logo_w

29 Ebrill 2013
PR 07/13

Y Gofrestrfa Tir yn rhyddhau ei Mynegai Prisiau Tai fel Data Agored

O heddiw, 30 Mai 2013, bydd tablau data'r Gofrestrfa Tir sy'n seiliedig ar dros 17 miliwn o werthiannau arian parod a morgais ar gael fel data agored.

Gellir llwytho tablau cyfun y Mynegai Prisiau Tai yn ôl i 1995 i lawr ar ffurf CSV ac Excel am ddim ac, o fis Gorffennaf, byddant ar gael ar ffurf data cysylltiedig y gellir ei ddarllen ar beiriant.

Cydnabyddir Mynegai Prisiau Tai y Gofrestrfa Tir fel y mynegai eiddo mwyaf cynhwysfawr sydd ar gael.

Dywedodd Andrew Trigg, Pennaeth y Rhaglen Ddata:

"Mae rhyddhau'r data hwn yn dangos ein hymrwymiad i well tryloywder a'r agenda data agored. Yn ogystal, mae'n cefnogi ein cynllun i ryddhau ein holl ddata trwyddedadwy erbyn 2018.

"Cyhoeddwyd ein Mynegai Prisiau Tai ar-lein gyntaf ym mis Hydref 2006 ac oddi ar hynny mae entrepreneuriaid a sefydliadau wedi ailddefnyddio'r data i gefnogi penderfyniadau busnes ac i ddatblygu cymwysiadau a gwasanaethau arloesol. Trwy wneud y data archif ar gael yn eang, gobeithiwn y bydd yn rhyddhau rhagor o botensial gan gyfrannu at fenter busnes a thwf economaidd.

"Trwy gyhoeddi'r ddataset lawn ar ffurf fwy defnyddiol sy'n ymgorffori'r data craidd a'r data cyfun, gobeithiwn annog y gwaith o ddatblygu cymwysiadau a gwasanaethau fydd o fantais i'r diwydiant a'r cyhoedd, fel ei gilydd."

Gallai hyn gynnwys:

  • cymwysiadau sy'n dadansoddi tueddiadau a phatrymau yn y farchnad dai
  • datblygu meddalwedd prisio ac amcanbrisiau
  • rhagamcanion polisi tai a chymdeithasol.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  1. Cyhoeddir y tablau ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis fel Data Agored ar ffurf Excel a CSV yn http://www.cofrestrfatiry.gov.uk/public/information/public-data/hpi-background a http://data.gov.uk/ i'w defnyddio o dan y Drwydded Llywodraeth Agored. Cyhoeddir y set nesaf o dablau ar ddydd Gwener 28 Mehefin. Cânt eu cyhoeddi ar ffurf y gellir ei ddarllen ar beiriant fel data cysylltiedig o fis Gorffennaf 2013.
  2. Mae'r tablau yn cynnwys mynegeion cyfredol, prisiau tai cyfartalog a nifer y gwerthiannau yn ôl i 1995 ar gyfer Cymru a Lloegr ar lefel rhanbarthol, sir/awdurdod unedol, dosbarth metropolitan a bwrdeistref Llundain ac maent yn llunio rhan o gyfrifiad y Mynegai Prisiau Tai.
  3. Rhestr o dablau cefndir y Mynegai Prisiau Tai:
    1. Mynegeion
    2. Mynegeion wedi’u haddasu yn ôl y tymor
    3. Mynegeion wedi’u haddasu yn ôl y tymor a'u llyfnhau
    4. Prisiau cyfartalog wedi’u haddasu yn ôl y tymor
    5. Prisiau cyfartalog wedi’u haddasu yn ôl y tymor a'u llyfnhau
    6. Newid misol
    7. Newid blynyddol
    8. Gwerthiannau
  4. Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
  5. Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion am 17 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
  6. I ddysgu rhagor am yr holl setiau data sydd gennym, ewch i'n rhestr ddataset.
  7. Mae'r Drwydded Llywodraeth Agored  (TLlA)), a ddatblygwyd gan yr Archif Genedlaethol, yn caniatáu’r defnydd ac ail-ddefnydd rhydd o wybodaeth y sector gyhoeddus am ddim. I gael rhagor o wybodaeth ewch i .
  8. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar1990.
  9. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
  10. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov Dewch o hyd i ni ar LinkedIn a Facebook

Cysylltu

© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix