logo_w
27 Medi 2013
PR 15/13

Data Tueddiadau'r Farchnad Mis Awst gan y Gofrestrfa Tir

  • Prisiau tai mis Awst wedi codi 0.1 y cant oddi ar fis Gorffennaf: prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £164,654.
  • 1,131 o adfeddiannau yng Nghymru a Lloegr yn ystod mis Mehefin 2013.
  • De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol ym mis Awst gyda 283,919 o geisiadau.
  • Cyflwynwyd dros 72,800 o eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i'w cofrestru ym mis Awst yn amrywio o £10,500 i £12.5 miliwn.
  • Cofnodion prisiau tai ar gael fel data cysylltiedig gyda'r datganiad hwn .

Mae data mis Awst o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir shows yn dangos cynnydd prisiau blynyddol o 1.3 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £164,654. Mae'r newid misol o fis Gorffennaf i fis Awst yn dangos cynnydd o 0.1 y cant. Gostyngodd niferoedd yr adfeddiannau 21 y cant ym mis Mehefin 2013 i 1,131 o gymharu â 1,423 ym mis Mehefin 2012.

  • Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 7.1 y cant.
  • Yng Ngogledd Orllewin Lloegr gwelwyd y cynnydd misol mwyaf gyda symudiad o 1.3 y cant.
  • Gogledd Ddwyrain Lloegr yw’r rhanbarth a welodd y gostyngiad pris blynyddol mwyaf gyda symudiad o 2.2 y cant.
  • Cymru welodd y gostyngiad misol mwyaf arwyddocaol mewn prisiau gyda gostyngiad o 2.1 y cant.
  • Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Mehefin 2013 gynyddu 1.0 y cant i 60,168 o gymharu â 59,854 ym mis Mehefin 2012.
  • Bu cynnydd o 16 y cant yn nifer yr eiddo a werthwyd am fwy nag £1 miliwn yng Nghymru a Lloegr ym mis Mehefin 2013 i 788 o 679 ym mis Mehefin 2012.
  • Y rhanbarth welodd y gostyngiad mwyaf mewn adfeddiannau oedd Cymru gyda gostyngiad o 37 y cant (71 ym mis Mehefin 2013 o gymharu â 113 ym mis Mehefin 2012).

 Llwytho adroddiad llawn mis Awst 2013 i lawr (PDF, 448KB)
 Mynediad i'r set lawn o ddata
 Chwilio'r Mynegai Prisiau Tai 
 Y Mynegai Prisiau Tai

Rhanbarth Newid misol (oddi ar fis Gorffennaf 2013) Newid blynyddol(oddi ar fis Awst 2012) Pris cyfartalog (Awst 2013)

Gogledd Orllewin Lloegr

 1.3%

-1.5%

£109,210

Llundain

 1.2%

 7.1%

£389,066

Swydd Gaerefrog a’r Humber

 1.1%

-0.7%

£117,154

Dwyrain Canolbarth Lloegr

 0.4%

 0.7%

£124,638

De Ddwyrain Lloegr

 0.3%

 1.8%

£214,518

Cymru a Lloegr

 0.1%

 1.3%

£164,654

De Orllewin Lloegr

 0.1%

 1.3%

£174,751

Gorllewin Canolbarth Lloegr

 0.1%

 1.8%

£131,096

Dwyrain Lloegr

-1.2%

 0.9%

£175,601

Gogledd Ddwyrain Lloegr

-1.4%

-2.2%

 £98,469

Cymru

-2.1%

-1.8%

£113,357


Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo

Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo(Cymru a Lloegr) Awst 2013 Awst 2012 Gwahaniaeth

Tŷ sengl

£258,502

 £255,321

1.2%

Tŷ pâr

£155,800

 £154,127

1.1%

Tŷ teras

£124,580

 £123,770

0.7%

Fflat/Fflat deulawr

£155,982

 £152,677

2.2%

Holl

£164,654

  £162,602

1.3%


Nifer y gwerthiannau 2011-2012 

Mis Gwerthiannau 2012
(Cymru a Lloegr)
Gwerthiannau 2011
(Cymru a Lloegr)
Gwahaniaeth

Ionawr

43,764

37,651

 16%

Chwefror

44,845

39,708

 13%

Mawrth

61,347

46,783

 31%

Ebrill

43,260

50,805

-15%

Mai

52,522

49,019

   7%


Mehefin

59,854

57,774

   4%

Gorffennaf

59,133

62,352

 -5%

Awst

64,997

64,464

   1%

Medi

52,830

63,600

-17%

Hydref

59,164

58,042

   2%

Tachwedd

63,855

60,415

   6%

Rhagfyr

56,521

63,639

-11%

Total

662,092

654,252

   1%


Nifer y gwerthiannau 2012-2013

Mis Gwerthiannau 2013
(Cymru a Lloegr)
Gwerthiannau 2012
(Cymru a Lloegr)
Gwahaniaeth

Ionawr

43,180

43,764

 -1%

Chwefror

44,951

44,845 

  0%

Mawrth

54,115

61,347

-12%

Ebrill

50,198

43,260

 16%

Mai

64,338

52,522 

 22%

Mehefin

60,168

59,854

   1%


Adfeddiannau fesul rhanbarth

Adfeddiannau fesul rhanbarth Mehefin  2013 Mehefin  2012 Gwahaniaeth

Dwyrain Lloegr

100

130

-23%

Dwyrain Canolbarth Lloegr

115

115

   0%

Llundain

  95

131

-27%

Gogledd Ddwyrain Lloegr

  36

  47

-23%

Gogledd Orllewin Lloegr

262

325

-19%

De Ddwyrain Lloegr

138

162

-15%

De Orllewin Lloegr

  69

  94

-27%

Cymru

  71

113

-37%

Gorllewin Canolbarth Lloegr

  87

107

-19%

Swydd Gaerefrog a’r Humber

158

199

-21%

Cymru a Lloegr

1,131

1,423

-21%

Mae'r Data Trafodiad yn dangos i'r Gofrestrfa Tir gwblhau dros 1,224,530 o geisiadau gan ei chwsmeriaid (gyda a heb gyfrif) ym mis Awst. Mae hyn yn cynnwys 1,173,917 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda 303,564 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau); 517,432 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl; 174,128 yn chwiliadau a 75,003 yn drafodion am werth.

chevron_bullet Mynediad i'r set lawn o ddata


Trafodion am werth

Tri phrif gwsmer Trafodion am werth

My Home Move Limited

1,509

O'Neill Patient

950

Countrywide Property Lawyers

774


Chwiliadau

Tri phrif gwsmer Chwiliadau

Enact

7,583

Optima Legal Services

4,975

O'Neill Patient

3,866


Ceisiadau fesul rhanbarth 

Rhanbarth Ceisiadau

De Ddwyrain Lloegr

283,919

Llundain Fwyaf

221,933

Gogledd Orllewin Lloegr

127,764

De Orllewin Lloegr

125,128

Gorllewin Canolbarth Lloegr

115,602

Swydd Gaerefrog a'r Humber

  95,572

Dwyrain Canolbarth Lloegr

  87,495

Gogledd Lloegr

  59,433

Cymru

  58,588

Dwyrain Anglia

  49,000

Cymru a Lloegr (heb eu haseinio)

        68

Ynysoedd Sili

        35

Cyfanswm

1,224,537

Mae'r Data Pris a Dalwyd yn cynnwys manylion dros 72,800 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i'w cofrestru ym mis Awst 2013. Mae'r eiddo drutaf a werthwyd ym mis Awst 2013 wedi'i leoli yng ngogledd Llundain, a werthwyd am £9.8. Mae'r eiddo rhataf a werthwyd ym mis Awst 2013 wedi'i leoli yn Burnley, swydd Gaerhirfryn, a werthwyd am £11,000.

chevron_bullet Mynediad i'r set lawn o ddata

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  1. Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a setiau data Trafodiad a Data Pris a Dalwyd mis Medi am 11 y bore ar ddydd Llun 28 Hydref.
  2. Mae'r Grŵp Data Cyhoeddus yn dod â'r Gofrestrfa Tir, Tŷ’r Cwmnïau, y Swyddfa Dywydd a'r Arolwg Ordnans at ei gilydd i gydweithio i ddod o hyd i gyfleoedd a llywio effeithlonrwydd, yn ogystal â rhyddhau eu data i ddefnyddwyr ac ail-ddefnyddwyr am bris gostyngol neu am ddim.
  3. Mae'r Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA) a ddatblygwyd gan yr Archif Genedlaethol, yn caniatáu’r defnydd ac ail-ddefnydd rhydd o wybodaeth y sector gyhoeddus.
  4. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
  5. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
  6. Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
  7. Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion am 17 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
  8. Mae'r prif ystadegau ar gyfer Cymru a Lloegr ar dudalen 14 yr adroddiad Mynegai Prisiau Tai misol yn cynnwys data adfeddiannau ychwanegol.
  9. Mae'r data adfeddiannau yn seiliedig ar nifer y trafodion a gyflwynwyd i'r Gofrestrfa Tir gan roddwyr benthyg sy'n arfer eu pŵer gwerthu. Unwaith y byddwn wedi nodi'r trafodion hyn, rydym yn tynnu'r wybodaeth pris a dalwyd o'r cofnod perthnasol yn y gofrestr.
  10. Er bod y Mynegai yn mynd yn ôl i Ionawr 1995, dim ond oddi ar 2006 rydym wedi bod yn cofnodi adfeddiannau'n gynhwysfawr. Mae hyn yn golygu nad yw data adfeddiannau hanesyddol ar gael cyn mis Ionawr 2006. 
  11. Mae tablau cefndir y Mynegai Prisiau Tai bellach ar gael fel Data Agored ar ffurf Excel a CSV ac mewn ffurf y gellir ei darllen ar beiriant fel data cysylltiedig #opendata
  12. Mae'r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. Gweler esboniad o'r termau a ddefnyddir yn y data Trafodiad
  13. Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
  14. Mae'r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i'r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo. Rhagor o wybodaeth am  y gwahanol fathau o chwiliadau.
  15. Mae'r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:
    • y cyfeiriad llawn
    • y pris a dalwyd
    • dyddiad y trosglwyddiad
    • y math o eiddo
    • ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio
    • ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo.
  16. Gellir ei llwytho i lawr o wefan y Gofrestrfa Tir fel cipolwg misol o'n cronfa ddata pris a dalwyd ac mae ar gael i bawb ei harchwilio neu ei hail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
  17. Nawr gellir llwytho Data Pris a Dalwyd hanesyddol rhwng mis Ionawr 2009 a mis Ionawr 2012 i lawr am ddim ar ffurf csv ac mewn ffurf y gellir ei darllen ar beiriant fel data cysylltiedig.
  18. I gael Data Pris a Dalwyd hanesyddol rhwng 1995 a 2008, anfonwch ebost at addvalueservices@landregistry.gsi.gov.uk neu ffoniwch 0800 678 1678. Codir tâl am yr adroddiadau hyn er y byddant ar gael i'w llwytho i lawr am ddim erbyn mis Tachwedd 2013.

Cysylltu

© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix