logo_w

16 Ionawr 2014
PR 01/14

Y Gofrestrfa Tir yn lansio ymgynghoriad i ehangu ei phwerau ac ymgymgryd â Chwiliadau Pridiant Tir Lleol

Heddiw, dydd Iau 16 Ionawr, mae'r Gofrestrfa Tir yn lansio ymgynghoriad gyda'r nod o wneud y broses o brynu tŷ yn haws trwy ddod ag effeithlonrwydd i'r sector eiddo, digideiddio gwasanaethau'r llywodraeth a gwneud data cyhoeddus yn fwy hygyrch er lles yr economi ehangach.

Ar ôl llwyddiant prototeip, mae'r Gofrestrfa Tir yn ymgynghori'n gyhoeddus ar ddarparu chwiliadau Pridiannau Tir Lleol yn ogystal â chadw a chynnal y Gofrestr Tir, lle y cofnodir dros 23 miliwn o deitlau – y dystiolaeth o berchnogaeth yng Nghymru a Lloegr.

Mae chwiliadau Pridiant Tir Lleol (PTLl), sydd ar gael ar hyn o bryd trwy 348 o awdurdodau lleol, yn cynnwys ystod eang o gofnodion yn ymwneud ag eiddo gan gynnwys gorchmynion cadw coed ac ardaloedd cadwraeth. Mae ffïoedd yn amrywio o £9 i £96 ac mae'r amser prosesu yn amrywio o un diwrnod i 40.

Trwy'r ymgynghoriad a lansiwyd heddiw, bydd y Gofrestrfa Tir yn ceisio barn pobl am gymryd cyfrifoldeb statudol am gynnal Cofrestr PTLl ganolog a fydd yn ei galluogi i roi gwasanaeth effeithlon, safonol a digidol i'w chwsmeriaid.

O fewn cwmpas y prototeip gwreiddiol, archwiliodd y Gofrestrfa Tir y posibilrwydd hefyd o ddefnyddio safonau agored i awdurdodau lleol gyhoeddi gwybodaeth Con 29 (set safonol o ymholiadau gan gynnwys llwybrau troed cyhoeddus, rheoliadau rheoli adeiladu a chofnodion yn ymwneud ag eiddo, hawlfraint ym meddiant Cymdeithas y Cyfreithwyr). Bydd y Gofrestrfa Tir yn cydweithio ag ystod o fudd-ddeiliaid a'r farchnad i ddatblygu prototeip ar gyfer chwiliadau Con 29 yn y dyfodol.

Dywedodd Pete Flynn, Rheolwr Cymorth Technegol o Gyngor Dinas Lerpwl (a oedd yn rhan o'r prototeip):

    “Roedd Cyngor Dinas Lerpwl yn falch o gydweithio â'r Gofrestrfa Tir i ddatblygu prototeip ar gyfer ymateb i ymholiadau Pridiant Tir Lleol (LLC1). Gyda'n gilydd, dangoswyd y gallai hyn weithio a phe bai'r Gofrestrfa Tir yn cyflwyno hyn, gallai arwain at fanteision i'r broses drawsgludo yn y DU.”

Dywedodd Ed Lester, y Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr:

    “Ceir amrywiaethau enfawr o ran sut y cedwir gwybodaeth Pridiant Tir Lleol gan awdurdodau lleol, gan amrywio o gardiau cofnodion a chynlluniau ar bapur i ddata wedi'u sganio a meicrofiche, sy'n arwain at amrywiaeth mewn costau, safon a chyflymder.

    “O ystyried pwysigrwydd marchnad eiddo'r DU i'n heconomi, rydym yn ceisio gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i effeithlonrwydd trawsgludo trwy ddarparu mynediad hawdd a thryloyw i wybodaeth tir ac eiddo hanfodol, sy'n cefnogi agenda digidol yn ddiofyn y Llywodraeth ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.”

Yn ogystal, bydd yr ymgynghoriad yn ceisio barn am ymestyn pwerau'r Gofrestrfa Tir i roi gwasanaethau gwybodaeth a chofrestru mewn perthynas â thir ac eiddo arall er mwyn ei galluogi i chwarae rhan ehangach yn y gwaith o hwyluso'r farchnad tir ac eiddo.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  1. Gellir ymateb i'r ymgynghoriad ar-lein yn http://consultations.landregistry.gov.uk/consult.ti/system/login
  2. Bob blwyddyn, cyflawnir tua 1.2 miliwn o chwiliadau pridiant tir gan drawsgludwyr fel rhan o drafodion ac ail-forgeisio eiddo preswyl a masnachol.
  3. Mae chwiliad awdurdod lleol (LLC1 a Con29) neu'r adroddiad chwiliad cyfatebol a ddarperir gan gwmni chwilio preifat, yn llunio rhan o'r broses drawsgludo safonol ar gyfer prynu tir a/neu eiddo. Defnyddir canlyniadau'r chwiliad i gynorthwyo'r darpar brynwr i benderfynu a yw'r eiddo yn ddymunol ac yn addas, yn ogystal â'i hysbysu o unrhyw gofrestriadau gorfodadwy sy'n bodoli a chynigion yn y dyfodol sy'n cael eu hystyried ar yr adeg y cyflawnwyd y chwiliad.
  4. Chwiliad PTLl yw un o'r chwiliadau a wneir pan fydd rhywun yn prynu eiddo, boed yn dŷ preifat neu'n eiddo masnachol. Fel rheol gwneir y chwiliadau hyn gan drawsgludwr a'r bwriad yw dod o hyd i wybodaeth awdurdod lleol sy'n berthnasol i ddarpar brynwr eiddo. Bydd gwybodaeth a geir mewn chwiliad PTLl yn datgelu unrhyw ymrwymiadau rhwymol a allai effeithio ar ddarpar brynwr. Mae'r chwiliadau hyn yn angenrheidiol hefyd wrth ailforgeisio eiddo er mwyn sicrhau bod y rhoddwr benthyg yn cael sicrwydd da ar gyfer ei arian.
  5. Mae canlyniadau chwiliad pridiant tir lleol yn datgelu cofnodion yn y gofrestr pridiant tir. Mae gan LLC1 12 o rannau gwahanol sy'n cwmpasu ystod eang o feysydd sy'n gallu cynnwys gorchmynion cadw coed; adeiladau rhestredig; arwystlon ariannol a gofrestrwyd yn erbyn yr eiddo; ardaloedd cadwraeth; rhybuddion gorfodi a chofnodion pellach sy'n ymwneud ag eiddo.
  6. Defnyddiwyd y ffurflen CON 29 am dros 50 mlynedd ac fe'i crëwyd i gyd-fynd â'r LLC1. Mae'n cynnwys set safonol o ymholiadau y cytunwyd arnynt gan lywodraeth ganolog, Cymdeithas y Cyfreithwyr ac awdurdodau lleol. Mae'n darparu gwybodaeth am eitemau sy'n bodoli ynghyd ag eitemau sydd ar y gweill/sy'n cael eu hystyried a/neu sy'n aros i'w cytuno.
  7. Gall chwiliad Con 29 ddatgelu hanes cynllunio; rheoliadau rheoli adeiladu; gwybodaeth am briffyrdd; llwybrau a chilffyrdd cyhoeddus; piblinellau nwy a chofnodion pellach sy'n ymwneud ag eiddo.
  8. Lansiwyd prototeip y Gofrestrfa Tir ym mis Mai 2013 a chafodd ei gynnal hyd fis Tachwedd 2013. Yr awdurdodau lleol a gymerodd ran yn y prototeip gwreiddiol oedd Sefton, Lerpwl, Sir Ddinbych, Newark a Sherwood, Swindon, Havant a Watford.
  9. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
  10. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
  11. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk

Cysylltu

Marion Shelley, Rheolwr y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus

      © Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix