedi'i 'ddwyn' gan dwyllwr yn dynwared perchennog fu farw.

Dywedodd Alasdair Lewis, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol:

“Mae twyll yn effeithio ar bob rhan o gymdeithas heddiw a phawb ynddi, gan gostio amcangyfrif o £38 biliwn y flwyddyn. Mae gan y llywodraeth agwedd dim goddefgarwch i dwyll yn erbyn pwrs y wlad, ond er mwyn brwydro twyll rhaid i bawb gydweithio. Mae'r angen i bawb chwarae eu rhan yr un mor berthnasol yn y frwydr yn erbyn twyll cofrestru ag ydyw mewn cyd-destunau eraill.

“Mae ein Huned Gwrth-dwyll sydd wedi ennill sawl gwobr yn gweithio'n agos â'r heddlu ac asiantaethau eraill i leihau'r risg o dwyll eiddo. Oddi ar fis Medi 2009 mae ein mesurau wedi atal twyll o werth £52 miliwn ond gyda thaliad indemniad cyfartalog o tua 150,000, mae twyll yn risg hanfodol i'n busnes o hyd.”

Yn ogystal, fel rhan o'i hymrwymiad i amrywiaeth o fesurau gwrth-dwyll, mae treial y Gofrestrfa Tir o gyfyngiad am ddim i berchnogion absennol yn parhau. Diogelwyd 5,000 o eiddo yn y ffordd hon ers i'r treial ddechrau ym mis Chwefror 2012.

Cynlluniwyd y cyfyngiad i atal ffugiad trwy ei wneud yn ofynnol i gyfreithiwr neu drawsgludwr ardystio ei fod yn fodlon mai'r person sy'n gwerthu neu'n morgeisio'r eiddo yw'r gwir berchennog. Ni chodir ffi y Gofrestrfa Tir ar berchnogion tai sy'n dymuno cofrestru'r cyfyngiad hwn ar yr amod nad ydynt yn byw yn yr eiddo. Codir ffi fach ar berchnogion sy'n ddeiliaid.

Ymhlith awgrymiadau'r Gofrestrfa Tir i helpu perchnogion warchod eu heiddo rhag twyllwyr mae:

  • sicrhau yn gyntaf bod eich eiddo'n gofrestredig. Os byddwch yn ddioddefwr diniwed o dwyll ac yn dioddef colledion ariannol o ganlyniad, efallai y cewch iawndal
  • unwaith y byddwch wedi cofrestru, sicrhewch fod eich manylion cysylltu yn gyfredol fel y gallwn gysylltu â chi'n hawdd
  • gallwch gael hyd at dri chyfeiriad yn y gofrestr, gellir defnyddio cyfeiriadau ebost neu dramor. Po fwyaf y wybodaeth a rowch i ni, mwyaf fydd y siawns o gysylltu â chi os oes angen.

Rhagor o wybodaeth http://www.cofrestrfatir.gov.uk/public/property-fraud

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  1. Gall twyll ddigwydd mewn llawer o ffyrdd. Gall twyllwyr geisio cael gafael ar berchnogaeth eiddo naill ai trwy ddefnyddio dogfen wedi'i ffugio i'w drosglwyddo i'w henwau, neu trwy ddynwared y perchennog cofrestredig. Unwaith y byddant wedi codi arian trwy forgeisio'r eiddo yn ddiarwybod i'r perchennog, maent yn diflannu heb wneud ad-daliadau gan adael y perchennog i ddelio'r â'r goblygiadau.
  2. Mae'r llinell twyll eiddo ar gael ar 0300 006 7030 rhwng 8.30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Ceir ffurflen cofnodi ar-lein hefyd yn http://www.cofrestrfatir.gov.uk/contact-us/report-fraud i gwsmeriaid y mae’n well ganddynt anfon ebost neu gysylltu â'r Gofrestrfa Tir y tu allan i oriau busnes.
  3. Nid yw'r llinell yn cymryd lle cofnodi honiadau o dwyll gydag Action Fraud ar 0300 123 2040 (fydd yn trosglwyddo eich adroddiad i'r heddlu) na chymryd cyngor cyfreithiol annibynnol.
  4. Yn 2011 roedd hanner y 52 o hawliadau a dalwyd gan y Gofrestrfa Tir ar gyfer twyll a ffugiad gan bobl nad oeddynt yn aelodau'r teulu. O'r rhain roedd 22 yn cynnwys eiddo gyda pherchennog absennol ac yn £1.5 filiwn o'r cyfanswm o £7.2 miliwn a dalwyd am hawliadau twyll a ffugiad.
  5. Mae dau gyhoeddiad ar gael am ddim gan y Gofrestrfa Tir – Cyfarwyddyd Cyhoeddus 17 – Sut i ddiogelu yn erbyn twyll eiddo a Chyfarwyddyd Cyhoeddus 2 – Cadw'ch cyfeiriad ar gyfer gohebu yn gyfoes.
  6. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
  7. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
  8. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk

Cysylltu

Marion Shelley 0300 0067543, 07790 690297

marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk


© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix