Cyfarwyddyd i'n cyfrifoldebau
Beth yw'r Gofrestrfa Tir?
Rydym yn adran y llywodraeth a grëwyd yn 1862 i gofrestru perchnogaeth tir ac eiddo yng Nghymru a Lloegr.
Pam fod y Gofrestrfa Tir yn bodoli?
- I ddarparu cofnod dibynadwy o wybodaeth am berchnogaeth a buddion sy'n effeithio ar dir.
- I roi teitl i berchnogion sydd wedi'i gefnogi gan y wladwriaeth.
- I symleiddio trosglwyddiad buddion mewn tir.
Beth yw'r broses cofrestru tir?
Gweler y tair adran isod:
Deddfwriaeth
Mae Deddf Cofrestru Tir 2002 (‘DCT 2002’) a Rheolau Cofrestru Tir 2003 (‘RhCT 2003’) yn darparu fframwaith statudol ar gyfer cofrestriad. Rhaid i ni ddilyn y ddeddfwriaeth wrth gyflawni ein dyletswyddau.
Ein rôl
Rhaid i unigolion sy'n dod yn berchnogion tir neu sy'n berchen ar fuddion mewn tir wneud cais i ni i gofrestru'r budd hwnnw. Gall y cais fod i:
- gofrestru tir digofrestredig
- cofrestru perchennog newydd eiddo cofrestredig yn dilyn gwerthiant
- cofrestru budd sy'n effeithio ar dir cofrestredig, megis morgais, prydles neu hawl tramwy.
Ein rôl ni yw ystyried pob cais ac ystyried darpariaethau DCT 2002 a RhCT 2003 ac unrhyw ystyriaethau cyfreithiol perthnasol eraill er mwyn penderfynu a ddylid cofrestru'r cais.
Os bodlonir yr holl ofynion cyfreithiol yn glir, byddwn yn cofrestru'r cais. Fodd bynnag, lle ceir amheuon a yw'r cais yn bodloni'r gofynion cyfreithiol angenrheidiol, efallai y byddwn yn gwneud ymholiadau pellach i weld a yw'n briodol cofrestru'r cais neu ei wrthod ar y sail nad yw'n bodloni'r gofynion cyfreithiol perthnasol.
Mewn rhai achosion, cyn penderfynu a ddylid cofrestru’r cais, efallai y byddwn yn cyflwyno rhybudd, neu'n gorfod cyflwyno un, i bobl sydd â budd posibl, a fyddai, efallai’n dymuno gwrthwynebu'r cais.
Cofrestriad cyntaf tir digofrestredig
Mae gennym gyfrifoldebau penodol ar gofrestriad cyntaf eiddo digofrestredig. Rhaid i ni:
- fod yn fodlon bod y ceisydd wedi profi ei berchnogaeth o'r eiddo, fel rheol trwy ddarparu'r dogfennau teitl, gan gynnwys y weithred yn trosglwyddo’r berchnogaeth a chadwyn perchnogaeth am o leiaf 15 mlynedd cyn y weithred honno
- nodi popeth perthnasol yn y gweithredoedd a allai effeithio ar yr eiddo a'u cofnodi yn y gofrestr
- gallu nodi o'r wybodaeth a ddarparwyd gan y ceisydd stent yr eiddo i'w gofrestru ar argraffiad diweddaraf map yr Arolwg Ordnans.
Defnyddir y wybodaeth hon i baratoi'r gofrestr a'r cynllun teitl.
Caiff y cynllun teitl ei baratoi gan ddefnyddio manylion yr Arolwg Ordnans fel sail a bydd yn destun y goddefiannau cywirdeb a gyhoeddir gan yr Arolwg Ordnans. Mae manylion yr Arolwg Ordnans yn dangos lleoliad nodweddion diriaethol ar y ddaear; nid yw'n dangos terfynau cyfreithiol.
Mae'r rhan fwyaf o gynlluniau teitl yn destun terfynau cyffredinol, sy'n golygu bod yr ymylu coch a ddefnyddiwn i nodi'r eiddo ar gynllun teitl yn cynrychioli arwydd cyffredinol yn unig, yn hytrach nag union leoliad y terfyn.
Camgymeriadau a digolledu
Yn anffodus, gall gwallau godi yn y gofrestr o bryd i'w gilydd; er enghraifft, hepgor cofnod ar gyfer hawl tramwy o'r gofrestr neu gynnwys gormod o dir yn y teitl. Os byddwch ar eich colled o ganlyniad i wall yn y gofrestr, efallai y bydd gennych hawl i iawndal, a elwir yn “indemniad”.
Mae DCT 2002 yn nodi'r amgylchiadau lle y mae indemniad yn daladwy. Rhaid i chi ddangos bod eich hawl yn dod o fewn y meini prawf llym a nodir yn DCT 2002 i hawlio indemniad. Ceir gwybodaeth bellach yng Nghyfarwyddyd Ymarfer 39.
Mae hwn yn faes cyfreithiol cymhleth ac argymhellir eich bod yn ceisio cyngor cyfreithiol annibynnol.
Beth sydd y tu hwnt i gyfrifoldebau'r Gofrestrfa Tir?
Nid ydym yn gyfrifol am:
- gywirdeb map yr Arolwg Ordnans a ddefnyddir fel sail i'r cynlluniau teitl – rôl yr Arolwg Ordnans yw hwn
- gwneud yn siwr bod unigolion sy'n prynu eiddo yn glir am yr hyn maent yn ei brynu – cyfrifoldeb y prynwr/ei drawsgludwr yw hyn
- goruchwylio'r broses drawsgludo neu gamau gweithredu trawsgludwyr – rôl y cyrff proffesiynol perthnasol yw hyn
- goruchwylio ceisiadau am ganiatâd cynllunio – cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw hyn
- gwneud yn siwr nad yw perchnogion yn llechfeddiannu eiddo ei gilydd – cyfrifoldeb y perchnogion eiddo eu hunain yw hyn, gyda chyngor cyfreithiol lle bo angen
- monitro defnydd a hygyrchedd hawliau tramwy – cyfrifoldeb yr unigolion sydd â budd yr hawliau yw hyn
- gwneud yn siwr y cydymffurfir ag unrhyw gyfamod cyfyngu sy'n cyfyngu ar y ffordd y caiff y tir ei ddefnyddio – cyfrifoldeb yr unigolyn sydd â budd y cyfamod yw hyn.