Cyngor a chefnogaeth
Gwybodaeth ac arbenigedd gweinyddu tir perthnasol i helpu i gyflwyno prosiectau'n fwy effeithiol. Mae ein hystod eang o arbenigwyr ar gael i gynorthwyo llywodraethau sy'n gleientiaid.
Beth y gallwn ei gynnig:
- Gall ein harbenigwyr roi cefnogaeth a chyngor ar ystod eang o swyddogaethau gweinyddu tir.
- Rydym yn darparu arbenigwyr ar gyfer aseiniadau ymgynghori, boed am ychydig ddyddiau neu ychydig wythnosau.
- Mae ein gwasanaethau ymgynghorol ar gael yn uniongyrchol i lywodraethau sy'n gleientiaid ac yn anuniongyrchol fel contractwyr annibynnol ar brosiectau gweinyddu tir mwy.
Rydym yn darparu cefnogaeth ar:
- Datblygu systemau gwybodaeth am dir – gan gynnwys mapio digidol a chofrestru tir cyfrifiadurol
- gweinyddu tir a hawliau eiddo
- Drafftio deddfwriaeth cofrestru tir
- agweddau cyfreithiol a threfniadaethol ar weinyddu tir a stentiau
- moderneiddio systemau cofrestru tir
- customer service
- rheoli cofnodion
- caffael
- cynllunio busnes
- rheoli prosiect a rhaglen
- rheoli newid
- ail-lunio prosesau.
Mynegai Prisiau Tai
Chewfror 2014: 273.2(Ionawr 1995 = 100)
Pris cyfartalog £170,000 Newid:Blynyddol 5.3%
Cysylltu â ni
Bydd ein tîm Cefnogaeth i Gwsmeriaid yn ateb eich cwestiynau ac yn ymateb i'ch ymholiadau trwy ebost neu dros y ffôn.
Cysylltu...