28 Mawrth 2013
PR 05/13
Data Tueddiadau'r Farchnad mis Chwefror gan y Gofrestrfa Tir
- Prisiau tai mis Chwefror yn codi 0.2 y cant oddi ar fis Ionawr: prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £162,606
- 1,193 o adfeddiannau yng Nghymru a Lloegr yn ystod mis Rhagfyr 2012, Niferoedd yr adfeddiannau bellach wedi'u cynnwys yn adroddiad misol y Mynegai Prisiau Tai
- De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol ym mis Chwefror gyda 241,086 o geisiadau
- Cyflwynwyd dros 49,300 o eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i'w cofrestru ym mis Chwefror yn amrywio o £8,000 i £20.4 miliwn
Mae data mis Chwefror o Fynegai Prisiau Tai y Gofrestrfa Tir yn dangos cynnydd prisiau blynyddol o 1.0 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £162,606. Mae'r newid misol o fis Ionawr i fis Chwefror yn gynnydd o 0.2 y cant. Gostyngodd niferoedd yr adfeddiannau 26 y cant ym mis Rhagfyr 2012 i 1,193 o gymharu â 1,612 ym mis Rhagfyr 2011.
- Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 6.3 y cant.
- Yng Nghymru y gwelwyd y cynnydd misol mwyaf gyda symudiad o 3.6 y cant.
- Y rhanbarth gyda'r gostyngiad pris blynyddol mwyaf yw Swydd Gaerefrog a’r Humber gyda gostyngiad o 0.9 y cant.
- De Orllewin Lloegr welodd y gostyngiad misol mwyaf arwyddocaol mewn prisiau gyda gostyngiad o 0.8 y cant.
- Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Rhagfyr 2012 ostwng 15 y cant i 53,860 o gymharu â 63,600 ym mis Rhagfyr 2011.
- Mae nifer yr eiddo yng Nghymru a Lloegr a werthwyd am fwy nag £1 miliwn ym mis Rhagfyr 2012 wedi cynyddu 19 y cant i 598 o 501 ym mis Rhagfyr 2011.
- Yr unig ranbarth i weld cynnydd o ran adfeddiannau yw Llundain gyda chynnydd o 3 y cant (Rhagfyr 2012 o gymharu â mis Rhagfyr 2011).
Llwythwch yr adroddiad Mynegai Prisiau Tai llawn i lawr
Chwilio'r Mynegai Prisiau Tai
Am y Mynegai Prisiau Tai
Rhanbarth | Newid misol (oddi ar fis Ionawr 2013) | Newid blynyddol (oddi ar fis Chwefror 2012) | Pris cyfartalog (Chwefror 2013) |
---|---|---|---|
Cymru | 3.6% | 1.7% | £120,410 |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | 3.4% | 4.3% | £100,363 |
Gogledd Orllewin Lloegr | 3.3% | -0.6% | £110,608 |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | 1.3% | -0.9% | £116,567 |
De Ddwyrain Lloegr | 0.6% | 2.0% | £211,749 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 0.4% | 0.3% | £122,653 |
Cymru a Lloegr | 0.2% | 1.0% | £162,606 |
Llundain | -0.1% | 6.3% | £370,819 |
Dwyrain Lloegr | -0.4% | 0.3% | £173,846 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | -0.5% | -0.1% | £129,406 |
De Orllewin Lloegr | -0.8% | -0.7% | £170,299 |
Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) |
Chwefror 2013 | Chwefror 2012 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl |
£254,137 |
£254,650 |
-0.2% |
Tŷ pâr |
£154,420 |
£153,323 |
0.7% |
Tŷ teras |
£123,567 |
£121,895 |
1.4% |
Fflat/Fflat deulawr |
£153,687 |
£150,417 |
2.2% |
Holl |
£162,606 |
£160,938 |
1.0% |
Mis | Gwerthiannau 2012 (Cymru a Lloegr) |
Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr) |
Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Ionawr |
43,745 |
37,638 |
16% |
Chwefror |
44,817 |
39,696 |
13% |
Mawrth |
61,293 |
46,772 |
31% |
Ebrill |
43,211 |
50,784 |
-15% |
Mai |
52,424 |
49,005 |
7% |
Mehefin |
59,680 |
57,754 |
3% |
Gorffennaf |
58,965 |
62,337 |
-5% |
Awst |
64,738 |
64,439 |
0% |
Medi |
52,475 |
63,577 |
-17% |
Hydref |
58,549 |
58,010 |
1% |
Tachwedd |
62,659 |
60,380 |
4% |
Rhagfyr |
53,860 |
63,600 |
-15% |
Cyfanswm |
656,416 |
653,992 |
0% |
Adfeddiannau fesul rhanbarth | Rhagfyr 2012 | Rhagfyr 2011 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Dwyrain Lloegr |
117 |
138 |
-15% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr |
102 |
139 |
-27% |
Llundain |
157 |
153 |
3% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr |
36 |
53 |
-32% |
Gogledd Orllewin Lloegr |
263 |
324 |
-19% |
De Ddwyrain Lloegr |
121 |
207 |
-42% |
De Orllewin Lloegr |
77 |
96 |
-20% |
Cymru |
80 |
111 |
-28% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr |
88 |
137 |
-36% |
Swydd Gaerefrog a’r Humber |
152 |
254 |
-40% |
Cymru a Lloegr |
1,193 |
1,612 |
-26% |
Mae'r Data Trafodiad Trafodiad yn dangos i'r Gofrestrfa Tir gwblhau dros 1,066,700 o geisiadau gan ei chwsmeriaid (gyda a heb gyfrif) ym mis Chwefror. Mae hyn yn cynnwys 1,024,018 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda:
- 235,474 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau)
- 489,822 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl
- 129,417 yn chwiliadau a
- 58,346 yn drafodion am werth.
Mynediad i'r set lawn o ddata trafodiad
Tri phrif gwsmer | Trafodion am werth |
---|---|
My Home Move Limited |
981 |
Countrywide Property Lawyers |
944 |
O'Neill Patient |
605 |
Tri phrif gwsmer | Chwiliadau |
---|---|
Enact | 4,201 |
Optima Legal Services | 4,130 |
O’Neill Patient | 2,816 |
Rhanbarth | Ceisiadau |
---|---|
De Ddwyrain Lloegr |
241,086 |
Llundain Fwyaf |
201,737 |
Gogledd Orllewin Lloegr |
116,456 |
De Orllewin Lloegr |
104,825 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr |
91,833 |
Swydd Gaerefrog a'r Humber |
86,895 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr |
77,205 |
Cymru |
52,579 |
Gogledd Lloegr |
50,168 |
Dwyrain Anglia |
43,889 |
Ynysoedd Sili |
38 |
Cymru a Lloegr a (heb eu haseinio) |
33 |
Cyfanswm |
1,066,744 |
Mae'r Data pris a dalwyd yn cynnwys manylion dros 49,300 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i'w cofrestru ym mis Chwefror 2013. Mae'r eiddo drutaf a werthwyd ym mis Chwefror 2013 wedi'i leoli ym mwrdeistref Haringey, Llundain, a werthwyd am dros £16 miliwn. Mae'r eiddo rhataf a werthwyd ym mis Chwefror 2013 wedi'i leoli yn Burnley, Swydd Gaerhirfryn, a werthwyd am £9,000.
Mynediad i'r set lawn o ddata pris a dalwyd
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
- Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a setiau data Trafodiad a Data pris a dalwyd mis Mawrth am 11 y bore ar ddydd Llun 29 Ebrill.
- Mae'r Grŵp Data Cyhoeddus yn dod â'r Gofrestrfa Tir, Tŷ’r Cwmnïau, y Swyddfa Dywydd a'r Arolwg Ordnans at ei gilydd i gydweithio i ddod o hyd i gyfleoedd a llywio effeithlonrwydd, yn ogystal â rhyddhau eu data i ddefnyddwyr ac ail-ddefnyddwyr am bris gostyngol neu am ddim.
- Mae'r Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA), a ddatblygwyd gan yr Archif Genedlaethol, yn caniatáu’r defnydd ac ail-ddefnydd rhydd o wybodaeth y sector gyhoeddus. I gael rhagor o wybodaeth ewch i http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence
- Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
- Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
- Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
- Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion am 17 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
- Mae'r prif ystadegau ar gyfer Cymru a Lloegr ar dudalen 14 yr adroddiad Mynegai Prisiau Tai misol yn cynnwys data adfeddiannau ychwanegol.
- Mae'r data adfeddiannau yn seiliedig ar nifer y trafodion a gyflwynwyd i'r Gofrestrfa Tir gan roddwyr benthyg sy'n arfer eu pŵer gwerthu. Unwaith y byddwn wedi nodi'r trafodion hyn, rydym yn tynnu'r wybodaeth pris a dalwyd o'r cofnod perthnasol yn y gofrestr.
- Er bod y Mynegai yn mynd yn ôl i Ionawr 1995, dim ond oddi ar 2006 rydym wedi bod yn cofnodi adfeddiannau'n gynhwysfawr. Mae hyn yn golygu nad yw data adfeddiannau hanesyddol ar gael cyn mis Ionawr 2006. Gweler www.cofrestrfatir.gov.uk/public/house-prices-and-sales/about-hpi i gael rhagor o wybodaeth.
- Mae'r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. I gael esboniad o'r termau a ddefnyddir, ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/faqs.
- Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
- Mae'r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i'r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o chwiliadau, ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/faqs.
- Mae'r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:
- y cyfeiriad llawn
- y pris a dalwyd
- dyddiad y trosglwyddiad
- y math o eiddo
- ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio
- ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo.
- Gellir ei llwytho i lawr o wefan y Gofrestrfa Tir fel cipolwg misol o'n cronfa ddata pris a dalwyd yn http://www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/price-paid-data ac mae ar gael i bawb ei harchwilio neu ei hail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
- I gael Data Pris a Dalwyd hanesyddol, anfonwch ebost at addvalueservices@landregistry.gsi.gov.uk neu ffoniwch 0800 678 1678. Codir tâl am yr adroddiadau hyn.
Cysylltu
- Ronal Patel 0300 006 7490ronal.patel@landregistry.gsi.gov.uk
- Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov
- Dewch o hyd i ni ar LinkedIn a Facebook