top logo

Find a property

Mae gennym amrywiaeth o wasanaethau i'w defnyddio gan y cyhoedd – 'Find a Property' yw’r enw arnynt.

Gallwch brynu copïau ar-lein o gofrestri teitl, cynlluniau teitl a chanlyniadau Flood Risk Indicator ar ffurf PDF ar gyfer dros 23 miliwn o eiddo cofrestredig yng Nghymru a Lloegr.

Mae'r gofrestr teitl yn cynnwys manylion perchnogaeth ac, ar gyfer y rhan fwyaf o eiddo sydd wedi newid dwylo oddi ar fis Ebrill 2000, gwybodaeth am bris eiddo. Sylwer na allwn ddarparu manylion unrhyw eiddo nad yw'n gofrestredig.

Efallai y byddwch:

  • am edrych ar gofrestr teitl a/neu gynllun teitl eiddo rydych yn berchen arno
  • am ganfod pwy sy'n berchen ar eiddo penodol
  • am ganfod stent eiddo
  • â diddordeb mewn prynu eiddo
  • am brydlesu neu rentu eiddo ac yn gorfod cysylltu â'r landlord.

Mae'r Flood Risk Indicator yn ganlyniad testunol sy'n nodi'r risg o lifogydd i dir cofrestredig. Mae'n cyfuno data llifogydd Asiantaeth yr Amgylchedd a data eiddo'r Gofrestrfa Tir i roi arwydd lefel uchel i gwsmeriaid p'un ai yw darn o dir mewn perygl o lifogydd ai peidio.

Ymhlith manteision Find a property mae:

  • mewngofnodi diogel trwy wefan y Gofrestrfa Tir
  • ffordd gyfleus o dalu trwy gerdyn credyd neu ddebyd
  • mynediad i wybodaeth teitl ar unwaith ar y sgrîn
  • llinell gymorth ffôn benodol
  • gellir gwneud ymholiad eiddo bob dydd rhwng 7am a 12 hanner nos, dydd Llun i ddydd Sadwrn
  • y gallu i chwilio am eiddo trwy gyfeiriad post neu Aerial Land Locator.

Ffïoedd

Mae cofrestru ar gyfer gwasanaethau Find a property y Gofrestrfa Tir am ddim. Gwneir taliadau dilynol am wasanaethau penodol trwy gerdyn credyd neu ddebyd. Caiff y ffi lawn ei thalu i'r Gofrestrfa Tir trwy WorldPay, cwmni sy'n arbenigo mewn taliadau electronig diogel.

Beth sydd ei angen arnaf?

Er mwyn defnyddio'r gwasanaeth hwn mae'n rhaid bod yn ddefnyddiwr cofrestredig. Gofynnir i chi gofrestru i gael cyfrif neu fewngofnodi unwaith y byddwch yn barod i brynu gwybodaeth ar gyfer eiddo penodol.

Er mwyn llwytho canlyniadau chwiliad i lawr, bydd angen y canlynol arnoch:

  • cerdyn debyd/credyd dilys
  • meddalwedd Adobe Acrobat Reader ar eich cyfrifiadur
  • cyfeiriad ebost dilys.

Find a property >>

Gweld telerau ac amodau Find a property.

Mynegai Prisiau Tai

Chwefror 2012: 261.2

(Ionawr 1995 = 100)

Pris cyfartalog £162,606 Newid:
Misol 0.2%
Blynyddol 1.0%
Mynegai nesaf: 11 y bore ar 29 Ebrill 2013

Cysylltu â ni

Bydd ein tîm Cefnogaeth i Gwsmeriaid yn ateb eich cwestiynau ac yn ymateb i'ch ymholiadau trwy ebost neu dros y ffôn.

Cysylltu...
© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix