FFYRDD NEWYDD AR GYFER HEN DDOGFENNAU
O heddiw ymlaen (3 Rhagfyr 2012), bydd miloedd o weithwyr eiddo proffesiynol yn gallu gwneud ceisiadau'n gynt ac yn fwy cost effeithiol i ddiweddaru manylion a gedwir ar gofrestri eiddo gyda gwasanaeth newydd y Gofrestrfa Tir.
Mae'r Gwasanaeth Cofrestru Dogfen electronig newydd (e-DRS) ar gael nawr trwy'r 'porthol', sef sianel trafodion poblogaidd y Gofrestrfa Tir. Mae'n galluogi defnyddwyr megis trawsgludwyr i anfon a derbyn y rhan fwyaf o'u ceisiadau i newid y gofrestr yn electronig - yn hytrach na thrwy'r post.
Yn siarad yn y digwyddiad lansio heddiw, dywedodd Malcolm Dawson, Prif Weithredwr y Gofrestrfa Tir:
“Mae ein cwsmeriaid yn cyflwyno miloedd o geisiadau i ddiweddaru cofrestri eiddo gyda ni bob dydd. Ein nod gydag e-DRS yw gwneud hon yn broses gyflym a hawdd. Rydym yn gweithio'n agos gyda'n cwsmeriaid ar bob cam o'r gwaith datblygu er mwyn sicrhau y bydd y gwasanaeth newydd yn lleihau costau cwsmeriaid heb yr angen am newidiadau mawr i'w prosesau neu i'w perthynas â'u cleientiaid. Yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf rydym am ddatblygu hyn ymhellach a chyrraedd sefyllfa lle y gellir cyflwyno pob cais ar-lein.”
Ychwanegodd Angela Jackson, rheolwr cynnyrch y Gofrestrfa Tir ar gyfer e-DRS:
“Mae'r gallu i gyflwyno'r rhan fwyaf o geisiadau i newid cofrestri eiddo'n electronig yn rhoi nifer o fanteision i'n cwsmeriaid ac i'r Gofrestrfa Tir. Bydd cyflwyno ar-lein yn lleihau'r amser prosesu cyfartalog o'r dechrau i'r diwedd ac yn dileu'r costau postio.
“Mae ceisiadau electronig yn cefnogi ymdrechion cwsmeriaid i dorri lawr ar y defnydd o bapur a gall leihau prosesu â llaw. Yn bwysig iawn, mae derbyn ac ymateb i geisiadau'n electronig yn awtomatig yn creu trywydd archwilio sy'n helpu ymdrechion i atal a chanfod twyll eiddo.”
Mae Jonathan Sharp, Partner gyda Chyfreithwyr Hartley & Worstenholme, wedi bod yn defnyddio'r gwasanaeth prototeip ers pedwar mis.
“Yn ein barn ni mae e-DRS yn hawdd iawn i'w ddefnyddio trwy'r porthol. Mae cael dogfennau wedi'u dychwelyd atom yn electronig yn ein galluogi i ymateb i gleientiaid mor gyflym â phosibl. Rydym wedi gweld mantais amgylcheddol ac arbedion costau gan nad oes angen i ni lungopïo ceisiadau mwyach. Gallwn eu sganio'n syml ar y system a'u llwytho i fyny i'r Gofrestrfa Tir gyda'r cais. Mae cael sicrwydd bod y Gofrestrfa Tir wedi derbyn ein cais yn ardderchog.”
Ni chodir ffïoedd ychwanegol am ddefnyddio e-DRS. Mae'r ffïoedd ar gyfer cyflwyno ceisiadau trwy e-DRS yn seiliedig ar Orchymyn Ffi presennol y Gofrestrfa Tir. Mae'r gwasanaeth wedi bod ar gael trwy sianel integredig busnes i fusnes y Gofrestrfa Tir, y Business Gateway, oddi ar fis Medi 2012.
Ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk/e-drs i:
- wylio fideos, cyflwyniadau a hyfforddiant rhyngweithiol
- dod o hyd i wybodaeth a chyfarwyddyd am gofrestru ar gyfer e-DRS a'i ddefnyddio
- gweld rhestr lawn o geisiadau y gallwch eu hanfon a'u derbyn.
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
- Mae porthol y Gofrestrfa Tir yn blatfform gwefan diogel a ddefnyddir i gael mynediad i'n E-wasanaethau busnes. Mae cwsmeriaid sy'n cael mynediad i e-wasanaeth busnes trwy'r porthol yn profi gwasanaeth cyflymach a mwy cost effeithiol nag wrth ddefnyddio'r llwybr papur traddodiadol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn http://www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/business-e-services/the-portal
- Mae eleni'n nodi 150 mlwyddiant y Gofrestrfa Tir. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
- Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
- I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk
Cysylltu
Marion Shelley 0300 0067543, 07790 690297