17 Gorffennaf 2012
Y Gofrestrfa Tir yn ennill gwobr amrywiaeth glodfawr
Mae cynnydd y Gofrestrfa Tir o ran amrywiaeth wedi'i gydnabod yn swyddogol gan rwydwaith cydraddoldeb blaenllaw.
Mae’r Gofrestrfa Tir wrth ei bodd o ennill y wobr ar gyfer Cyflogwr Mawr y Flwyddyn yng ngwobrau enei (employer’s network for equality and inclusion) 2012.
Enillwyd y wobr am y cynnydd rhagorol a gyflawnwyd gan y Gofrestrfa Tir yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf gyda'r gwaith o brif ffrydio amrywiaeth o fewn y sefydliad a chynyddu atebolrwydd.
Er mwyn cyflawni hyn rydym wedi:
- sicrhau bod ein Strategaeth Amrywiaeth yn datgan y dylai pob rheolwr ar bob lefel ddangos arweiniad cadarnhaol
- rhoi amcanion cydraddoldeb strategol ar waith sy'n benodol ac yn fesuradwy
- llunio Grŵp Llywio Amrywiaeth a Grwpiau Ffocws Staff, gan gynnwys uwch reolwyr o bob uned fusnes
- creu Grŵp Llywio Amrywiaeth wedi'i lunio o aelodau presennol y Grŵp Ffocws Anabledd, rhwydwaith Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol a'r Grŵp Ffocws Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig
- sefydlu Eiriolwyr Amrywiaeth ar lefel Bwrdd a lleol yn ogystal â Fforymau Amrywiaeth ymhob swyddfa leol
- cyflwyno proses Asesiad Effaith Cydraddoldeb ffurfiol, a ddefnyddiwyd i asesu'r holl brosesau a pholisïau canolog
- lansio ymgyrch ‘Respect’ ym mis Ionawr 2012 er mwyn gwneud gwerth y sefydliad o barch yn rhan annatod o'r busnes a chodi ymwybyddiaeth o'i berthynas â newid ac amrywiaeth diwylliannol.
Wrth drafod cyflwyniad y Gofrestrfa Tir, dywedodd y beirniaid “Mae agwedd y Gofrestrfa Tir yn bellgyrhaeddol gyda newid o ran llywodraethu yn gyffredinol ac ymrwymiad ar y lefel uchaf i amrywiaeth wedi'i ategu gan amcanion clir. Mae hyn wedi arwain at amrywiaeth yn dod yn rhan annatod o'r busnes.”
Dywedodd David Evans, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, “Rwyf yn falch iawn bod y wobr hon wedi cydnabod ymroddiad y bobl sydd wedi gweithio mor galed tuag at gyflawni'r llwyddiant hwn. Er bod gennym waith i'w wneud o hyd, mae derbyn cydnabyddiaeth yn garreg filltir arwyddocaol ar ein taith.”
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
- Prif rwydwaith cyflogwyr yw'r Rhwydwaith Cyflogwyr ar gyfer Cydraddoldeb a Chynhwysiant (enei) sy'n cynnwys pob agwedd ar faterion sy'n ymwneud â chydraddoldeb a chynhwysiant yn y gweithle.
- Mae digwyddiadau enei yn rhoi'r cyfle i aelodau gymharu eu dysgu yn ogystal â rhwydweithio â sefydliadau blaenllaw eraill.
- Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
- Mae eleni'n nodi 150 mlwyddiant y Gofrestrfa Tir. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
- I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk
Cysylltu
Marion Shelley 0300 0067543, 07790 690297
marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk
Ronal Patel 0300 0067490
Ronal.patel@landregistry.gsi.gov.uk
Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov
Dewch o hyd i ni ar LinkedIn