logo_w

PR 16/12
17 Hydref 2012

Cynhadledd ryngwladol yn rhoi twf economaidd ar yr agenda

Ymgasglodd siaradwyr a chynadleddwyr o bedwar ban byd yn Llundain i rannu eu harbenigedd a dathlu 150 mlwyddiant y Gofrestrfa Tir yn ystod cynhadledd UNECE (Comisiwn Economaidd ar gyfer Ewrop y Cenhedloedd Unedig) a gynhaliwyd gan Gofrestrfa Tir EM ddydd Iau 11 a dydd Gwener 12 Hydref. Thema'r gynhadledd oedd rôl awdurdodau cofrestru tir yn y gwaith o gefnogi adfywiad economaidd byd-eang.

Dywedodd Malcolm Dawson, Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr:

“Mae daliadaeth tir a hawliau tir diogel yn hanfodol ar gyfer economi sefydlog gwledydd a chofrestru tir effeithiol yw sail twf economaidd byd-eang hirdymor. Mae hanes 150 mlynedd Cofrestrfa Tir EM wedi cyfrannu at un o'r marchnadoedd eiddo mwyaf bywiog a hyderus yn y byd. Fodd bynnag, nid amdanom ni'n unig mae'r drafodaeth, mae angen i ni gydweithio gyda'r gymuned benthyg a'r sector cyfreithiol i ysgogi twf economaidd. Mae'n bwysig nad ydym yn gorfodi datrysiadau ar y farchnad, ond yn cydweithio â hi i wireddu'r manteision i bawb.”

Arweiniodd siaradwyr megis Prif Weithredwr Cymdeithas y Cyfreithwyr, Desmond Hudson a Chyfarwyddwr Eiddo'r Awdurdod Datblygu Olympaidd, Ralph Luck, drafodaethau ar bynciau'n cynnwys sut y gall cofrestru tir effeithlon helpu defnyddwyr a datblygwyr. Amlygodd y gynhadledd y rôl ganolog y mae sefydliadau cofrestru tir yn ei chwarae wrth roi'r hyder a'r sicrwydd angenrheidiol ar gyfer economi weithgar a rhoi hyder i'r farchnad benthyg.

Dywedodd Julie Barry, Pennaeth Ymgysylltiad Byd-eang:

“Dangosodd y gynhadledd fod pob awdurdod cofrestru tir yn y rhanbarth yn ystyried materion tebyg mewn cysylltiad ag effeithlonrwydd trwy dechnoleg a digideiddio, data agored a thryloywder, yr angen am safonau cyffredin a diogelwch a gwrthsefyll twyll. Mae Uned Ryngwladol y Gofrestrfa Tir wedi cynorthwyo dros 60 o wledydd yn ystod y deng mlynedd diwethaf ac mae'n amlwg y gallwn ddod o hyd i ffyrdd o fynd i'r afael â'r heriau hyn ac eraill yn y dyfodol trwy gydweithio a rhannu arbenigedd.”

Noddwyd y gynhadledd gan Thomson Reuters.

Rhagor o wybodaeth am y gynhadledd

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Mae'n bosibl trefnu cyfweliad â Malcolm Dawson, Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr gyda'r Gofrestrfa Tir. Cysylltwch â marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk 0300 0067543.

  1. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
  2. Roedd 15 Hydref 2012 yn nodi 150 mlwyddiant y Gofrestrfa Tir.
  3. Pan sefydlwyd CTEM gyntaf roedd y mwyafrif o boblogaeth y DU yn byw mewn eiddo fel tenant neu mewn eiddo clwm. Credodd y Prif Gofrestrydd Tir cyntaf, Syr Charles Fortescue-Brickdale, y byddai creu teitlau diogel a symleiddio a lleihau cost trosglwyddo tir ac eiddo yn galluogi i lawer o'r boblogaeth allu meddu ar eiddo preifat.
  4. Yn 1925, dim ond 14 y cant o'r boblogaeth oedd wedi byw mewn eiddo lle'r oedd y perchennog yn preswylio. Heddiw mae tua 66 y cant o boblogaeth y DU yn berchnogion sy'n ddeiliaid eiddo ac mae dros 80 y cant o dir Cymru a Lloegr yn gofrestredig.
  5. Heddiw mae'r Gofrestrfa Tir yn gwarchod perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd sy'n galluogi prynwyr, gwerthwyr a rhoddwyr benthyg i fod yn hyderus yn y farchnad eiddo sy'n cefnogi'r economi ac yn creu refeniw.
  6. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk

Cysylltu

Marion Shelley 0300 0067543, 07790 690297
marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk

Ronal Patel 0300 0067490
Ronal.patel@landregistry.gsi.gov.uk

Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov 
Dewch o hyd i ni ar LinkedIn

 

© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix