PR04/12 28/02/2012
Data Tueddiadau'r Farchnad mis Ionawr gan y Gofrestrfa Tir
Mae gwybodaeth trafodion misol manwl bellach ar gael yn ogystal â'r Mynegai Prisiau Tai
Prisiau tai mis Ionawr yn codi 1.1 y cant oddi ar fis Rhagfyr: prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £161,545
De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol ym mis Ionawr gyda 247,768 o geisiadau
Fel y rhan gyntaf o'i hymrwymiad i flaenoriaethau'r Llywodraeth o ran twf economaidd a thryloywder data, mae gwybodaeth trafodion manwl y Gofrestrfa Tir bellach ar gael yn fisol yn ogystal â'r Mynegai Prisiau Tai. Caiff data trafodion mis Ionawr ei ryddhau gan y Gofrestrfa Tir, fel aelod o'r Grŵp Data Cyhoeddus, ac mae'n cynnwys dadansoddiad manwl o geisiadau yn ôl nifer a math gan gyfreithwyr, trawsgludwyr a rhoddwyr benthyg ac mae'n cynnwys eiddo masnachol a thir, yn ogystal ag eiddo preswyl.
Mae data mis Ionawr o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos gostyngiad prisiau blynyddol o 1.0 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £161,545. Mae'r newid misol o fis Rhagfyr i fis Ionawr yn 1.1 y cant.
Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 2.9 y cant. Yn Llundain y gwelwyd y cynnydd misol mwyaf hefyd gyda symudiad o 2.5 y cant. Gwelodd Gogledd Ddwyrain Lloegr y gostyngiad prisiau blynyddol mwyaf gyda gostyngiad o 4.5 y cant. Gogledd Orllewin Lloegr welodd y gostyngiad misol mwyaf arwyddocaol mewn prisiau gyda gostyngiad o 2.1 y cant.
Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Tachwedd 2011 gynyddu 3 y cant i 57,967 o gymharu â 56,312 ym mis Tachwedd 2010. Mae nifer yr eiddo yng Nghymru a Lloegr a werthwyd am fwy nag £1 miliwn ym mis Tachwedd 2011 wedi gostwng 4 y cant i 524 o 548 ym mis Tachwedd 2010.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i http://www.cofrestrfatir.gov.uk/house-prices
Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov
Rhanbarth | Newid misol (oddi ar fis Rhagfyr 2011) | Newid blynyddol (oddi ar fis Ionawr 2011) | Pris cyfartalog (Ionawr 2012) |
Llundain | 2.5% | 2.9% | £351,305 |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | 2.2% | -4.5% | £102,066 |
De Orllewin Lloegr | 1.6% | -0.6% | £173,090 |
Cymru a Lloegr | 1.1% | -1.0% | £161,545 |
De Ddwyrain Lloegr | 1.0% | 0.5% | £207,761 |
Dwyrain Lloegr | 1.0% | -0.4% | £173,412 |
Cymru | 0.9% | -3.8% | £117,078 |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | 0.3% | -3.7% | £119,014 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 0.2% | -2.7% | £123,142 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 0.1% | -2.2% | £128,803 |
Gogledd Orllewin Lloegr | -2.1% | -4.2% | £109,866 |
Prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) | Ionawr 2012 | Ionawr 2011 | Gwahaniaeth |
Tŷ sengl | £254,943 | £258,046 | -1.2% |
Tŷ pâr | £153,729 | £153,966 | -0.2% |
Tŷ teras | £121,860 | £124,646 | -2.2% |
Fflat/Fflat deulawr | £152,013 | £152,803 | -0.5% |
Holl | £161,545 | £163,206 | -1.0% |
Mis | Gwerthiannau 2010 (Cymru a Lloegr) | Gwerthiannau 2009 (Cymru a Lloegr) | Gwahaniaeth |
Ionawr | 35,868 | 26,303 | 36% |
Chwefror | 42,558 | 27,311 | 56% |
Mawrth | 51,444 | 35,567 | 45% |
Ebrill | 52,310 | 39,386 | 33% |
Mai | 52,206 | 45,899 | 14% |
Mehefin | 62,754 | 54,818 | 14% |
Gorffennaf | 67,504 | 63,721 | 6% |
Awst | 61,497 | 58,389 | 5% |
Medi | 57,489 | 58,568 | -2% |
Hydref | 58,640 | 65,857 | -11% |
Tachwedd | 56,312 | 61,182 | -8% |
Rhagfyr | 56,861 | 78,590 | -28% |
Cyfanswm | 655,443 | 615,591 | 6% |
Mis | Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr) | Gwerthiannau 2010 (Cymru a Lloegr) | Gwahaniaeth |
Ionawr | 37,562 | 35,868 | 5% |
Chwefror | 39,651 | 42,558 | -7% |
Mawrth | 46,686 | 51,444 | -9% |
Ebrill | 50,640 | 52,310 | -3% |
Mai | 48,863 | 52,206 | -6% |
Mehefin | 57,506 | 62,754 | -8% |
Gorffennaf | 62,052 | 67,504 | -8% |
Awst | 64,012 | 61,497 | 4% |
Medi | 62,830 | 57,489 | 9% |
Hydref | 56,877 | 58,640 | -3% |
Tachwedd | 57,967 | 56,312 | 3% |
Mae'r Data Trafodiad yn dangos i'r Gofrestrfa Tirdderbyn dros 1.1 miliwn o geisiadau gan ei holl gwsmeriaid (gyda a heb gyfrif) ym mis Ionawr. Mae hyn yn cynnwys 1,005,863 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda 247,549 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau), 458,829 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl, 141,463 yn chwiliadau a 60,210 yn drafodion am werth.
Tri phrif gwsmer | Ceisiadau |
NLIS Operations | 22,393 |
Enact | 19,722 |
Optima Legal Services | 17,440 |
Tri phrif gwsmer | Chwiliadau |
Enact | 6,080 |
Optima Legal Services | 4,956 |
NLIS Operations | 3,682 |
Tair prif awdurdod lleol | Ceisiadau |
Birmingham | 17,625 |
Dinas Westminster | 16,532 |
Cernyw | 12,295 |
Rhanbarth | Ceisiadau |
De Ddwyrain Lloegr | 247,768 |
Llundain Fwyaf | 190,156 |
Gogledd Orllewin Lloegr | 117,987 |
De Orllewin Lloegr | 107,113 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 99,203 |
Swydd Gaerefrog a'r Humber | 87,741 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 77,716 |
Cymru | 54,818 |
Gogledd Lloegr | 51,323 |
Dwyrain Anglia | 44,231 |
Ynysoedd Sili | 48 |
Cymru a Lloegr heb ei aseinio | 25 |
Cymru a Lloegr | 1,078,129 |
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
- Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Caiff Mynegai Prisiau Tai a Data Trafodiad mis Chwefror eu cyhoeddi am 11 y bore ar ddydd Mercher 28 Mawrth 2012.
- O fis Mawrth 2012, caiff gwybodaeth fisol Price Paid y Gofrestrfa Tir sy'n dangos holl werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr ar lefel cyfeiriad ei chyhoeddi fel rhan o’r Data Tueddiadau’r Farchnad.
- Mae'r Grŵp Data Cyhoeddus yn dod â'r Gofrestrfa Tir, Tŷ’r Cwmnïau, y Swyddfa Dywydd a'r Arolwg Ordnans at ei gilydd i gydweithio i ddod o hyd i gyfleoedd a llywio effeithlonrwydd, yn ogystal â rhyddhau eu data i ddefnyddwyr ac ail-ddefnyddwyr am bris gostyngol neu am ddim.
- Mae'r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. I gael esboniad o'r byrfoddau a thermau a ddefnyddir, ewch i http://www.cofrestrfatir.gov.uk/market-trend-data/faqs#m11. Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
- Mae'r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i'r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o chwiliadau, ewch i http://www.cofrestrfatir.gov.uk/market-trend-data/faqs#m11. Mae'r Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA), a ddatblygwyd gan yr Archif Genedlaethol, yn caniatáu’r defnydd ac ail-ddefnydd rhydd o wybodaeth y sector gyhoeddus. I gael rhagor o wybodaeth ewch i http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence
- Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
- Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion mwy nag 16 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
- Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
- Mae eleni'n nodi 150 mlwyddiant y Gofrestrfa Tir. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
- I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.ukCysylltu
Marion Shelley 0300 0067543, 07790 690297