logo_w

PR02/12 01/02/2012 21/02/2012

Y Gofrestrfa Tir yn lansio mesurau diogelwch am ddim i helpu perchnogion warchod eu heiddo rhag twyllwyr

O heddiw, dydd Mercher 1 Chwefror 2012, mae cyfyngiad Ffurf LL y Gofrestrfa Tir am ddim i berchnogion tai nad ydynt yn byw yn yr eiddo. Cynlluniwyd y cyfyngiad i atal ffugiad trwy ei wneud yn ofynnol i gyfreithiwr neu drawsgludwr ardystio ei fod yn fodlon mai'r person sy'n gwerthu neu'n morgeisio'r eiddo yw'r gwir berchennog. Mae'r ffi o £50 ar gyfer perchnogion sy'n ddeiliaid yn parhau fel y mae.

Fel rheol, eiddo yw'r ased mwyaf gwerthfawr sydd gan bobl. Gellir ei werthu a'i forgeisio i godi arian ac felly gall fod yn darged deniadol i dwyllwyr. Mae'r eiddo sydd fwyaf mewn perygl o dwyll fel arfer yn wag, gyda thenantiaid neu'n ddi-forgais. Er mwyn helpu i atal ffugiad, gall perchnogion absennol sy'n teimlo y gallai eu heiddo fod mewn perygl neu eu cynghorwyr cyfreithiol ofyn i'r Gofrestrfa Tir nodi cyfyngiad Ffurf LL ar y teitl.

Dywedodd Malcolm Dawson, y Prif Gofrestrydd Tir

"Rydym yn cymryd y mater o dwyll yn ddifrifol iawn ac rydym yn gweithio'n agos gyda sefydliadau eraill gan gynnwys Cymdeithas y Cyfreithwyr i wneud popeth y gallwn i leihau'r cyfleoedd am dwyll a chofnodi a gweithredu i gywiro pethau pan fydd wedi digwydd.

"Mae menter heddiw am ddim i berchnogion tai nad ydynt yn byw yn yr eiddo. Cafodd ei chynllunio i annog y sawl sy'n teimlo y gallai ei eiddo gwag neu gyda thenantiaid fod mewn perygl a gwneud rhywbeth i'w atal rhag cael ei ddwyn yn ddiarwybod.

"Rydym wedi cyflwyno ystod o wiriadau ac amddiffyniadau ychwanegol yn ystod y pedair blynedd diwethaf ac rydym yn cydweithio'n agos â sefydliadau eraill er mwyn gwneud popeth y gallwn i fynd i'r afael â thwyll. Er nad oes system yn bodoli fydd yn gallu dileu twyll yn llwyr, oddi ar fis Medi 2009 rydym wedi atal twyll ar dros 100 o geisiadau sy'n cynrychioli eiddo sy'n werth dros £47 miliwn."

Dywedodd Jonathan Smithers, Cadeirydd y Pwyllgor Trawsgludo a Chyfraith Tir yng Nghymdeithas y Cyfreithwyr:

“Rydym yn croesawu'r fenter hon gan y Gofrestrfa Tir. Mae eiddo gwag neu gyda thenantiaid mewn mwy o berygl na chartrefi lle bo'r perchennog yn preswylio ynddynt a bydd cyflwyno'r cynllun hwn yn galluogi cyfreithwyr i helpu perchnogion i warchod eu heiddo rhag twyll a ffugiad.”

Gallai pobl y mae eu heiddo'n wag gynnwys y sawl sy'n byw tramor a'r henoed sydd yn yr ysbyty am gyfnod hir neu mewn gofal preswyl. Yn 2010 roedd 30 o'r 71 o hawliadau a dalwyd gan y Gofrestrfa Tir ar gyfer twyll a ffugiad gan bobl nad oeddynt yn aelodau'r teulu. O'r rhain roedd 23 yn cynnwys eiddo gyda pherchennog absennol ac yn £2 filiwn o'r cyfanswm o £7.3 miliwn a dalwyd am hawliadau twyll a ffugiad.

Mae dau gyhoeddiad ar gael gan y Gofrestrfa Tir i gynghori cwsmeriaid hefyd – Cyfarwyddiadau Cyhoeddus 17 – Sut i ddiogelu yn erbyn twyll eiddo a Chyfarwyddyd Cyhoeddus 2 – Cadw eich cyfeiriad ar gyfer gohebu yn gyfoes.

DIWEDD 

Nodiadau i olygyddion

  1. Gall perchnogion tai nad ydynt yn byw yn yr eiddo neu eu trawsgludwyr gyflwyno cais i nodi'r cyfyngiad Ffurf LL yn y gofrestr am ddim gan ddefnyddio ffurflen RQy gellir ei llwytho i lawr o www.cofrestrfatir.gov.uk/property-information/property-fraud Dylid anfon y ffurflen wedi'i llenwi at y Gofrestrfa Tir Swyddfa Penbedw, Rosebrae Court, Woodside Ferry Approach, Birkenhead, Merseyside CH41 6DU.
  2. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
  3. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
  4. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk
  5. Gall perchnogion sy'n ddeiliaid lenwi Ffurflen RX1 http://www.cofrestrfatir.gov.uk/upload/documents/RX1.pdf gyda'r cyfyngiad Ffurf LL. Codir ffi o £50 am y gwasanaeth hwn. Dylid anfon y ffurflen wedi'i llenwi at swyddfa'r Gofrestrfa Tir sy'n gwasanaethu'r ardal lle y lleolir yr eiddo. Mae geiriad y cyfyngiad yn bwysig iawn a dylid ceisio cyngor gan gyfreithiwr neu drawsgludwr os byddwch am warchod eiddo fel hyn.

Cysylltu

Ronal Patel 0300 0067490
Ronal.patel@landregistry.gsi.gov.uk

Marion Shelley 0300 0067543, 07790 690297
marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk

© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix