Data Tueddiadau'r Farchnad Mis Mehefin gan y Gofrestrfa Tir
Cofnodion prisiau tai ar gael fel data cysylltiedig gyda'r datganiad hwn
- Prisiau tai mis Mehefin wedi codi 0.6 y cant oddi ar fis Mai: prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £162,621
- 1,185 o adfeddiannau yng Nghymru a Lloegr yn ystod mis Ebrill 2013
- De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol ym mis Mehefin gyda 271,936 o geisiadau
- Cyflwynwyd dros 59,500 o eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i'w cofrestru ym mis Mehefin yn amrywio o £10,500 i £15 miliwn
Mae data mis Mehefin o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos cynnydd prisiau blynyddol o 0.8 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £162,621. Mae'r newid misol o fis Mai i fis Mehefin yn dangos cynnydd o 0.6 y cant. Gostyngodd niferoedd yr adfeddiannau 26 y cant ym mis Ebrill 2013 i 1,185 o gymharu â 1,599 ym mis Ebrill 2012.
- Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 6.9 y cant.
- Llundain welodd y cynnydd pris misol mwyaf hefyd gyda symudiad o 3.1 y cant.
- Gogledd Ddwyrain Lloegr yw’r rhanbarth a welodd y gostyngiad pris blynyddol mwyaf gyda symudiad o 3.8 y cant.
- Gogledd Ddwyrain Lloegr welodd y gostyngiad misol mwyaf arwyddocaol mewn prisiau hefyd gyda gostyngiad o 2.2 y cant.
- Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Ebrill 2013 gynyddu 12 y cant i 48,367 o gymharu â 43,252 ym mis Ebrill 2012.
- Bu cynnydd o 45 y cant yn nifer yr eiddo a werthwyd am fwy nag £1 miliwn yng Nghymru a Lloegr ym mis Ebrill 2013 i 703 o 484 ym mis Ebrill 2012.
- Gorllewin Canolbarth Lloegr oedd yr unig ranbarth i weld cynnydd (8 y cant) mewn adfeddiannau yn y cyfnod rhwng mis Ebrill 2012 a mis Ebrill 2013. Y rhanbarth welodd y gostyngiad mwyaf mewn adfeddiannau oedd Llundain gyda gostyngiad o 37 y cant (mis Ebrill 2013 o gymharu â mis Ebrill 2012
Llwythwch adroddiad llawn mis Mehefin y Mynegai Prisiau Tai i lawr (PDF, 457KB)
Chwilio'r Mynegai Prisiau Tai
Ein Mynegai Prisiau Tai
Rhanbarth | Newid misol (oddi ar fis Mai 2013) | Newid blynyddol (oddi ar fis Mehefin 2012) |
Pris cyfartalog (Mehefin 2013) |
---|---|---|---|
Llundain |
3.1% |
6.9% |
£383,930 |
Cymru |
2.9% |
1.6% |
£117,385 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr |
0.8% |
0.5% |
£130,060 |
Cymru a Lloegr |
0.6 % |
0.8% |
£162,621 |
De Ddwyrain Lloegr |
0.3% |
1.0% |
£209,985 |
Dwyrain Lloegr |
-0.1% |
0.1% |
£174,066 |
De Orllewin Lloegr |
-0.2% |
0.0% |
£172,152 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr |
-0.2% |
0.4% |
£122,820 |
Swydd Gaerefrog a'r Humber |
-0.7% |
-2.1% |
£115,529 |
Gogledd Orllewin Lloegr |
-1.3% |
-2.7% |
£107,703 |
Gogledd Ddwyrain Lloegr |
-2.2% |
-3.8% |
£96,373 |
Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo
Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo(Cymru a Lloegr) | Mehefin 2013 | Mehefin 2012 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl |
£256,512 |
£255,460 |
0.4% |
Tŷ pâr |
£153,453 |
£152,453 |
0.7% |
Tŷ teras |
£122,940 |
£122,511 |
0.3% |
Fflat/Fflat deulawr |
£154,317 |
£151,275 |
2.0% |
Holl |
£162,621 |
£161,343 |
0.8% |
Nifer y gwerthiannau 2011-2012
Mis | Gwerthiannau 2012 (Cymru a Lloegr) |
Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr) |
Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Ionawr |
43,762 |
37,649 |
16% |
Chwefror |
44,837 |
39,704 |
13% |
Mawrth |
61,343 |
46,783 |
31% |
Ebrill |
43,252 |
50,800 |
-15% |
Mai |
52,510 |
49,016 |
7% |
Mehefin |
59,832 |
57,764 |
4% |
Gorffennaf |
59,108 |
62,348 |
-5% |
Awst |
64,962 |
64,457 |
1% |
Medi |
52,786 |
63,591 |
-17% |
Hydref |
59,113 |
58,030 |
2% |
Tachwedd |
63,747 |
60,407 |
6% |
Rhagfyr |
56,361 |
63,628 |
-11% |
Cyfanswm |
661,613 |
654,177 |
1% |
Nifer y gwerthiannau 2012-2013
Mis | Gwerthiannau 2013 (Cymru a Lloegr) |
Gwerthiannau 2012 (Cymru a Lloegr) |
Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Ionawr |
43,000 |
43,762 |
-2% |
Chwefror |
44,621 |
44,837 |
0% |
Mawrth |
53,244 |
61,343 |
-13% |
Ebrill |
48,367 |
43,252 |
12% |
Adfeddiannau fesul rhanbarth
Adfeddiannau fesul rhanbarth |
April 2013 | April 2012 | Difference |
---|---|---|---|
Dwyrain Lloegr |
89 |
129 |
-31% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr |
117 |
153 |
-24% |
Llundain |
99 |
157 |
-37% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr |
31 |
42 |
-26% |
Gogledd Orllewin Lloegr |
254 |
380 |
-33% |
De Ddwyrain Lloegr |
131 |
166 |
-21% |
De Orllewin Lloegr |
85 |
102 |
-17% |
Cymru |
81 |
117 |
-31% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr |
142 |
131 |
8% |
Swydd Gaerefrog a'r Humber |
156 |
222 |
-30% |
Cymru a Lloegr |
1,185 |
1,599 |
-26% |
Mae'r Data Trafodiad yn dangos i'r Gofrestrfa Tir gwblhau dros 1,178,400 o geisiadau gan ei chwsmeriaid (gyda a heb gyfrif) ym mis Mehefin. Mae hyn yn cynnwys 1,135,152 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda 264,597 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau); 527,433 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl; 165,576 yn chwiliadau a 63,116 yn drafodion am werth.
Mynediad i'r set ddata trafodiad llawn
Trafodion am werth
Tri phrif gwsmer | Trafodion am werth |
---|---|
My Home Move Limited |
1,249 |
Countrywide Property Lawyers |
881 |
O'Neill Patient |
698 |
Chwiliadau
Tri phrif gwsmer | Chwiliadau |
---|---|
Enact |
6,495 |
Optima Legal Services |
4,738 |
TN Group (UK) Ltd (Search Choice) |
3,187 |
Ceisiadau fesul rhanbarth
Rhanbarth | Ceisiadau |
---|---|
De Ddwyrain Lloegr |
271,936 |
Llundain Fwyaf |
221,192 |
Gogledd Orllewin Lloegr |
123,158 |
De Orllewin Lloegr |
118,664 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr |
98,760 |
Swydd Gaerefrog a'r Humber |
93,932 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr |
85,479 |
Gogledd Lloegr |
58,684 |
Cymru |
58,155 |
Dwyrain Anglia |
48,336 |
Ynysoedd Sili |
77 |
Cymru a Lloegr (heb eu haseinio) |
39 |
Cyfanswm |
1,178,412 |
Mae'r Data pris a dalwyd yn cynnwys manylion dros 59,500 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i'w cofrestru ym mis Mehefin 2013. Mae'r eiddo drutaf a werthwyd ym mis Mehefin 2013 wedi'i leoli yng nghanol Llundain, a werthwyd am £12,250,000. Mae'r eiddo rhataf a werthwyd ym mis Mehefin 2013 wedi'i leoli yn Accrington, swydd Gaerhirfryn, a werthwyd am £13,000.
Mynediad i'r set ddata pris a dalwyd llawn
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
- Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a setiau data Trafodiad a Data pris a dalwyd mis Gorffennaf am 11 y bore ar ddydd Iau 29 Awst.
- Mae'r Grŵp Data Cyhoeddus yn dod â'r Gofrestrfa Tir, Tŷ’r Cwmnïau, y Swyddfa Dywydd a'r Arolwg Ordnans at ei gilydd i gydweithio i ddod o hyd i gyfleoedd a llywio effeithlonrwydd, yn ogystal â rhyddhau eu data i ddefnyddwyr ac ail-ddefnyddwyr am bris gostyngol neu am ddim.
- Mae'r Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA) a ddatblygwyd gan yr Archif Genedlaethol, yn caniatáu’r defnydd ac ail-ddefnydd rhydd o wybodaeth y sector gyhoeddus.
- Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
- Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
- Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
- Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion am 17 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
- Mae'r prif ystadegau ar gyfer Cymru a Lloegr ar dudalen 14 yr adroddiad Mynegai Prisiau Tai misol yn cynnwys data adfeddiannau ychwanegol.
- Mae'r data adfeddiannau yn seiliedig ar nifer y trafodion a gyflwynwyd i'r Gofrestrfa Tir gan roddwyr benthyg sy'n arfer eu pŵer gwerthu. Unwaith y byddwn wedi nodi'r trafodion hyn, rydym yn tynnu'r wybodaeth pris a dalwyd o'r cofnod perthnasol yn y gofrestr.
- Er bod y Mynegai yn mynd yn ôl i Ionawr 1995, dim ond oddi ar 2006 rydym wedi bod yn cofnodi adfeddiannau'n gynhwysfawr. Mae hyn yn golygu nad yw data adfeddiannau hanesyddol ar gael cyn mis Ionawr 2006.
- Mae tablau cefndir y Mynegai Prisiau Tai bellach ar gael fel Data Agored ar ffurf Excel a CSV ac mewn ffurf y gellir ei darllen ar beiriant fel data cysylltiedig
- Mae'r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. Gweler esboniad o'r termau a ddefnyddir.
- Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
- Mae'r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i'r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo. Rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o chwiliadau.
- Mae'r Data Pris a Dalwyd iyn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:
- y cyfeiriad llawn
- y pris a dalwyd
- dyddiad y trosglwyddiad
- y math o eiddo
- ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio
- ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo.
- Gellir ei llwytho i lawr o wefan y Gofrestrfa Tir fel cipolwg misol o'n cronfa ddata pris a dalwyd ac mae ar gael i bawb ei harchwilio neu ei hail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
- Gellir llwytho Data pris a dalwyd hanesyddol rhwng mis Ionawr 2009 a mis Ionawr 2012 i lawr am ddim ar ffurf csv ac ar ffurf y gellir ei darllen ar beiriant fel data cysylltiedig.
- I gael Data Pris a Dalwydhanesyddol rhwng 1995 a 2008, anfonwch ebost at addvalueservices@landregistry.gsi.gov.uk neu ffoniwch 0800 678 1678. Codir tâl am yr adroddiadau hyn er y byddant ar gael i'w llwytho i lawr am ddim erbyn mis Tachwedd 2013.
Cysylltu
- Ronal Patel 0300 006 7490, 07768 644685, ronal.patel@landregistry.gsi.gov.uk
- Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov
- Dewch o hyd i ni ar LinkedIn a Facebook