logo_w
29 Awst 2013
PR 14/13

Data Tueddiadau'r Farchnad mis Gorffennaf gan y Gofrestrfa Tir

  • Prisiau tai mis Gorffennaf yn codi 1.0 y cant oddi ar fis Mehefin: prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £164,098.
  • 1,365 o adfeddiannau yng Nghymru a Lloegr yn ystod mis Mai 2013.
  • De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol ym mis Gorffennaf gyda 308,448 o geisiadau.
  • Cyflwynwyd dros 75,000 o eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i'w cofrestru ym mis Gorffennaf yn amrywio o £15,000 i £23.3 miliwn.
  • Mae cofnodion prisiau tai ar gael fel data cysylltiedig.

Mae data mis Gorffennaf o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir  yn dangos cynnydd prisiau blynyddol o 0.8 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £164,098. Mae'r newid misol o fis Mehefin i fis Gorffennaf yn dangos cynnydd o 1.0 y cant. Gostyngodd niferoedd yr adfeddiannau 23 y cant ym mis Mai 2013 i 1,365 o gymharu â 1,765 ym mis Mai 2012.

  • Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 6.3 y cant.
  • Gwelodd Llundain a Dwyrain Canolbarth Lloegr y cynnydd misol mwyaf gyda symudiad o 2.1 y cant.
  • Y rhanbarth gyda'r gostyngiad pris blynyddol mwyaf yw Cymru gyda gostyngiad o 2.2 y cant.
  • Cymru welodd y gostyngiad prisiau misol mwyaf arwyddocaol hefyd gyda gostyngiad o 0.5 y cant.
  • Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Mai 2013 gynyddu 19 y cant i 62,651 o gymharu â 52,516 ym mis Mai 2012.
  • Mae nifer yr eiddo yng Nghymru a Lloegr a werthwyd am fwy nag £1 miliwn ym mis Mai 2013 wedi cynyddu 28 y cant i 740 o 576 ym mis Mai 2012.
  • Y rhanbarth welodd y gostyngiad mwyaf mewn adfeddiannau oedd Swydd Gaerefrog a’r Humber gyda gostyngiad o 32 y cant (185 ym mis Mai 2013 o gymharu â 272 ym mis Mai 2012).

 Llwytho adroddiad llawn mis Gorffennaf i lawr (PDF, 448KB)
 Mynediad i'r set lawn o ddata
 Chwilio'r Mynegai Prisiau Tai 
 Y Mynegai Prisiau Tai

Rhanbarth Newid misol (oddi ar fis Mehefin 2013) Newid blynyddol(oddi ar fis Gorffennaf 2012) Pris cyfartalog(Gorffennaf 2013)

Llundain

 2.1%

 6.3%

£385,799

Dwyrain Canolbarth Lloegr

 2.1%

 0.5%

£124,395

Gogledd Ddwyrain Lloegr

 2.0%

-0.1%

 £99,718

Dwyrain Lloegr

 1.0 %

 1.3%

£176,762

Cymru a Lloegr

 1.0%

 0.8%

£164,098

De Orllewin Lloegr

 0.9%

 1.0%

£173,371

Swydd Gaerefrog a'r Humber 

 0.8%

-1.8%

£116,665

Gorllewin Canolbarth Lloegr

 0.5%

 0.6%

£130,404

De Ddwyrain Lloegr

 0.4%

 1.5%

£212,934

Gogledd Orllewin Lloegr

-0.1%

-1.6%

£108,008

Cymru

-0.5%

-2.2%

£115,149


Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo 

Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) Gorffennaf 2013 Gwahaniaeth

Tŷ sengl

£257,413

 £256,581

0.3%

Tŷ pâr

£155,244

 £153,522

1.1%

Tŷ teras

£124,620

 £123,172

1.2%

Fflat/Fflat deulawr

£155,174

 £154,494

0.4%

Holl

£164,098

  £162,746

0.8%


Nifer y gwerthiannau 2011-2012 

Mis Gwerthiannau 2012
(Cymru a Lloegr)
Gwerthiannau 2011
(
Cymru a Lloegr)
Gwahaniaeth

Ionawr

43,764

37,653

 16%

Chwefror

44,844

39,706

 13%

Mawrth

61,348

46,783

 31%

Ebrill

43,258

50,803

-15%

Mai

52,516

49,018

   7%


Mehefin

59,844

57,767

   4%

Gorffennaf

59,125

62,350

 -5%

Awst

64,981

64,458

   1%

Medi

52,815

63,595

-17%

Hydref

59,143

58,035

   2%

Tachwedd

63,811

60,410

   6%

Rhagfyr

56,463

63,637

-11%

Cyfanswm

661,912

654,215

   1%


Nifer y gwerthiannau 2012-2013

Mis Gwerthiannau 2013
(Cymru a Lloegr)
Gwerthiannau 2012
(
Cymru a Lloegr)
Gwahaniaeth

Ionawr

43,125

43,764

-1%

Chwefror

44,841

44,844 

 0%

Mawrth

53,858

61,348

-12%

Ebrill

49,700

43,258

15%

Mai

62,651

52,516

19%


Adfeddiannau fesul rhanbarth

Adfeddiannau fesul rhanbarth Mai 2013 Mai 2012 Gwahaniaeth

Dwyrain Lloegr

  97

124

-22%

Dwyrain Canolbarth Lloegr

120

143

-16%

Llundain

139

170

-18%

Gogledd Ddwyrain Lloegr

  42

  48

-13%

Gogledd Orllewin Lloegr

297

413

-28%

De Ddwyrain Lloegr

173

213

-19%

De Orllewin Lloegr

  87

119

-27%

Cymru

105

118

-11%

Gorllewin Canolbarth Lloegr

120

145

-17%

Swydd Gaerefrog a'r Humber

185

272

-32%

Cymru a Lloegr

1,365

1,765

-23%

Mae'r Data Trafodiad  yn dangos i'r Gofrestrfa Tir gwblhau dros 1,335,860 o geisiadau gan ei chwsmeriaid (gyda a heb gyfrif) ym mis Gorffennaf. Mae hyn yn cynnwys 1,286,531 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda 311,667 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau); 582,441 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl; 189,111 yn chwiliadau a 67,179 yn drafodion am werth.

chevron_bullet Mynediad i'r set lawn o ddata


Trafodion am werth

Tri phrif gwsmer Trafodion am werth

My Home Move Limited

1,331

O'Neill Patient

814

Countrywide Property Lawyers

758


Chwiliadau

Tri phrif gwsmer Chwiliadau

Enact

8,071

Optima Legal Services

6,070

O'Neill Patient

3,689


Ceisiadau fesul rhanbarth

Rhanbarth Ceisiadau

De Ddwyrain Lloeg

308,448

Llundain Fwyaf

247,400

Gogledd Orllewin Lloegr

144,001

De Orllewin Lloegr

134,134

Gorllewin Canolbarth Lloegr

112,473

Swydd Gaerefrog a'r Humber

106,067

Dwyrain Canolbarth Lloegr

95,079

Gogledd Lloegr

66,832

Cymru

65,532

Dwyrain Anglia

55,763

Ynysoedd Sili

89

Cymru a Lloegr (heb eu haseinio)

50

Cyfanswm

1,335,865

Mae'r  Data pris a dalwyd yn cynnwys manylion dros 75,000 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i'w cofrestru ym mis Gorffennaf 2013. Mae'r eiddo drutaf a werthwyd ym mis Gorffennaf 2013 wedi'i leoli yng ngorllewin Llundain, a werthwyd am £23,305,000. Mae'r eiddo rhataf a werthwyd ym mis Gorffennaf 2013 wedi'i leoli ym Mlaenau Gwent, a werthwyd am £15,000.

chevron_bullet  Mynediad i'r set lawn o ddata 

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  1. Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad  ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a setiau data Trafodiad a Data pris a dalwyd mis Awst am 11 y bore ar ddydd Gwener 27 Medi.
  2. Mae'r Grŵp Data Cyhoeddus yn dod â'r Gofrestrfa Tir, Tŷ’r Cwmnïau, y Swyddfa Dywydd a'r Arolwg Ordnans at ei gilydd i gydweithio i ddod o hyd i gyfleoedd a llywio effeithlonrwydd, yn ogystal â rhyddhau eu data i ddefnyddwyr ac ail-ddefnyddwyr am bris gostyngol neu am ddim.
  3. Mae'r  Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA), a ddatblygwyd gan yr Archif Genedlaethol, yn caniatáu’r defnydd ac ail-ddefnydd rhydd o wybodaeth y sector gyhoeddus.
  4. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
  5. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
  6. Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
  7. Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion am 17 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
  8. Mae'r prif ystadegau ar gyfer Cymru a Lloegr ar dudalen 14 yr adroddiad Mynegai Prisiau Tai misol yn cynnwys data adfeddiannau ychwanegol.
  9. Mae'r data adfeddiannau yn seiliedig ar nifer y trafodion a gyflwynwyd i'r Gofrestrfa Tir gan roddwyr benthyg sy'n arfer eu pŵer gwerthu. Unwaith y byddwn wedi nodi'r trafodion hyn, rydym yn tynnu'r wybodaeth pris a dalwyd o'r cofnod perthnasol yn y gofrestr.
  10. Er bod y Mynegai yn mynd yn ôl i Ionawr 1995, dim ond oddi ar 2006 rydym wedi bod yn cofnodi adfeddiannau'n gynhwysfawr. Mae hyn yn golygu nad yw data adfeddiannau hanesyddol ar gael cyn mis Ionawr 2006. 
  11. Mae tablau cefndir y Mynegai Prisiau Tai bellach ar gael fel Data Agored ar ffurf Excel a CSV ac mewn ffurf y gellir ei darllen ar beiriant fel data cysylltiedig
  12. Mae'r Data Trafodiad  misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. Gweler  esboniad o'r termau a ddefnyddir
  13. Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
  14. Mae'r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i'r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o chwiliadau.
  15. Mae'r Data Pris a Dalwydyn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:
    • y cyfeiriad llawn
    • y pris a dalwyd
    • dyddiad y trosglwyddiad
    • y math o eiddo
    • ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio
    • ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo.
  16. Gellir ei llwytho i lawr o wefan y Gofrestrfa Tir fel cipolwg misol o'n cronfa ddata pris a dalwyd  ac mae ar gael i bawb ei harchwilio neu ei hail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
  17. Nawr gellir llwytho Data pris a dalwyd  hanesyddol rhwng mis Ionawr 2009 a mis Ionawr 2012 i lawr am ddim ar ffurf csv ac mewn ffurf y gellir ei ddarllen ar beiriant fel data cysylltiedig.
  18. I gael Data Pris a Dalwyd hanesyddol rhwng 1995 a 2008, anfonwch ebost at addvalueservices@landregistry.gsi.gov.uk  neu ffoniwch 0800 678 1678. Codir tâl am yr adroddiadau hyn er y byddant ar gael i'w llwytho i lawr am ddim erbyn mis Tachwedd 2013.

Cysylltu

© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix