top logo

PR03/12 01/02/2012 21/02/2012

Y Gofrestrfa Tir yn lansio awgrymiadau i helpu perchnogion warchod eu heiddo rhag twyllwyr

Fel rheol, eiddo yw'r ased mwyaf gwerthfawr sydd gan bobl. Gellir ei werthu a'i forgeisio i godi arian ac felly gall fod yn darged deniadol i dwyllwyr. Mae'r eiddo sydd fwyaf mewn perygl o dwyll fel arfer yn wag, gyda thenantiaid neu'n ddi-forgais. Ymhlith yr unigolion sydd fwyaf mewn perygl o dwyll mae perchnogion sy'n absennol am ba reswm bynnag; er enghraifft gan fod y perchennog yn byw tramor, landlordiaid prynu i osod, yr henoed nad ydynt yn byw yn eu heiddo gan eu bod mewn gofal ysbyty hir dymor neu ofal preswyl, a lle bo perthynas wedi chwalu.

Ymhlith awgrymiadau'r Gofrestrfa Tir i helpu perchnogion warchod eu heiddo rhag twyllwyr mae:

  • Sicrhau yn gyntaf bod eich eiddo'n gofrestredig. Os byddwch yn ddioddefwr diniwed o dwyll ac yn dioddef colledion ariannol o ganlyniad, cewch iawndal.
  • Unwaith y byddwch wedi cofrestru, sicrhewch fod eich manylion cysylltu yn gyfredol fel y gallwn gysylltu â chi'n hawdd.
  • Gallwch gael hyd at dri chyfeiriad yn y gofrestr; gellir defnyddio cyfeiriad ebost neu gyfeiriad tramor. Po fwyaf y wybodaeth rowch i ni, mwyaf fydd y siawns fydd gennym o gysylltu â chi os oes angen.
  • Gall perchnogion sy'n teimlo y gallai eu heiddo fod mewn perygl nodi cyfyngiad ar eu heiddo sydd wedi'i gynllunio i atal ffugiad trwy ei wneud yn ofynnol i gyfreithiwr neu drawsgludwr ardystio eu bod yn fodlon mai'r person sy'n gwerthu neu'n morgeisio'r eiddo yw'r gwir berchennog.

O heddiw, 1 Chwefror 2012, ni chodir ffi y Gofrestrfa Tir ar berchnogion tai i gofrestru'r cyfyngiad hwn ar yr amod nad ydynt yn byw yn yr eiddo maent am ei warchod. Bydd angen i berchnogion sy'n ddeiliaid dalu ffi fach o hyd.

Dywedodd Malcolm Dawson, y Prif Gofrestrydd Tir:

“Mae lansiad heddiw o'n hawgrymiadau'n dangos pa mor bwysig ydyw i roi gwybod i berchnogion tai pa gamau syml y gallent eu cymryd i warchod eu heiddo – mae un ohonynt yn rhoi'r gallu i'r rhai sydd fwyaf mewn perygl osod cyfyngiad am ddim a allai atal eu heiddo rhag cael ei dargedu gan dwyllwyr a'i ddwyn yn ddiarwybod.

“Rydym wedi cyflwyno ystod o amddiffyniadau ychwanegol yn ystod y pedair blynedd diwethaf ac rydym yn gweithio'n agos gyda sefydliadau eraill i wneud popeth y gallwn i leihau'r cyfleoedd am dwyll a chofnodi a gweithredu i gywiro pethau pan fydd wedi digwydd. Ond rhaid i berchnogion tai fod yn wyliadwrus hefyd a chwarae rhan yn y broses o warchod eu heiddo rhag twyll.”

Gallai pobl y mae eu heiddo'n wag gynnwys y sawl sy'n byw tramor a'r henoed sydd yn yr ysbyty am gyfnod hir neu mewn gofal preswyl. Yn 2010 roedd 30 o'r 71 o hawliadau a dalwyd gan y Gofrestrfa Tir ar gyfer twyll a ffugiad gan bobl nad oeddynt yn aelodau'r teulu. O'r rhain roedd 23 yn cynnwys eiddo gyda pherchennog absennol ac yn £2 filiwn o'r cyfanswm o £7.3 miliwn a dalwyd am hawliadau twyll a ffugiad.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  1. Mae dau gyhoeddiad ar gael gan y Gofrestrfa Tir i gynghori cwsmeriaid hefyd - Cyfarwyddiadau Cyhoeddus 17 – Sut i ddiogelu yn erbyn twyll eiddo a 02 Cadw eich cyfeiriad ar gyfer gohebu yn gyfoes.
  2. Gall perchnogion tai nad ydynt yn byw yn yr eiddo neu eu trawsgludwyr gyflwyno cais i nodi'r cyfyngiad yn y gofrestr am ddim gan ddefnyddio ffurflen RQy gellir ei llwytho i lawr o www.cofrestrfatir.gov.uk/property-information/property-fraud Dylid anfon y ffurflen wedi'i llenwi at y Gofrestrfa Tir Swyddfa Penbedw, Rosebrae Court, Woodside Ferry Approach, Birkenhead, Merseyside CH41 6DU.
  3. Gall perchnogion sy'n ddeiliaid lenwi Ffurflen RX1 http://www.cofrestrfatir.gov.uk/upload/documents/RX1.pdf gyda'r cyfyngiad Ffurf LL. Codir ffi o £50 am y gwasanaeth hwn. Dylid anfon y ffurflen wedi'i llenwi at swyddfa'r Gofrestrfa Tir sy'n gwasanaethu'r ardal lle y lleolir yr eiddo. Mae geiriad y cyfyngiad yn bwysig iawn a dylid ceisio cyngor gan gyfreithiwr neu drawsgludwr os byddwch am warchod eiddo fel hyn.
  4. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
  5. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
  6. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk

Cysylltu

Ronal Patel 0300 0067490
Ronal.patel@landregistry.gsi.gov.uk

Marion Shelley 0300 0067543, 07790 690297
marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk

© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix