09/11 04/07/2011
Y Gofrestrfa Tir yn parhau i ganolbwyntio ar y Rhaglen Trawsnewid er gwaethaf blwyddyn heriol
Heddiw (30 Mehefin 2011) cyhoeddodd y Gofrestrfa Tir, adran y llywodraeth sy’n gyfrifol am gofrestru tir yng Nghymru a Lloegr, ei Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer 2010/11. Yn ogystal, cyhoeddodd y sefydliad ei ymateb i’r papur ymgynghori E-Conveyancing Secondary Legislation – part 3 oedd yn ceisio barn am gynigion i greu trosglwyddiadau electronig gyda llofnodion electronig ac i ymestyn y defnydd o arwystlon cyfreithiol electronig (math o forgais).
Wrth gyflwyno’r adroddiad blynyddol dywedodd Malcolm Dawson, y Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr:
“Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae’r farchnad eiddo wedi parhau i grebachu gan arwain at leihad yn y llwyth gwaith o 13 y cant. Er gwaethaf hyn, rydym wedi cyflawni nifer o dargedau heriol gan gynnwys y rhai ar gyfer cyflymder a chywirdeb, yn ogystal â’n dangosyddion perfformiad allweddol ariannol. Rydym wedi cael rhai llwyddiannau nodedig hefyd, yn eu plith ehangiad cyflym ein rhwydwaith o dimau cwsmeriaid sy’n rhoi gwasanaeth penodol i’n defnyddwyr busnes.
“O dan ein rhaglen trawsnewid cyflymedig, rydym wedi lleihau nifer y staff 18.7 y cant ac rydym ar y trywydd cywir gydag ailstrwythuro’n hystad. Yn anochel mae’r newidiadau wedi bod yn anodd ac yn boenus, ond rydym yn gwneud cynnydd cyn yr amserlen wreiddiol a byddwn yn gwneud arbedion net o dros £500 miliwn. O gymharu â’r llynedd (£30.1 miliwn) a’r flwyddyn gynt (£130 miliwn), gwnaethom golled o dros £2.9 miliwn sy’n dangos bod y penderfyniadau anodd a wnaethom yn dwyn ffrwyth gan roi sefydlogrwydd ariannol.
“Mae’r ganran o drafodion a wnaed trwy sianeli electronig wedi parhau i gynyddu, gyda dros 70 y cant o gymerwyr benthyg yn defnyddio’n gwasanaeth rhyddhau electronig a thros 85 y cant o wasanaethau rhagarweiniol yn cael eu cyflwyno trwy’r porthol. Fodd bynnag, fel y mae’r ymateb i’n papur ymgynghori’n dangos (a gyhoeddwyd heddiw hefyd), mae cwsmeriaid a budd-ddeiliaid yn bryderus o hyd am y defnydd o lofnodion a thrafodion electronig.
“Ar ôl gwrando ar ystod eang o bobl, rydym yn canolbwyntio ar gyflwyno ac anfon electronig. Credwn fod yr ateb hwn lle y gall cwsmeriaid ddefnyddio e-sianelau i anfon dogfennau papur atom yn ymarferol, call ac yn deall eu hanghenion. O ganlyniad, rydym yn dibrisio gwariant datblygu sy’n ymwneud ag arwystlon, llofnodion a throsglwyddiadau electronig ac yn gwneud nifer o addasiadau cyfrifo eraill yn yr adroddiad blynyddol i adlewyrchu statws presennol ein gwasanaethau’n well. Dros gyfnod o chwe blynedd rydym wedi buddsoddi £41 miliwn i gyflwyno cyfres o e-wasanaethau’n llwyddiannus, gan gynnwys y porthol, e-ddiogelwch a’r porth busnes. Fodd bynnag, yn dilyn yr adborth mae’n amlwg yn well atal datblygu e-drosglwyddiadau nawr cyn y caiff symiau sylweddol pellach eu gwario, yn hytrach na pharhau i ddatblygu cynnyrch nad ydym yn ffyddiog y bydd ein cwsmeriaid yn ei ddefnyddio.
“Rydym wedi colli rhai targedau, gan gynnwys y dangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer gwasanaeth cwsmeriaid yn gyffredinol a chysylltiad cyflogeion, sef y rheswm pam y byddwn yn canolbwyntio’n arbennig ar eu gwella yn y flwyddyn i ddod. Rwyf am i’n pobl gysylltu’n llawnach wrth gyflwyno’r targedau hyn fel y gall pob un ohonom edrych ymlaen yn hyderus at ddathlu 150 mlwyddiant y Gofrestrfa Tir yn 2012.”
Ymhlith uchafbwyntiau’r flwyddyn mae:
- Timau cwsmeriaid: ar ddiwedd 2009/10 roedd gennym o leiaf un tîm cwsmeriaid ymhob swyddfa. Flwyddyn yn ddiweddarach mae gennym dros 90 a Swyddfa Plymouth oedd y cyntaf i drosglwyddo’n llwyr i weithio mewn timau cwsmeriaid.
- Ymchwil a mewnwelediad: rydym wedi datblygu a mabwysiadu Sgôr Hyrwyddwr Net fel mesuriad newydd o foddhad cwsmeriaid, fydd yn cael ei ddefnyddio mewn arolygon yn y dyfodol.
- Amrywiaeth: rydym yn ymchwilio i’r posibilrwydd o gyflawni chwiliadau o’r Gofrestr Pridiannau Tir Lleol a gwybodaeth arall a gyflenwir ar hyn o bryd gan awdurdodau lleol.
- Ychwanegu gwerth: un o’n nwyddau mwyaf llwyddiannus yw’r Property Portfolio Consolidator sy’n rhoi gwybodaeth fanwl i landlordiaid sy’n deillio o’r Gofrestr Tir am eu portffolio.
- E-wasanaethau: erbyn hyn y porthol yw’r prif borth i’n e-wasanaethau busnes ar-lein gyda dros 12,000 o sefydliadau wedi cofrestru. Ym mis Mawrth 2011 cawsom dros 1.1 filiwn o drafodion trwy’r porthol.
- Cyfathrebu electronig: troswydLandnet,ein cylchgrawn i gwsmeriaid o gyhoeddiad ar bapur i gyhoeddiad electronig ac rydym wedi ymuno â Twitter hefyd, sydd eisoes yn cyflawni rhwydwaith dda o ran maint sy’n denu cysylltiad cyson, yn ôl Klout.com.
- Perfformiad ac Arloesiad: cynllun peilot llwyddiannus i wella cynhyrchedd ac effeithlonrwydd gan ddefnyddio egwyddorion Lean yn Nottingham sydd bellach yn cael ei ymestyn i swyddfeydd Caerloyw a Weymouth.
- Cofrestr Tir Cynhwysfawr: rhagorwyd ar y dangosydd perfformiad allweddol o ychwanegu 250,000 hectar drwy gofrestriad gwirfoddol o bron 45,000 hectar.
- Mentrau gwyrdd: rhagorwyd ar dargedau i leihau allyriadau carbon (36.5 y cant yn hytrach na 12.5 y cant) a chynyddu faint o wastraff sy’n cael ei ailgylchu (60 y cant yn hytrach na 40 y cant).
- Indemniad: talwyd£9.4 miliwm am 963 o hawliadau o gymharu â £7.8 miliwn am 1,011 o hawliadau'r llynedd.
- Mesurau gwrth-dwyll: o fewn cyfanswm cyffredinol, talwyd £7.4 miliwn am 71 o hawliadau twyll o gymharu â £4.9 miliwn am 53 o hawliadau o’r Gronfa Indemniad y llynedd. Fodd bynnag, o ganlyniad i’n gweithgaredd trwyadl a pharhaus i atal twyll, mae llai o achosion o dwyll yn cael eu cofrestru nawr. Eleni rydym wedi ehangu ein tîm arbenigol a chyflwyno gwelliannau TG i helpu i ganfod twyll.
- Yr uned ryngwladol: drafftiwyd y Mesur Cofrestru Teitl Tir ar gyfer Llywodraeth Bermuda.
- Amrywiaeth: datblygodd ein grŵp ffocws du a lleiafrifoedd ethnig gwrs ‘Rhyddhau eich Potensial’ sydd wedi’i ymestyn i staff ag anableddau.
- Gwobrau: enilloddstaff yn swyddfeydd Plymouth a Systemau Gwybodaeth wobr gan bartner cyflwyno lleol, y Shekinah Mission, am eu gwaith gwirfoddol fel hyfforddwyr swyddi. Cydnabuwyd gwaith agos ein tîm Adnoddau Dynol gyda’r Canolfan Byd Gwaith ac arbenigwyr lleoliadau gwaith i roi cyngor am yrfaoedd a chyflogaeth i staff yr effeithiwyd arnynt gan y Rhaglen Trawsnewid Cyflymedig yng Ngwobrau 2010 y Gwasanaeth Sifil lle yr enillwyd y categori Rheoli Adnoddau ganddynt a chyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Wobr AD cyffredinol.
- Rhannu gwasanaethau: byddTNT UK Ltd yn gweithredu ein storfeydd ffeiliau rhanbarthol o fis Gorffennaf eleni ar ôl penderfyniad i ymuno â Fframwaith Rheoli Cofnodion Traws-Lywodraethol y Weinyddiaeth Amddiffyn.
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
- Mae Adroddiad Blynyddol a Chyfrifol y Gofrestrfa Tir 2010/11 ar gael, am £20.50, o www.tsoshop.co.uk Mae copïau ar gael i’r cyfryngau o swyddfa’r wasg ar 0300 0067543. Mae’r datganiad i’r wasg ar gael yn Saesneg hefyd. Cysylltwch â swyddfa’r wasg i gael copi neu ewch i www1.landregistry.gov.uk Gellir gweld yr adroddiad yn Gymraeg ar-lein yn http://www.cofrestrfatir.gov.uk/annualreport
- Gwnaed addasiadau i’r Cyfrifon i adlewyrchu gwerth y gwariant datblygu e-drawsgludo i’r Gofrestrfa Tir. Mae’r rhan fwyaf o’r gwariant (£41 miliwn dros gyfnod o chwe blynedd) wedi’i ddefnyddio’n llwyddiannus ac mae’n ategu cyfres bresennol o e-wasanaethau’r Gofrestrfa Tir, gan gynnwys y porthol, e-ddiogelwch a’r porth busnes. Fodd bynnag, caiff £6.4 miliwn o gostau datblygu sydd i’w’ priodoli i arwystlon, llofnodion a throsglwyddiadau electronig ei ddibrisio ar ôl derbyn adborth gan gwsmeriaid. Yn ogystal, gwariwyd £4.5 miliwn o wariant e-drawsgludo ar ôl cyflwyno’r meddalwedd i gefnogi’r gyfres o e-wasanaethau yn llwyddiannus. Ceir addasiad hefyd o £1.7 miliwn ar gyfer dibrisiad a ddylai fod wedi’i godi mewn cyfnodau blaenorol. Caiff y symiau hyn eu dibrisio hefyd.
- Mae’r adroddiad ymgynghori E-Conveyancing Secondary Legislation – part 3 ar gael yn http://www.cofrestrfatir.gov.uk/info/consultations Byddai’r cynigion newydd wedi’i gwneud yn bosibl cyflawni’r prif gamau trawsgludo wrth werthu a phrynu tŷ yn electronig am y tro cyntaf, yn hytrach na defnyddio dogfennau ar bapur. Cynhaliwyd y broses ymgynghori rhwng 22 Mawrth a 25 Mehefin 2010.
- Cafwyd 43 o ymatebion gan drawsgludwyr, rhoddwyr benthyg, sefydliadau ariannol, cyrff rheoleiddiol a chynrychioliadol (fel Cymdeithas y Cyfreithwyr, Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr, Cyngor Benthycwyr Morgeisi a Chyngor y Trawsgludwyr Trwyddedig) a gweithwyr eiddo proffesiynol eraill.
- Nododd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr nad oeddent wedi’u darbwyllo eto bod e-drosglwyddiadau yn ddymunol nac yn gyflawnadwy mewn cyfnod gyda gwerthiannau eiddo isel a risg uwch o dwyll. Mynegwyd pryder sylweddol hefyd bod y broses ar gyfer creu llofnod electronig yn rhy gymhleth. Cadarnhaodd yr ymgynghoriad nad oedd cwsmeriaid yn teimlo bod e-arwystl yn diwallu eu hanghenion.
- Er i’r Gofrestrfa Tir dderbyn ei harwystl electronig cyntaf ym mis Mawrth 2009, roedd yr ymateb yn dilyn hyn yn siomedig gyda dim ond tua 20 o arwystlon yn cael eu creu a’u cofrestru. Oherwydd i’r e-arwystl gael ei anelu ar y farchnad ail-forgeisio, rhwystrwyd ymdrech y Gofrestrfa Tir i annog cwsmeriaid i fabwysiadu’r gwasanaeth gan fethiant y farchnad ar ôl argyfwng y banciau.
- Gyda’r gronfa ddata o drafodion fwyaf o’r fath gyda manylion dros 22 miliwn o deitlau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cefnogi’r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy’n werth biliynau o bunnoedd.
- Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd yn 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
- I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.ukCysylltu
Marion Shelley 0300 0067543, 07790 690297
marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk
Jill Inglis 0300 0067487