10 Rhagfyr 2012
PR 20/12
GWASANAETHAU ARCHEBU DROS Y FFÔN – NODYN ATGOFFA AM EU CAU
Ar ôl ymgynghoriad yn gynharach eleni, bydd y gwasanaeth archebu dros y ffôn ar gyfer cwsmeriaid busnes (Gwasanaethau Ffôn), a ddefnyddir ar gyfer ceisiadau am wybodaeth Pridiannau Tir a'r Gofrestrfa Tir, yn cau ar 17 Rhagfyr 2012. Mae'r galw am y gwasanaeth hwn wedi gostwng 96 y cant oddi ar 2003 gyda bron 92 y cant o geisiadau'n cael eu harchebu ar-lein, o gymharu â 6.8 y cant trwy'r post ac 1.5 y cant dros y ffôn.
Mae gwasanaethau ar-lein ar gael am fwy o amser (6.30am i 10pm yn ystod yr wythnos a rhwng 7am a 5pm ar ddydd Sadwrn) na'r Gwasanaethau Ffôn ac maent yn rhoi dewis cyflymach am lai o gost ar gyfer ceisiadau gwybodaeth y Gofrestrfa Tir. Gellir cofrestru am y gwasanaethau hyn am ddim ac mae'r Gofrestrfa Tir yn cynnig cymorth i ddefnyddwyr gwasanaeth a hyfforddiant ar-lein. Bydd newidiadau i ddeddfwriaeth yn galluogi'r Gofrestrfa Tir i gyflwyno rhagor o fathau o geisiadau Pridiannau Tir electronig.
Gall cwsmeriaid busnes wneud ymholiadau ffôn o hyd trwy ffonio eu tîm cwsmeriaid. Gall cwsmeriaid heb dîm cwsmeriaid wneud ymholiadau cyffredinol i'r rhif cefnogaeth i gwsmeriaid 0844 892 1122.
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
- Defnyddir y gwasanaethau archebu dros y ffôn (Gwasanaethau Ffôn) ar gyfer ceisiadau Pridiannau Tir a cheisiadau'r Gofrestrfa Tir gan ddefnyddwyr busnes gyda chyfrif y Gofrestrfa Tir. Nid yw ar gael i'r cyhoedd. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 4 Mai a 27 Gorffennaf 2012 www.cofrestrfatir.gov.uk/public/consultations
- I gael rhagor o wybodaeth am gofrestru ar gyfer E-wasanaethau busnes gallwch gysylltu â 0844 892 1122 neu customersupport@landregistry.gsi.gov.uk
- Mae'r Gofrestrfa Tir yn cynnal cofrestri sy'n ymwneud â thir digofrestredig, a elwir yn gofrestri Pridiannau Tir. Nid yw'r cofrestri hyn yn cofnodi perchnogaeth tir digofrestredig. Eu prif dasg yw gwarchod buddion penodol, er enghraifft morgeisi, mewn tir digofrestredig a chynnal y mynegai methdaliad ar gyfer Cymru a Lloegr.
- Mae eleni'n nodi 150 mlwyddiant y Gofrestrfa Tir. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
- Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
- I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk
Cysylltu
Marion Shelley 0300 0067543, 07790 690297
marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk