logo_w

Amdanom ni

Adran o'r llywodraeth a sefydlwyd yn 1862 i gofrestru perchnogaeth tir ac eiddo yng Nghymru a Lloegr yw'r Gofrestrfa Tir.

Rydym yn cadw a chynnal y Gofrestr Tir, lle y cedwir dros 23 miliwn o deitlau – y dystiolaeth o berchnogaeth.

Gweledigaeth y Gofrestrfa Tir yw rhoi’r cwsmer, safon ac arloesiad wrth wraidd gwasanaethau cofrestru tir.

Unwaith y bydd tir neu eiddo wedi'i nodi yn y gofrestr, rydym yn cofnodi unrhyw newidiadau i berchnogaeth, morgeisi neu brydlesi sy'n effeithio arno. Fel rheol, caiff unrhyw un sy'n dioddef oherwydd gwall neu hepgoriad yn y gofrestr, neu oherwydd bod angen cywiro'r gofrestr, iawndal.

Rydym yn ariannu'n hunain trwy godi ffïoedd am gofrestriad a gwasanaethau eraill. Rydym yn creu incwm trwy werthu gwasanaethau Add Value hefyd.

Mae'r Gofrestrfa Tir yn rhan o'r Adran dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau (BIS) ac yn aelod o'r Grŵp Data Cyhoeddus o fewn BIS. Mae'r Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr, Malcolm Dawson, yn atebol i'r Ysgrifennydd Gwladol, Vince Cable a'r Gweinidog, Michael Fallon.

Rhagor o wybodaeth

Mynegai Prisiau Tai

Chewfror 2014: 273.2

(Ionawr 1995 = 100)

Pris cyfartalog £170,000 Newid:
Misol 0.7%
Blynyddol 5.3%
Mynegai nesaf: 9.30 y bore ar 30 Ebrill 2014

Cysylltu â ni

Bydd ein tîm Cefnogaeth i Gwsmeriaid yn ateb eich cwestiynau ac yn ymateb i'ch ymholiadau trwy ebost neu dros y ffôn.

Cysylltu...
Back to Top
© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix