Arolwg Pobl 2012
Cyhoeddwyd canlyniadau'r Arolwg Ymgysylltiad Staff 2012 ar gyfer y Gofrestrfa Tir.
Arolwg Ymgysylltiad Staff 2012
Arolwg Ymgysylltiad Staff 2012 - cwestiynau ychwanegol
Cynhaliwyd yr arolwg ym mis Hydref a chafodd y Gofrestrfa Tir cyfradd ymateb o 76%, o gymharu â 64% y llynedd.
Mae'r arolwg yn rhan o Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil blynyddol, y pedwerydd tro i arolwg gael ei gynnal drwy'r gwasanaeth sifil cyfan. Yr arolwg yw'r mwyaf o'i fath ym Mhrydain ac mae'n cynnwys 97 o sefydliadau a bron 300,000 o bobl.
Mae canlyniadau meincnod y Gwasanaeth Sifil cyfan ar gael i'w gweld y ar wefan y Gwasanaeth Sifil.
Mae sgôr mynegai'r Gofrestrfa Tir wedi codi o 45% i 48%. Er ein bod yn falch i weld y gwelliant hwn, byddwn yn parhau i weithio gyda phobl ar bob lefel ar draws y sefydliad i ddeall canfyddiadau eleni, yn lleol ac yn genedlaethol a nodi meysydd i'w gwella ymhellach.
Mynegai Prisiau Tai
Chewfror 2014: 273.2(Ionawr 1995 = 100)
Pris cyfartalog £170,000 Newid:Blynyddol 5.3%
Cysylltu â ni
Bydd ein tîm Cefnogaeth i Gwsmeriaid yn ateb eich cwestiynau ac yn ymateb i'ch ymholiadau trwy ebost neu dros y ffôn.
Cysylltu...