Data Tueddiadau'r Farchnad Mis Hydref gan y Gofrestrfa Tir
• Prisiau mis Hydref wedi gostwng 0.2 y cant oddi ar fis Medi: prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £165,515
• 1,200 o adfeddiannau yng Nghymru a Lloegr yn ystod mis Awst 2013
• De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol ym mis Hydref gyda 329,507 o geisiadau
• Cyflwynwyd dros 82,200 o eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i'w cofrestru ym mis Hydref yn amrywio o £8,500 i £18,700,000
Mae data mis Hydref o Fynegai Prisiau Tai y Gofrestrfa Tir yn dangos cynnydd prisiau blynyddol o 3.1 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £165,515. Mae'r newid misol o fis Medi i fis Hydref yn dangos gostyngiad o 0.2 y cant. Gostyngodd niferoedd yr adfeddiannau 29 y cant ym mis Awst 2013 i 1,200 o gymharu â 1,682 ym mis Awst 2012.
• Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 8.7 y cant
• Yng Nghymru y gwelwyd y cynnydd misol mwyaf gyda symudiad o 2.4 y cant.
• Gogledd Ddwyrain Lloegr yw’r rhanbarth a welodd y gostyngiad pris blynyddol mwyaf gyda gostyngiad o 0.8 y cant.
• Gogledd Ddwyrain Lloegr welodd y gostyngiad misol mwyaf arwyddocaol mewn prisiau hefyd gyda symudiad o -3.1 y cant.
• Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Awst 2013 gynyddu 15 y cant i 74,767 o gymharu â 65,014 ym mis Awst 2012
• Mae nifer yr eiddo yng Nghymru a Lloegr a werthwyd am fwy nag £1 miliwn ym mis Awst 2013 wedi gostwng 27 y cant i 1,104 o 871 ym mis Awst 2012
• Y rhanbarth welodd y gostyngiad mwyaf mewn adfeddiannau oedd De Ddwyrain Lloegr gyda gostyngiad o 41 y cant (115 ym mis Awst 2013 o gymharu â 196 ym mis Awst 2012)
Llwythwch adroddiad llawn Mynegai Prisiau Tai mis Hydref 2013 i lawr (PDF, 448KB)
Mynediad i'r set lawn o ddata
Chwilio'r Mynegai Prisiau Tai
Am y Mynegai Prisiau Tai
Rhanbarth | Newid misol (oddi ar fis Medi 2013) | Newid blynyddol(oddi ar fis Hydref 2012) | Pris cyfartalog (Hydref 2013) |
---|---|---|---|
Cymru | 2.4% | 0.3% | £117,097 |
Dwyrain Lloegr | 0.6% | 3.2% | £179,522 |
De Orllewin Lloegr | 0.4% | 2.4% | £174,645 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 0.4% | 2.2% | £124,580 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 0.3% | 1.0% | £130,231 |
Llundain | 0.2% | 8.7% | £390,720 |
Cymru a Lloegr | -0.2% | 3.1% | £165,515 |
De Ddwyrain Lloegr | -0.3% | 4.0% | £216,004 |
Swydd Gaerefrog a'r Humber | -0.5% | 1.1% | £117,450 |
Gogledd Orllewin Lloegr | -1.0% | -0.7% | £108,445 |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | -3.1% | -0.8% | £96,179 |
Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo
Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) | Hydref 2013 | Hydref 2012 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £260,997 | £253,867 | 2.8% |
Tŷ pâr | £157,031 | £152,748 | 2.8% |
Tŷ teras | £124,771 | £121,367 | 2.8% |
Fflat/Fflat deulawr | £156,681 | £150,702 | 4.0% |
Holl | £165,515 | £160,598 | 3.1% |
Nifer y gwerthiannau 2011-2012
Mis | Gwerthiannau 2012 (Cymru a Lloegr) | Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr) | Gwahaniaeth | |
---|---|---|---|---|
Ionawr | 43,771 | 37,659 | 16% | |
Chwefror | 44,858 | 39,708 | 13% | |
Mawrth | 61,362 | 46,786 | 31% | |
Ebrill | 43,265 | 50,809 | -15% | |
Mai | 52,529 | 49,021 | 7% | |
Mehefin | 59,863 | 57,778 | 4% | |
Gorffennaf | 59,146 | 62,357 | -5% | |
Awst | 65,014 | 64,468 | 1% | |
Medi | 52,864 | 63,604 | -17% | |
Hydref | 59,197 | 58,049 | 2% | |
Tachwedd | 63,915 | 60,423 | 6% | |
Rhagfyr | 56,624 | 63,644 | -11% | |
Cyfanswm | 662,408 | 654,306 | 1% |
Nifer y gwerthiannau 2012-2013
Month | Gwerthiannau 2013 (Cymru a Lloegr) | Gwerthiannau 2012 (Cymru a Lloegr) | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Ionawr | 43,266 | 43,771 | -1% |
Chwefror | 45,098 | 44,858 | 1% |
Mawrth | 54,414 | 61,362 | -11% |
Ebrill | 50,671 | 43,265 | 17% |
Mai | 65,676 | 52,529 | 25% |
Mehefin | 64,684 | 59,863 | 8% |
Gorffennaf | 71,459 | 59,146 | 21% |
Awst | 74,767 | 65,014 | 15% |
Adfeddiannau fesul rhanbarth
Adfeddiannau fesul rhanbarth | Awst 2013 | Awst 2012 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Dwyrain Lloegr | 98 | 136 | -28% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 97 | 146 | -34% |
Llundain | 108 | 143 | -24% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | 38 | 41 | -7% |
Gogledd Orllewin Lloegr | 292 | 411 | -29% |
De Ddwyrain Lloegr | 115 | 196 | -41% |
De Orllewin Lloegr | 77 | 96 | -20% |
Cymru | 103 | 139 | -26% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 101 | 156 | -35% |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | 171 | 218 | -22% |
Holl | 1,200 | 1,682 | -29% |
Mae'r Data Trafodiad yn dangos i'r Gofrestrfa Tir gwblhau dros 1,446,940 o geisiadau gan ei chwsmeriaid (gyda a heb gyfrif) ym mis Hydref. Mae hyn yn cynnwys 1,382,558 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda 350,707 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau); 616,974 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl; 195,687 yn chwiliadau a 71,086 yn drafodion am werth.
Mynediad i'r set lawn o ddata trafodiad
Trafodion am werth
Tri phrif gwsmer | Trafodion am werth |
---|---|
My Home Move Limited | 1,359 |
O'Neill Patient | 737 |
Countrywide Property Lawyers | 716 |
Chwiliadau
Tri phrif gwsmer | Chwiliadau |
---|---|
Enact | 9,322 |
Optima Legal Services | 6,313 |
Breeze and Wyles | 3,872 |
Ceisiadau fesul rhanbarth
Rhanbarth | Ceisiadau |
---|---|
De Ddwyrain Lloegr | 329,507 |
Llundain Fwyaf | 262,731 |
Gogledd Orllewin Lloegr | 159,189 |
De Orllewin Lloegr | 143,173 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 119,965 |
Swydd Gaerefrog a'r Humber | 112,643 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 111,504 |
Cymru | 75,806 |
Gogledd Lloegr | 72,145 |
Dwyrain Anglia | 60,154 |
Cymru a Lloegr (heb eu haseinio) | 89 |
Ynysoedd Sili | 39 |
Cyfanswm | 1,446,945 |
Mae'r Data pris a dalwyd yn cynnwys manylion dros 82,200 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i'w cofrestru ym mis Hydref 2013. Mae'r eiddo drutaf a werthwyd ym mis Hydref 2013 wedi'i leoli ym mwrdeistref Kensington a Chelsea, Llundain, a werthwyd am £18,700,000. Mae'r eiddo rhataf a werthwyd ym mis Hydref 2013 wedi'i leoli yn Middlesborough, Stockton-on-Tees a werthwyd am £9,000.
Mynediad i'r set lawn o ddata pris a dalwyd
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
- Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a setiau data Trafodiad a Data pris a dalwyd mis Tachwedd am 9.30 y bore ar 31 Rhagfyr 2013.
- Mae'r Grŵp Data Cyhoeddus yn dod â'r Gofrestrfa Tir, Tŷ’r Cwmnïau, y Swyddfa Dywydd a'r Arolwg Ordnans at ei gilydd i gydweithio i ddod o hyd i gyfleoedd a llywio effeithlonrwydd, yn ogystal â rhyddhau eu data i ddefnyddwyr ac ail-ddefnyddwyr am bris gostyngol neu am ddim.
- Mae'r Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA), a ddatblygwyd gan yr Archif Genedlaethol, yn caniatáu’r defnydd ac ail-ddefnydd rhydd o wybodaeth y sector gyhoeddus.
- Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
- Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
- Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
- Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion am 18.5 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
- Mae'r prif ystadegau ar gyfer Cymru a Lloegr ar dudalen 14 yr adroddiad Mynegai Prisiau Tai misol yn cynnwys data adfeddiannau ychwanegol.
- Mae'r data adfeddiannau yn seiliedig ar nifer y trafodion a gyflwynwyd i'r Gofrestrfa Tir gan roddwyr benthyg sy'n arfer eu pŵer gwerthu. Unwaith y byddwn wedi nodi'r trafodion hyn, rydym yn tynnu'r wybodaeth pris a dalwyd o'r cofnod perthnasol yn y gofrestr.
- Er bod y Mynegai yn mynd yn ôl i Ionawr 1995, dim ond oddi ar 2006 rydym wedi bod yn cofnodi adfeddiannau'n gynhwysfawr. Mae hyn yn golygu nad yw data adfeddiannau hanesyddol ar gael cyn mis Ionawr 2006.
- Mae tablau cefndir y Mynegai Prisiau Tai bellach ar gael fel Data Agored ar ffurf Excel a CSV ac mewn ffurf y gellir ei darllen ar beiriant fel data cysylltiedig.
- Mae'r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. Gweler esboniad o'r termau a ddefnyddir yn y Data trafodiad.
- Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
- Gwneir y rhan fwyaf o chwiliadau gan gyfreithwyr neu drawsgludwyr i warchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr ar gyfer chais i'r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant yr eiddo. Rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o chwiliadau.
- Mae'r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:
- y cyfeiriad llawn
- y pris a dalwyd
- dyddiad y trosglwyddiad
- y math o eiddo
- ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio
- ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo.
- Nawr gellir llwytho dros 18.5 o drafodion Data pris a dalwyd hanesyddol (rhwng mis Ionawr 1995 a mis Hydref 2013) i lawr am ddim ar ffurf csv ac mewn ffurf y gellir ei darllen ar beiriant fel data cysylltiedig yn data pris a dalwyd. Mae ar gael i unrhyw un ei archwilio neu ei ail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
- I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk. Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov. Dewch o hyd i ni ar LinkedIn, Facebook a'n blog.
Cysylltu
Marion Shelley
- 0300 006 7543,
- 07790 690297 a thrwy
- ebost marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk