logo_w
27 Tachwedd 2013
PR 17/13

Cyhoeddi enillwyr Her Data Agored y Gofrestrfa Tir

Heddiw, 27 Tachwedd 2013, cyhoeddodd y Gofrestrfa Tir enillwyr ei her data agored gyntaf.

Gan ddefnyddio gwybodaeth werthfawr am farchnad dai'r wlad, dangosodd yr enillwyr, Adzuna a Dan Hilton, botensial economaidd data'r Gofrestrfa Tir gyda chymwysiadau sy'n canolbwyntio ar helpu ceiswyr swyddi a siopwyr ar-lein. Byddant yn ennill gwobr £3000 yr un.

Dywedodd Eddie Davies, Cyfarwyddwr Strategaeth Fasnachol a Chwsmeriaid y Gofrestrfa Tir:

    “Roedd ansawdd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ein cystadleuaeth fasnachol gyntaf yn arbennig o uchel ac mae hynny'n profi y gellir harneisio creadigrwydd er mwyn datblygu teclynnau ymarferol sy'n gallu cael effaith gadarnhaol ar economi'r DU.

    “Fel cefnogwyr agendâu tryloywder a data agored y llywodraeth, rydym yn falch i'r her fod yn llwyddiannus yn y gwaith o lywio arloesedd busnes yn ei flaen.”

Ychwanegodd Heather Savory, Cadeirydd y Grŵp Defnyddwyr Data Agored (ODUG:

    “Roedd yn bleser gan ODUG gael gwahoddiad gan y Gofrestrfa Tir i fod yn feirniad yn ei chystadleuaeth data agored gyntaf. Roedd safon yr enillwyr yn uchel gan gynhyrchu dau gysyniad arloesol gyda photensial gwirioneddol i greu cyfle a budd economaidd i ddinasyddion. Gobeithiaf y bydd her data agored y Gofrestrfa Tir yn dod yn nodwedd reolaidd o'r tirwedd data agored.”

Mae Adzuna, a sefydlwyd ddwy flynedd yn ôl ac sy'n dennu 3 miliwn o ddefnyddwyr y mis, yn beiriant chwilio ar gyfer mân hysbysebion i'w gwneud yn haws dod o hyd i'r swydd, cartref neu gar perffaith yn lleol. Bydd ei gynnig yn galluogi pobl i wneud dewisiadau mwy hyddysg am ble i fyw a gweithio.

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Jenna Brown, dadansoddwraig data gydag Adzuna:

    “Mae'n bleser gennym dderbyn y wobr hon gan y Gofrestrfa Tir. Mae galluogi dinasyddion i wneud y mwyaf o'u cyflogau yn erbyn costau byw yn allweddol i wella bywydau a thwf economi'r DU. Mae'n dod ar amser perffaith gan ein bod newydd agor ein data ein hunain i'r byd trwy API a gobeithiwn y bydd yn ysbrydoli eraill i lunio teclynnau sy'n galluogi.”

Mae Dan Hilton yn ddatblygwr meddalwedd a dechreuodd ei gysyniad buddugol gyda rhaw eira na chyrhaeddodd. Gall ei gynnig galluogi darparwyr e-fasnach i brocio eu cwsmeriaid i ddiweddaru cyfeiriad dosbarthu wedi'i ddyddio, gan arbed cost post wedi'i gamgyfeirio ac wedi'i ddychwelyd i'r manwerthwr.

Wrth dderbyn y siec, dywedodd Dan;

    “Rwyf wrth fy modd bod y Gofrestrfa Tir wedi cydnabod fy nghysyniad fel cynnig deniadol ar gyfer y farchnad fanwerthu. Mae'r wobr hon yn golygu y gallaf gymryd y cam nesaf a dechrau ar iteriad cyntaf API i'r we.”

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  1. Cynigiwyd y cyfle i unigolion, entrepreneuriaid a busnesau bach i gystadlu am wobrau o £3000 i ariannu defnydd arloesol o ddata pris a dalwyd y Gofrestrfa Tir.
  2. Roedd gofyn i ymgeiswyr fod yn drigolion y DU dros 18 oed neu'n sefydliad meicro neu BBaCh wedi'i leoli yn y DU. Beirniadwyd cyflwyniadau gan banel o arbenigwyr o'r ODUG, ODI a'r Gofrestrfa Tir o ran arloesedd, dichonoldeb a'u potensial am effaith gadarnhaol ar economi'r DU.
  3. Mae'r Gofrestrfa Tir wedi bod yn cyhoeddi setiau data am ddim oddi ar 2012 o dan y Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA). Mae'r data ar gael i'w lwytho i lawr o wefan y Gofrestrfa Tir a Data.gov.uk. Caiff y setiau data nesaf eu rhyddhau ar ddydd Iau 28 Rhagfyr 2013 #opendata
  4. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
  5. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
  6. 6. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk. Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov. Dewch o hyd i ni ar LinkedIn, Facebook a'n blog.

Cysylltu

Marion Shelley

© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix