logo_w

28 Tachwedd 2012
PR 18/12

Data Tueddiadau'r Farchnad mis Hydref gan y Gofrestrfa Tir

  • Prisiau Tai mis Hydref wedi gostwng 0.3 y cant oddi ar fis Medi: prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £161,605
  • 1,479 o adfeddiannau ym mis Awst 2012
  • De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol ym mis Hydref gyda 270,398 o geisiadau
  • Cyflwynwyd dros 66,700 o eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i'w cofrestru ym mis Hydref yn amrywio o £8,000 i £25.5 miliwn

Mae data mis Hydref o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos cynnydd prisiau blynyddol o 1.1 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £161,605. Mae'r newid misol o fis Medi i fis Hydref yn ostyngiad o 0.3 y cant.

  • Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 7.0 y cant.
  • Cymru welodd y cynnydd misol mwyaf gyda chynnydd o 1.5 y cant.
  • Gwelodd Gogledd Ddwyrain Lloegr y gostyngiad prisiau blynyddol mwyaf gyda gostyngiad o 5.8 y cant.
  • Gwelodd Gogledd Ddwyrain Lloegr y gostyngiad prisiau misol mwyaf arwyddocaol hefyd, gyda gostyngiad o 4.2 y cant.
  • Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Awst 2012 ostwng 3 y cant i 62,291 o gymharu â 64,417 ym mis Awst 2011.
  • Mae nifer yr eiddo yng Nghymru a Lloegr a werthwyd am fwy nag £1 miliwn ym mis Awst 2012 wedi cynyddu 12 y cant i 843 o 753 ym mis Awst 2011.

chevron_bullet Llwytho'r adroddiad llawn i lawr
chevron_bullet Chwilio'r Mynegai
chevron_bullet Y Mynegai Prisiau Tai 

  

Rhanbarth

Newid misol (oddi ar fis Medi 2012)

Newid blynyddol

(oddi ar fis Hydref 2011)

Pris cyfartalog

(Hydref)

Cymru

1.5%

1.0%

£118,215

Gorllewin Canolbarth Lloegr

1.1%

0.1%

£130,088

Llundain

1.0%

7.0%

£364,574

Dwyrain Lloegr

0.8%

2.2.%

£175,821

De Orllewin Lloegr

0.0%

0.9%

£171,695

Gogledd Orllewin Lloegr

-0.1%

-1.2%

£109,361

Dwyrain Canolbarth Lloegr

-0.1%

-0.3%

£122,716

De Ddwyrain Lloegr

-0.3%

1.4%

£209,137

Cymru a Lloegr

-0.3%

1.1%

£161,605

Swydd Gaerefrog a’r Humber

-0.4%

-2.1%

£116,365

Gogledd Ddwyrain Lloegr

-4.2%

-5.8%

£96,061

 

Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo

(Cymru a Lloegr)

Hydref 2012

Hydref 2011

Gwahaniaeth

Tŷ sengl

£254,378

£254,191

0.1%

Tŷ pâr

£154,168

£151,879

1.5%

Tŷ teras

£121,678

£121,004

0.6%

Fflat/Fflat deulawr

£152,238

£148,121

2.8%

Holl

£161,605

£159,857

1.1%

 

Mis

Gwerthiannau 2011

(Cymru a Lloegr)

Gwerthiannau 2010

(Cymru a Lloegr)

Gwahaniaeth

Ionawr

37,624

35,888

5%

Chwefror

39,691

42,584

-7%

Mawrth

46,760

51,484

-9%

Ebrill

50,756

52,357

-3%

Mai

48,993

52,247

-6%

Mehefin

57,720

62,799

-8%

Gorffennaf

62,312

67,566

-8%

Awst

64,417

61,548

5%

Medi

63,544

57,535

10%

Hydref

57,965

58,704

-1%

Tachwedd

60,327

56,376

7%

Rhagfyr

63,526

56,937

12%

Cyfanswm

653,635

656,025

0%

 

Mis

Gwerthiannau 2012

(Cymru a Lloegr)

Gwerthiannau 2011

(Cymru a Lloegr)

Gwahaniaeth

Ionawr

43,673

37,624

16%

Chwefror

44,733

39,691

13%

Mawrth

61,116

46,760

31%

Ebrill

43,057

50,756

-15%

Mai

52,117

48,993

6%

Mehefin

58,885

57,720

2%

Gorffennaf

57,863

62,312

-7%

Awst

62,291

64,417

-3%

 

Mae'r Data Trafodiad yn dangos i'r Gofrestrfa Tir dderbyn dros 1,187,000 o geisiadau gan ei chwsmeriaid (gyda a heb gyfrif) ym mis Hydref. Mae hyn yn cynnwys 1,141,655 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda 277,225 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau); 510,799 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl; 164,467 yn chwiliadau a 63,932 yn drafodion am werth.

chevron_bullet Mynediad i'r set lawn o ddata

Tri phrif gwsmer

Trafodion am werth

My Home Move Limited

1,124

Countrywide Property Lawyers

1,115

O'Neill Patient

895

 

Tri phrif gwsmer

Chwiliadau

Enact

5,183

Optima Legal Services

5,030

TM Group (UK) Ltd (Search Choice)

3,756

 

Tair prif ardal awdurdod lleol

Ceisiadau

Dinas Westminster

18,293

Birmingham

17,962

Leeds

13,670

 

Rhanbarth

Ceisiadau

De Ddwyrain Lloegr

270,398

Llundain Fwyaf

215,707

Gogledd Orllewin Lloegr

131,856

De Orllewin Lloegr

117,629

Gorllewin Canolbarth Lloegr

101,971

Swydd Gaerefrog a'r Humber

98,421

Dwyrain Canolbarth Lloegr

85,386

Cymru

59,008

Gogledd Lloegr

57,745

Dwyrain Anglia

49,737

Ynysoedd Sili

44

Cymru a Lloegr (heb eu haseinio)

29

Cyfanswm

1,187,931

Mae'r Data Pris a Dalwyd yn cynnwys manylion dros 66,700 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i'w cofrestru ym mis Hydref 2012. Mae'r eiddo drutaf (£10.7 miliwn) a'r rhataf (£10,000) a werthwyd ym mis Hydref 2012 wedi'u lleoli yng ngorllewin Llundain a Hull.

chevron_bullet Mynediad i'r set lawn o ddata 

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  1. Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a setiau data Trafodiad a Data pris a dalwyd mis Tachwedd am 11 y bore ar ddydd Mercher 2 Ionawr 2013.
  2. Mae'r Grŵp Data Cyhoeddus yn dod â'r Gofrestrfa Tir, Tŷ’r Cwmnïau, y Swyddfa Dywydd a'r Arolwg Ordnans at ei gilydd i gydweithio i ddod o hyd i gyfleoedd a llywio effeithlonrwydd, yn ogystal â rhyddhau eu data i ddefnyddwyr ac ail-ddefnyddwyr am bris gostyngol neu am ddim.
  3. Mae'r Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA), a ddatblygwyd gan yr Archif Genedlaethol, yn caniatáu’r defnydd ac ail-ddefnydd rhydd o wybodaeth y sector gyhoeddus. I gael rhagor o wybodaeth ewch i http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence
  4. Mae eleni'n nodi 150 mlwyddiant y Gofrestrfa Tir. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
  5. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
  6. Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
  7. Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion mwy nag 16 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
  8. Mae'r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. I gael esboniad o'r termau a ddefnyddir, ewch i http://www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/faqs#m11
  9. Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
  10. Mae'r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i'r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o chwiliadau, ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/faqs#m11
  11. Mae'r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:
    • y cyfeiriad llawn
    • y pris a dalwyd
    • dyddiad y trosglwyddiad
    • y math o eiddo
    • ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio
    • ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo
  12. Gellir ei llwytho i lawr o wefan y Gofrestrfa Tir fel cipolwg misol o'n cronfa ddata pris a dalwyd yn www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/price-paid-data ac mae ar gael i bawb ei harchwilio neu ei hail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
  13. I gael Data Pris a Dalwyd hanesyddol, anfonwch ebost at addvalueservices@landregistry.gsi.gov.uk neu ffoniwch 0800 678 1678. Codir tâl am yr adroddiadau hyn.
  14. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov Dewch o hyd i ni ar LinkedIn

Cysylltu

© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix