28 Mehefin
PR 11/13
Y Gofrestrfa Tir yn gwneud y mwyaf o ddata agored
Heddiw, 28 Mehefin, mae’r Gofrestrfa Tir yn gwneud ei chofnodion pris a dalwyd hanesyddol ar gael i'w llwytho i lawr am ddim i ddatblygwyr a busnesau eu defnyddio a’u hailddefnyddio fel rhan o’i rhaglen data agored. Gan ddefnyddio un o setiau ddata eiddo mwyaf y byd gyda dros 17 miliwn o werthiannau preswyl arian parod a mogais yng Nghymru a Lloegr, dim ond fel cynnyrch masnachol oedd y data craidd ar gael cyn hyn, a oedd i’w weld yn aml ar wefannau eiddo. Mae’n cael ei ddefnyddio i gyfrifol Mynegai Prisiau Tai poblogaidd y Gofrestrfa Tir hefyd.
Mae’r cam cyntaf sy’n cael ei ryddhau heddiw yn cynnwys cofnodion gwerthiannau am werth llawn y farchnad a gyflwynwyd i’w cofrestru rhwng mis Ionawr 2009 a mis Ionawr 2012. Caiff gweddill y data sy’n cynnwys y cyfnod rhwng mis Ionawr 1995 a mis Rhagfyr 2008 ei ryddhau erbyn mis Tachwedd 2013. Gyda’i gilydd mae hyn yn cynrychioli gwerth dros 17 mlynedd o wybodaeth werthfawr am farchnad dai’r wlad.
Yn siarad yn gynharach heddiw, dywedodd Ed Lester, y Prif Gofrestrydd Tir:
"Er ein bod wedi bod yn cyhoeddi’r data hwn am ddim oddi ar fis Mawrth 2012, dyma’r tro cyntaf i’r set hanesyddol gyflawn fod ar gael am ddim fel data agored, sy’n dangos ein hymrwymiad i dwf economaidd trwy well tryloywder a’r agenda data agored."
Ychwanegodd Robin Lumley-Savile, Prif Weithredwr Locatable.com, a new way to find your next place to live added:
"Rydym wedi’n cyffroi’n fawr i weld y Gofrestrfa Tir yn cyhoeddi ei data pris a dalwyd gan fod y cam arloesol hwn yn alinio’n uniongyrchol â’n strategaeth busnes o roi gwell tryloywder i’r farchnad eiddo breswyl yn y DU. Trwy wneud hyn, mae Llywodraeth y DU wedi bachu’r safle gyntaf yn y ras i agor data’r byd, gan osod esiampl o sut y gellir defnyddio’r broses hon i greu cyfle economaidd."
Mae’r Gofrestrfa Tir yn lansio ei her data agored cyntaf i gyd-fynd â’r rhyddhad. Gofynnir i ymgeiswyr ddangos gwerth data agored y Gofrestrfa Tir trwy ddangos y potensial o sut y gellir ei ddefnyddio, gyda hyd at £3,000 wedi’i glustnodi fel gwobrau ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus.
Parhaodd Ed Lester:
"Rydym yn gwybod bod entrepreneuriaid a sefydliadau yn defnyddio ein data i gefnogi’r gwaith o wneud penderfyniadau busnes ac i ddatblygu cymwysiadau a gwasanaethau arloesol. Fodd bynnag, wrth ryddhau data pris a dalwyd heddiw a’n her data agored newydd, ein gobaith yw y bydd rhagor o ddefnyddwyr a BBaCh yn cael eu hannog i gyflwyno syniadau cyffrous a fydd yn cyfrannu at arloesedd busnes a thwf economaidd."
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
- Dyma bedwerydd rhyddhad data agored y Gofrestrfa Tir heddiw. Mae’r Gofrestrfa Tir wedi bod yn cyhoeddi setiau data am ddim oddi ar 2012 o dan y Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA) ar ffurfiau CSV ac Excel.
- Dechreuodd y Gofrestrfa Tir ddarparu ei data agored fel data cysylltiedig ym mis Ionawr 2013. Mae wedi cyhoeddi amserlen o ryddhadau data agored a gynllunnir ar gyfer eleni, yn ogystal â mynegai set ddata lawn.
- Mae holl ddata agored y Gofrestrfa Tir ar gael i’w lwytho i lawr o wefan y Gofrestrfa Tir Data.gov.uk o dan y TLlA.
- Ceir manylion llawn yr her a sut i gofrestru yn http://www.landregistry.gov.uk/campaigns/open-data-challenge Gellir cyflwyno ceisiadau rhwng 26 Gorffennaf a 25 Hydref 2013.
- Mae set ddata pris a dalwyd y Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion am dros 17 miliwn o drafodion preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar fis Ionawr 1995. Mae’n darparu’r sail ar gyfer y dadansoddiad a ddefnyddir i gwblhau’r Mynegai Prisiau Tai misol.
- Mae’r cofnodion yn cynnwys cyfeiriad llawn yr eiddo, y pris a dalwyd, dyddiad y gwerthiant, y math o eiddo, ai adeilad newydd yw’r eiddo ai peidio ac ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw’r eiddo.
- I gael rhagor o wybodaeth am yr holl setiau data a gedwir gennym, llwythwch ein rhestr ddataset i lawr.
- Cyhoeddir y setiau data ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis ar ffurf Excel, CSV a data cysylltiedig yn http://www.landregistry.gov.uk/market-trend-data and http://data.gov.uk/ for i’w defnyddio o dan y Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA). Cyhoeddir y setiau data nesaf i’w rhyddhau ar ddydd Gwener 26 Gorffennaf #opendata .
- I gael rhestr lawn o’r holl setiau data a gedwir gan y Gofrestrfa Tir, ewch i’n rhestr ddataset.
- Mae'r Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA), a ddatblygwyd gan yr Archif Genedlaethol, yn caniatáu’r defnydd ac ail-ddefnydd rhydd o wybodaeth y sector gyhoeddus. I gael rhagor o wybodaeth ewch i http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence.
- Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
- Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
- I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.landregistry.gov.uk Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov Dewch o hyd i ni ar LinkedIn a Facebook
Cysylltu
- Swyddfa'r Wasg y Gofrestrfa Tir
- Marion Shelley 0300 0067543, 07790 690297 marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk