top logo

30 Gorffennaf 2012
PR 13/12

Y Gofrestrfa Tir yn gostwng ei ffïoedd o ddeg y cant

Mae arbedion effeithlonrwydd a wnaed yn ystod y pum mlynedd diwethaf gan y Gofrestrfa Tir, adran y llywodraeth sy'n gyfrifol am gofrestru tir yng Nghymru a Lloegr, yn golygu y bydd cwsmeriaid yn elwa ar ffïoedd is cyn hir. Caiff ffïoedd eu gostwng o ddeg y cant ar gyfartaledd. Gosodwyd y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir newydd gerbron y Senedd ar ddydd Gwener 27 Gorffennaf, a daw i rym ar ddydd Llun 22 Hydref 2012.

Ffïoedd newydd o 22 Hydref 2012

Ffïoedd ar raddfa – yn gostwng £10

Swm neu Werth

Ffi graddfa 1 i gofrestru (£)

Ffi ostyngol i gofrestru (£)

Ffi graddfa 2 i gofrestru (£)

Hyd at £50,000

£50,001 i £80,000

£80,001 i £100,000

£100,001 i £200,000

£200,001 i £500,000

£500,001 i £1,000,000

Uwch na 1,000,000

40

70

120

190

270

540

910

30

50

90

140

200

400

680

40

40

40

60

80

120

250

Y rhan fwyaf o ffïoedd sefydlog ar gyfer cofrestru – yn gostwng £10

Ffi Sefydlog

Ffi (£)

Safonol

Gostyngol

40

20

Ffïoedd ar gyfer Gwasanaethau gwybodaeth – yn gostwng £1

Ceisiadau

Ffi (£)

Copïau swyddogol o gofrestr/cynllun a chwiliadau (ar bapur)

Copïau swyddogol o gofrestr/cynllun a chwiliadau (electronig)

7

3

Ymhlith newidiadau eraill mae:

  • ffi sefydlog (£40) fydd y ffi ar gyfer ceisiadau i newid y gofrestr yn hytrach na ffi ar raddfa
  • daw'r eithriad ffïoedd ar gyfer ceisiadau i wneud cofnod mewn perthynas â hawliau atgyweirio cangell eglwys i ben ar 13 Hydref 2013
  • ni fydd y ffi ostyngol yn berthnasol i gofrestriad cyntaf gwirfoddol mwynfeydd a mwynau mwyach a bydd ffi cofrestriad cyntaf yn berthnasol
  • caiff ffi newydd ar gyfer ceisiadau ar-lein ar gyfer copïau hanesyddol o gofnodion cofrestr ei chyflwyno yn y dyfodol agos.

Dywedodd Heather Foster, Cyfarwyddwr Cyllid y Gofrestrfa Tir:

“Wrth ostwng ein ffïoedd rydym yn gostwng costau trafodion y farchnad eiddo ac yn helpu gyda thwf economaidd. Mae'r arbedion effeithlonrwydd a wnaethom o ganlyniad i raglen ailstrwythuro fawr yn golygu y caiff costau chwiliadau eiddo a chofrestru eu torri ar gyfer ein cwsmeriaid.

“Mae'r Gorchymyn Ffi newydd yn ein galluogi i drosglwyddo arbedion mewn blwyddyn lawn o £33 miliwn ar ffurf ffïoedd is – er enghraifft, bydd y ffi ar gyfer cofrestru eiddo o bris cyfartalog yn gostwng o £200 i £190, y ffi ar gyfer copi ar-lein o'r gofrestr fydd £3 yn hytrach na £4 a bydd y ffi ar gyfer cofrestru eiddo rhwng £50,001 a £80,000 yn gostwng 12.5 y cant.”

Fel asiantaeth y llywodraeth gyda statws cronfa fasnachu, rhaid i'r Gofrestrfa Tir dalu am ei chostau gweithredu o incwm ffïoedd. Mae ffïoedd y Gofrestrfa Tir yn seiliedig ar nifer y ceisiadau a dderbyniwyd, gwerth yr eiddo a gorbenion mewnol. Er bod y ffïoedd wedi'u gostwng, mae nifer presennol y ceisiadau ymhell islaw lefel y blynyddoedd cyn y dirywiad yn y farchnad eiddo o hyd.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  1. Gosodwyd Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir 2012 gerbron y Senedd ar ddydd Gwener 27 Gorffennaf 2012, a daw i rym ar 22 Hydref 2012. Mae'n disodli Gorchymyn 2009 ddaeth i rym ar 6 Gorffennaf 2009. Gellir cael copïau o Orchymyn 2012 gan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus www.legislation.gov.uk neu trwy ddogfenwyr cyfreithiol.
  2. I gael atodlen lawn o'r ffïoedd ewch i http://www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/fees
  3. Bydd ffi y Gofrestrfa Tir ar gyfer cofrestru eiddo o bris cyfartalog (£160,417 ym mis Mai 2012 yn ôl Mynegai Prisiau Tai y Gofrestrfa Tir) yn gostwng o £200 i £190.
  4. Incwm ffïoedd y Gofrestrfa Tir ar gyfer 2011/12 yw £359.3 miliwn o gymharu â £355.4 miliwn ar gyfer 2010/11.
  5. Cafodd y Gofrestrfa Tir dros 23.3 miliwn o geisiadau yn 2011/12 o gymharu â 36.3 miliwn yn 2007/08.
  6. Gellir gweld rhifynnau newydd o'r cardiau ffïoedd a'r cyfarwyddyd cyfeirio parod diwygiedig a'r cyfrifiannell ffïoedd a'u llwytho i lawr yn www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/fees
  7. I gael rhagor o wybodaeth am y Gorchymyn Ffi 2012 newydd, gweler www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/fees neu anfonwch ebost at y Tîm Gwasanaeth a Thrin Cwsmeriaid yn fees@landregistry.gsi.gov.uk
  8. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
  9. Mae eleni'n nodi 150 mlwyddiant y Gofrestrfa Tir. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
  10. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk

Cysylltu

Marion Shelley 0300 0067543, 07790 690297
marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk

Ronal Patel 0300 0067490
Ronal.patel@landregistry.gsi.gov.uk

Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov

Dewch o hyd i ni ar LinkedIn

 

© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix