03/05/2011
Prisiau tai mis Chwefror wedi gostwng 0.8 y cant oddi ar fis Ionawr: pris tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £162,215
Mae data mis Chwefror o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos gostyngiad pris blynyddol o 1.7 y cant sy’n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £162,215. Mae’r newid misol o fis Ionawr i fis Chwefror yn ostyngiad o 0.8 y cant.
Gwelodd dau ranbarth yng Nghymru a Lloegr gynnydd yng ngwerthoedd eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf. Y rhanbarth â’r newid prisiau blynyddol mwyaf yw Llundain gyda chynnydd o 3.2 y cant. Dwyrain Lloegr welodd y cynnydd misol mwyaf hefyd, gyda chynnydd o 1.2 y cant. Y rhanbarth gyda’r gostyngiad pris blynyddol mwyaf yw Gogledd Ddwyrain Lloegr gyda symudiad o -7.1 y cant. Gogledd Ddwyrain Lloegr welodd y gostyngiad misol mwyaf arwyddocaol hefyd, gyda symudiad o -4 y cant.
Mae’r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Rhagfyr 2010 ostwng 30 y cant i 54,812 o 78,438 ym mis Rhagfyr 2009. Cododd nifer yr eiddo a werthwyd am dros £1 filiwn yng Nghymru a Lloegr 3 y cant rhwng mis Rhagfyr 2009 a mis Rhagfyr 2010, o 522 i 540.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk/houseprices
Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov
Rhanbarth |
Newid misol (oddi ar fis Ionawr 2011) |
Newid blynyddol (oddi ar fis Chwefror 2010) |
Pris cyfartalog (Chwefror 2011) |
Dwyrain Lloegr |
1.2% |
1.0% |
£176,291 |
Gogledd Orllewin Lloegr |
0.6% |
-3.7% |
£115,772 |
Cymru |
-0.4% |
-2.4% |
£120,898 |
Llundain |
-0.5% |
3.2% |
£341,048 |
Cymru a Lloegr |
-0.8% |
-1.7% |
£162,215 |
De Ddwyrain Lloegr |
-0.8% |
-1.9% |
£205,206 |
De Orllewin Lloegr |
-1.2% |
-2.2% |
£172,646 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr |
-1.9% |
-3.5% |
£124,337 |
Swydd Gaerefrog a’r Humber |
-2.0% |
-4.0% |
£121,844 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr |
-2.7% |
-5.4% |
£128,925 |
Gogledd Ddwyrain Lloegr |
-4.0% |
-7.1% |
£102,180 |
Prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) |
Chwefror 2011 |
Chwefror 2010 |
Gwahaniaeth (%) |
Tŷ sengl |
£256,674 |
£257,459 |
-0.3% |
Tŷ pâr |
£153,882 |
£156,356 |
-1.6% |
Tŷ teras |
£123,332 |
£126,693 |
-2.7% |
Fflat/fflat deulawr |
£151,068 |
£154,471 |
-2.2% |
Holl |
£162,215 |
£165,020 |
-1.7% |
Mis |
Gwerthiannau 2010 (Cymru a Lloegr) |
Gwerthiannau 2009 (Cymru a Lloegr) |
Gwahaniaeth |
Ionawr |
35,801 |
26,273 |
36% |
Chwefror |
42,497 |
27,264 |
56% |
Mawrth |
51,347 |
35,517 |
45% |
Ebrill |
52,212 |
39,338 |
33% |
Mai |
52,086 |
45,859 |
14% |
Mehefin |
62,557 |
54,762 |
14% |
Gorffennaf |
67,264 |
63,647 |
6% |
Awst |
61,164 |
58,319 |
5% |
Medi |
57,011 |
58,472 |
-2% |
Hydref |
57,981 |
65,770 |
-12% |
Tachwedd |
55,225 |
61,075 |
-10% |
Rhagfyr |
54,812 |
78,438 |
-30% |
Cyfanswm |
649,957 |
614,734 |
6% |
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
1. Oddi ar 2006, mae Mynegai Prisiau Tai'r Gofrestrfa Tir, sydd ar gael am ddim yn www.cofrestrfatir.gov.uk/houseprices wedi cynyddu momentwm i ddod yn ddangosydd blaenllaw o symudiadau eiddo yng Nghymru a Lloegr. Caiff ei ystyried yn eang fel "y baromedr mwyaf cywir o'r farchnad dai".
2. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y Gofrestrfa Tir ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir mynegai mis Mawrth am 11 y bore ar ddydd Mercher 4 Mai 2011.
3. Mae’r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy’n fwy na’r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae’n cael ei gyfrifo ar sail set ddata’r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
4. Mae set ddata’r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion 16 miliwn o drafodion preswyl. O’r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy’n darparu’r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio’r mynegai. Mae’r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
5. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 22 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy warchod perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
6. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder ac Arglwydd Ganghellor, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
7. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk
Cysylltu
Marion Shelley 0300 0067543
marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk
Jill Inglis 0300 0067487