logo_w

Ymgyngoriadau

Pan fyddwn yn gwneud cynigion a fydd, yn ein barn ni, yn gwneud cofrestru tir yn haws, rydym bob amser yn eu trafod mewn grwpiau defnyddwyr a fforymau eraill.

Os yw unrhyw un ohonynt yn effeithio'n sylweddol ar ymarfer neu weithdrefnau, byddwn yn cynnal ymgynghoriad ffurfiol.

Gall unrhyw un fynegi barn yn ystod ymgynghoriad y Gofrestrfa Tir. Mae'r cyfnod trafod yn parhau am 12 wythnos fel rheol a gall y sylwadau a dderbynnir wneud gwahaniaeth. Gallwch ymateb naill ai drwy ebost neu drwy'r post.

Ymarferion ymgynghori agored

 Y Gofrestrfa Tir: Pwerau Ehangach a Phridiant Tir Lleol

Ymarferion ymgynghori wedi cau

Newidiadau i'r Cytundeb Mynediad i'r Rhwydwaith a'r Llawlyfr Technegol Rhan 1 – Gwasanaeth Cofrestru Dogfen Electronig.

Cyfnod ymgynghori: 10 Mehefin hyd 5 Gorffennaf 2013

Mae'r ymgynghoriad yn ceisio barn am ein cynnig i newid y Cytundeb Mynediad i'r Rhwydwaith a'r Llawlyfr Technegol Rhan 1. Os byddwn yn gweithredu'r newidiadau a nodir yn yr ymgynghoriad, byddant yn galluogi mynediad e-DRS i'n holl gwsmeriaid busnes sy'n cyflwyno ceisiadau ar bapur.

Gallwch ddarllen am yr ymgynghoriad hwn yma o hyd.

 

Cau'r gwasanaeth archebu dros y ffôn a newidiadau i reolau Pridiannau Tir

Cyfnod ymgynghori: 4 Mai hyd 27 Gorffennaf 2012

Mae'r ymgynghoriad yn ceisio barn am ein cynigion i wneud newidiadau i ddeddfwriaeth Pridiannau Tir fydd yn ein galluogi i gau'r gwasanaeth archebu dros y ffôn ar gyfer cwsmeriaid busnes.

Gallwch ddarllen am yr ymgynghoriad hwn yma o hyd

Ymatebion i'r ymgynghoriad

 

Newidiadau i'r Cytundeb Mynediad i'r Rhwydwaith a'r Llawlyfr Technegol Rhan 1 – Gwasanaeth Cofrestru Dogfen Electronig.

Agorodd yr ymgynghoriad i 'Newidiadau i'r Cytundeb Mynediad i'r Rhwydwaith a'r Llawlyfr Technegol Rhan 1 – Gwasanaeth Cofrestru Dogfen Electronig' ar 10 Mehefin 2013 a daeth i ben ar 5 Gorffennaf 2013. Dyma ein hymateb ffurfiol i'r ymgynghoriad.

Pdf iconAdroddiad ymateb i'r ymgynghoriad (109KB)

 

Cau'r gwasanaeth archebu dros y ffôn a newidiadau i reolau Pridiannau Tir

Agorodd yr ymgynghoriad i 'Cau'r gwasanaeth archebu dros y ffôn a newidiadau i reolau pridiannau tir' ar 4 Mai 2012 a daeth i ben ar 27 Gorffennaf 2012. Mae'r dogfennau canlynol yn cynnwys:

Cofrestru Tir a Deddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007

Agorodd yr ymgynghoriad i 'Cofrestru Tir a Deddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007' ar 6 Rhagfyr 2010 a daeth i ben ar 28 Chwefror 2011. Dyma ein hymateb ffurfiol i'r ymgynghoriad

Pdf iconAdroddiad Ymatebion i'r Ymgynghoriad

Rheolau Cofrestru Tir (e-drawsgludo) 2011

Agorodd yr ymgynghoriad i 'Rheolau Cofrestru Tir (e-drawsgludo) 2011' ar 22 Mawrth 2010 a daeth i ben ar 25 Mehefin 2010. Dyma ein hymateb ffurfiol i'r ymgynghoriad.

Pdf iconAdroddiad Ymatebion i'r Ymgynghoriad

Ymarferion ymgynghori blaenorol

Mae archif o ymarferion ymgynghori y Gofrestrfa Tir ac ymatebion ar gael ar wefan yr Archif Genedlaethol.

 

Mynegai Prisiau Tai

Chewfror 2014: 273.2

(Ionawr 1995 = 100)

Pris cyfartalog £170,000 Newid:
Misol 0.7%
Blynyddol 5.3%
Mynegai nesaf: 9.30 y bore ar 30 Ebrill 2014

Cysylltu â ni

Bydd ein tîm Cefnogaeth i Gwsmeriaid yn ateb eich cwestiynau ac yn ymateb i'ch ymholiadau trwy ebost neu dros y ffôn.

Cysylltu...
Back to Top
© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix