top logo

(PR06/12) 1 Mai 2012

Data Tueddiadau'r Farchnad Mis Mawrth gan y Gofrestrfa Tir

  • Prisiau Tai mis Mawrth wedi gostwng 0.6 y cant oddi ar fis Chwefror: prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £160,372
  • De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol ym mis Mawrth gyda 271,010 o geisiadau
  • Cyflwynwyd dros 55,000 o brisiau gwerthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i'w cofrestru ym mis Mawrth

Mae data mis Mawrth o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos gostyngiad prisiau blynyddol o 0.6 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £160,372. Mae'r newid misol o fis Chwefror i fis Mawrth yn ostyngiad o 0.6 y cant.

  • Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 0.7 y cant.
  • Yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr gwelwyd y cynnydd misol mwyaf gyda symudiad o 5.6 y cant.
  • Gwelodd Cymru y gostyngiad prisiau blynyddol mwyaf gyda gostyngiad o 5.5 y cant a'r gostyngiad prisiau misol mwyaf sylweddol gyda gostyngiad o 4.1 y cant.
  • Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Ionawr 2012 gynyddu 13 y cant i 42,511 o gymharu â 37,584 ym mis Ionawr 2011.
  • Mae nifer yr eiddo yng Nghymru a Lloegr a werthwyd am fwy nag £1 miliwn ym mis Ionawr 2012 wedi gostwng 6 y cant i 467 o 497 ym mis Ionawr 2011.

Mynediad i'r set lawn o ddata www.cofrestrfatir.gov.uk/public/house-prices-and-sales

Rhanbarth

Newid misol (oddi ar fis Chwefror 2012)

Newid blynyddol (oddi ar fis Mawrth 2011)

Pris cyfartalog (Mawrth 2012)

Gogledd Ddwyrain Lloegr

5.6%

-2.8%

£101,676

Dwyrain Canolbarth Lloegr

1.2%

0.2%

£123,879

Gorllewin Canolbarth Lloegr

0.3%

0.3%

£130,212

Swydd Gaerefrog a’r Humber

0.1%

-2.2%

£118,204

Dwyrain Lloegr

-0.1%

0.5%

£173,227

Gogledd Orllewin Lloegr

-0.4%

-2.3%

£111,264

Cymru a Lloegr

0.6%

-0.6%

£160,372

De Ddwyrain Lloegr

-0.7%

0.3%

£206,918

De Orllewin Lloegr

-1.0%

-0.7%

£170,261

Llundain

-1.8%

0.7%

£343,522

Cymru

-4.1%

-5.5%

£113,036

Prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr)

Mawrth 2012

Mawrth 2011

Gwahaniaeth

Tŷ sengl

£251,112

£256,655

-2.2%

Tŷ pâr

£153,080

£152,503

0.4%

Tŷ teras

£122,075

£122,619

-0.4%

Fflat/Fflat deulawr

£149,229

£150,177

-0.6%

Holl

£160,372

£161,290

-0.6%

Mis

Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr)

Gwerthiannau 2010 (Cymru a Lloegr)

Gwahaniaeth

Ionawr

37,584

35,872

5%

Chwefror

39,669

42,570

-7%

Mawrth

46,721

51,454

-9%

Ebrill

50,689

52,317

-3%

Mai

48,920

52,224

-6%

Mehefin

57,612

62,768

-8%

Gorffennaf

62,202

67,514

-8%

Awst

64,257

61,504

4%

Medi

63,331

57,496

10%

Hydref

57,674

58,654

-2%

Tachwedd

59,872

56,331

6%

Rhagfyr

62,586

56,883

10%

Cyfanswm

651,117

655,587

-1%

Mis

Gwerthiannau 2012 (Cymru a Lloegr)

Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr)

Gwahaniaeth

Ionawr

42,511

37,584

13%

Mae'r Data Trafodiad yn dangos i'r Gofrestrfa Tir dderbyn dros 1 miliwn o geisiadau gan ei holl gwsmeriaid (gyda a heb gyfrif) ym mis Mawrth. Mae hyn yn cynnwys 1,094,685 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda 246,609 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau), 507,354 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl, 167,602 yn chwiliadau a 51,015 yn drafodion am werth.

Mynediad i'r set lawn o ddata www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/transaction-data

Tri phrif gwsmer

Trafodion am werth

My Home Move Limited

1003

Addleshaw Goddard

803

Countrywide Property Lawyers

722

Tri phrif gwsmer

Chwiliadau

Enact

5,106

Optima Legal Services

4,716

TM Group (UK) Ltd (Search Choice)

4,066

Tair prif awdurdod lleol

Ceisiadau

Birmingham

18,032

Dinas Westminster

17,482

Cernyw

13,650

Rhanbarth

Ceisiadau

De Ddwyrain Lloegr

271,010

Llundain Fwyaf

207,733

Gogledd Orllewin Lloegr

128,902

De Orllewin Lloegr

123,419

Gorllewin Canolbarth Lloegr

97,643

Swydd Gaerefrog a'r Humber

95,215

Dwyrain Canolbarth Lloegr

81,533

Cymru

57,362

Gogledd Lloegr

55,352

Dwyrain Anglia

46,814

Ynysoedd Sili

37

Cymru a Lloegr (heb eu haseinio)

36

Cymru a Lloegr

1,165,056

Mae'r Data pris a dalwyd yn cynnwys manylion dros 55,000 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i'w cofrestru ym mis Mawrth 2012. Er i'r cofrestriadau gael eu derbyn ym mis Mawrth, gellir dyddio'r dyddiad trosglwyddo ar gyfer rhai eiddo i 1995. Mae cofrestriadau mis Mawrth yn dangos fod yr eiddo rhataf a werthwyd yn y chwarter cyntaf ym Middlesbrough am £8,000 ac roedd yr eiddo drutaf a werthwyd yn Rickmansworth am £47.7 miliwn.

Mynediad i'r set lawn o ddata www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/transaction-data

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  1. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a setiau data Trafodiad a Data pris a dalwyd mis Ebrill am 11 y bore ar ddydd Mawrth 29 Mai 2012.
  2. Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis.
  3. Mae'r Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA), a ddatblygwyd gan yr Archif Genedlaethol, yn caniatáu’r defnydd ac ail-ddefnydd rhydd o wybodaeth y sector gyhoeddus. I gael rhagor o wybodaeth ewch i http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence
  4. Mae'r Grŵp Data Cyhoeddus yn dod â'r Gofrestrfa Tir, Tŷ’r Cwmnïau, y Swyddfa Dywydd a'r Arolwg Ordnans at ei gilydd i gydweithio i ddod o hyd i gyfleoedd a llywio effeithlonrwydd, yn ogystal â rhyddhau eu data i ddefnyddwyr ac ail-ddefnyddwyr am bris gostyngol neu am ddim.
  5. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
  6.  Fel y rhan gyntaf o'i hymrwymiad i flaenoriaethau'r Llywodraeth o ran twf economaidd a thryloywder data, mae gwybodaeth pris a dalwyd y Gofrestrfa Tir bellach ar gael yn fisol yn ogystal â'r Mynegai Prisiau Tai a'r data trafodiad.
  7. Mae'r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:
    • y cyfeiriad llawn
    • y pris a dalwyd
    • dyddiad y trosglwyddiad
    • y math o eiddo
    • ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio
    • ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo
  8. Gellir ei llwytho i lawr o wefan y Gofrestrfa Tir fel cipolwg misol o'n cronfa ddata pris a dalwyd yn www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/price-paid-data ac mae ar gael i bawb ei harchwilio neu ei hail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
  9. I gael Data Pris a Dalwyd hanesyddol, anfonwch ebost at addvalueservices@landregistry.gsi.gov.uk neu ffoniwch 0800 678 1678. Codir tâl am yr adroddiadau hyn.
  10. Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
  11. Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion mwy nag 16 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
  12. Mae'r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. I gael esboniad o'r termau a ddefnyddir, ewch i http://www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/faqs#m11
  13. Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
  14. Mae'r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i'r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o chwiliadau, ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/faqs#m11
  15. Mae eleni'n nodi 150 mlwyddiant y Gofrestrfa Tir. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
  16. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk

Cysylltu

Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov

Marion Shelley 0300 0067543, 07790 690297
marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk

© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix