top logo

Datganiad polisi amgylcheddol

Rydym yn cydnabod bod yn rhaid, wrth gyflawni swyddogaethau’n busnes, inni leihau effaith negyddol ein busnes ar yr amgylchedd. Rydym felly’n gwneud yr ymrwymiad amgylcheddol canlynol i:

  • gydymffurfio â phob deddfwriaeth amgylcheddol berthnasol ac amcan allweddol y llywodraeth
  • atal llygredd o’n gweithgareddau
  • adolygu a gwella’n perfformiad amgylcheddol yn barhaus
  • integreiddio cynaliadwyedd i bob penderfyniad busnes, prosiect a newid o ran arfer gwaith.

Yn benodol, byddwn yn cyflawni’r rhain trwy:

  • ystyried effeithiau amgylcheddol nwyddau a gwasanaethau yn ystod y broses gaffael a chydweithio â darparwyr allweddol yn unol â chanllawiau caffael cynaliadwy
  • gweithio gyda’n darparwyr cyfarpar TG a rheolwyr mewnol i weithredu gofynion y fenter Greening Government ICT a thrwy hynny, cyflwyno newid o fewn y Gofrestrfa Tir
  • lleihau defnydd cymharol gwasanaethau ac adnoddau eraill a rhoi pwyslais ar gyrraedd targedau llywodraeth ganolog yn ymwneud â chynaliadwyedd a chyrraedd statws carbon niwtral
  • cyflwyno polisi i leihau’n effeithiol gollyngiadau CO2 o drafnidiaeth trwy gydbwyso ein hanghenion busnes am effeithlonrwydd yn erbyn yr effaith ar yr amgylchedd
  • annog symudiad tuag at ddewisiadau trafnidiaeth sy’n fwy effeithlon o ran carbon, megis cynadledda fideo a ffôn
  • gweithio gyda’n staff, contractwyr a darparwyr i leihau’r gwastraff sy’n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi a chynyddu’n hailgylchu/ailddefnydd cyffredinol yn unol â thargedau’r llywodraeth.

Mynegai Prisiau Tai

Chwefror 2012: 261.2

(Ionawr 1995 = 100)

Pris cyfartalog £162,606 Newid:
Misol 0.2%
Blynyddol 1.0%
Mynegai nesaf: 11 y bore ar 29 Ebrill 2013

Cysylltu â ni

Bydd ein tîm Cefnogaeth i Gwsmeriaid yn ateb eich cwestiynau ac yn ymateb i'ch ymholiadau trwy ebost neu dros y ffôn.

Cysylltu...
© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix