Ymgynghoriadau
Pan fyddwn yn gwneud cynigion a fydd, yn ein barn ni, yn gwneud cofrestru tir yn haws, rydym bob amser yn eu trafod mewn grwpiau defnyddwyr a fforymau eraill.
Os yw unrhyw un ohonynt yn effeithio'n sylweddol ar ymarfer neu weithdrefnau, byddwn yn cynnal ymgynghoriad ffurfiol.
Gall unrhyw un fynegi barn yn ystod ymgynghoriad y Gofrestrfa Tir. Mae'r cyfnod trafod yn parhau am 12 wythnos fel rheol a gall y sylwadau a dderbynnir wneud gwahaniaeth. Gallwch ymateb naill ai drwy ebost neu drwy'r post.
Ymarferion ymgynghori agored
Nid oes unrhyw ymarferion ymgynghori agored ar hyn o bryd.
Ymatebion i'r ymgynghoriad
Agorodd yr ymgynghoriad i 'Cofrestru Tir a Deddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007' ar 6 Rhagfyr 2010 a daeth i ben ar 28 Chwefror 2011. Dyma ein hymateb ffurfiol i'r ymgynghoriad
Adroddiad Ymatebion i'r Ymgynghoriad
Lansiwyd yr ymgynghoriad ar y cynnig i gau ein swyddfeydd yn Croydon, Peterborough, Portsmouth, Stevenage a Tunbridge Wells ar 22 Hydref 2009 a daeth i ben ar 29 Ionawr 2010.
Dyma ein hymateb ffurfiol i'r ymgynghoriad.
Mynegai Prisiau Tai
Chwefror 2012: 261.2(Ionawr 1995 = 100)
Pris cyfartalog £162,606 Newid:Blynyddol 1.0%
Cysylltu â ni
Bydd ein tîm Cefnogaeth i Gwsmeriaid yn ateb eich cwestiynau ac yn ymateb i'ch ymholiadau trwy ebost neu dros y ffôn.
Cysylltu...