top logo

04/05/2011

Prisiau tai mis Mawrth wedi gostwng 1.1 y cant oddi ar fis Chwefror : pris tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £160,996

Mae data mis Mawrth o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos gostyngiad pris blynyddol o 2.3 y cant sy’n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £160,996. Mae’r newid misol o fis Chwefror i fis Mawrth yn ostyngiad o 1.1 y cant.

Gwelodd un rhanbarth yng Nghymru a Lloegr gynnydd yng ngwerthoedd eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf. Llundain oedd y rhanbarth hwnnw gyda chynnydd o 0.8 y cant. Yr unig ranbarth i weld cynnydd misol oedd Gogledd Orllewin Lloegr gyda symudiad o 0.7 y cant. Gogledd Ddwyrain Lloegr welodd y gostyngiad blynyddol mwyaf mewn prisiau gyda gostyngiad o -9.3 y cant. Cymru yw’r rhanbarth â’r gostyngiad misol mwyaf arwyddocaol gyda symudiad o -3.3 y cant.

 Mae’r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Ionawr 2011 godi 2 y cant i 36,425 o 35,809 ym mis Ionawr 2010. Cododd nifer yr eiddo a werthwyd am dros £1 filiwn yng Nghymru a Lloegr 6 y cant rhwng mis Ionawr 2010 a mis Ionawr 2011, o 460 i 486.

 I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk/houseprices

Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov

Rhanbarth

Newid misol (oddi ar fis Chwefror 2011)

Newid blynyddol

(oddi ar fis Mawrth 2010)

Pris cyfartalog

 (Mawrth 2011)

Gogledd Orllewin Lloegr

0.7%

-2.9%

£116,446

De Ddwyrain Lloegr

-0.2%

-0.7%

£206,320

De Orllewin Lloegr

-0.6%

-2.2%

£171,940

Gogledd Ddwyrain Lloegr

-0.8%

-9.3%

£101,214

Llundain

-1.0%

0.8%

£336,828

Cymru a Lloegr

-1.1%

-2.3%

£160,996

Gorllewin Canolbarth Lloegr

-1.2%

-4.2%

£129,877

Dwyrain Lloegr

-1.4%

-2.0%

£172,712

Swydd Gaerefrog a’r Humber

-1.9%

-5.3%

£120,567

Dwyrain Canolbarth Lloegr

-2.5%

-2.8%

£123,417

Cymru

-3.3%

-7.2%

£115,998

 

 

Prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr)

Mawrth 2011

Mawrth 2010

Gwahaniaeth (%)

Tŷ sengl

£255,940

£258,398

-1.0%

Tŷ pâr

£152,784

£155,593

-1.8%

Tŷ teras

£122,248

£126,561

-3.4%

Fflat/fflat deulawr

£148,854

£153,676

-3.1%

Holl

£160,996

£164,802

-2.3%

 

 

Mis

Gwerthiannau 2010 (Cymru a Lloegr)

Gwerthiannau 2009 (Cymru a Lloegr)

Gwahaniaeth

Ionawr

35,809

26,272

36%

Chwefror

42,514

27,269

56%

Mawrth

51,373

35,524

45%

Ebrill

52,245

39,345

33%

Mai

52,124

45,861

14%

Mehefin

62,611

54,773

14%

Gorffennaf

67,340

63,658

6%

Awst

61,280

58,332

5%

Medi

57,205

58,487

-2%

Hydref

58,249

65,777

-11%

Tachwedd

55,705

61,094

-9%

Rhagfyr

55,813

78,457

-29%

Cyfanswm

652,268

614,849

6%

 

 

Mis

Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr)

Gwerthiannau 2010 (Cymru a Lloegr)

Gwahaniaeth

Ionawr

36,425

35,809

2%

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

1. Oddi ar 2006, mae Mynegai Prisiau Tai'r Gofrestrfa Tir, sydd ar gael am ddim yn www.cofrestrfatir.gov.uk/houseprices wedi cynyddu momentwm i ddod yn ddangosydd blaenllaw o symudiadau eiddo yng Nghymru a Lloegr. Caiff ei ystyried yn eang fel "y baromedr mwyaf cywir o'r farchnad dai".

2. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y Gofrestrfa Tir ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir mynegai mis Ebrill am 11 y bore ar ddydd Mawrth 31 Mai 2011.

3. Mae’r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy’n fwy na’r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae’n cael ei gyfrifo ar sail set ddata’r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.

4. Mae set ddata’r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion 16 miliwn o drafodion preswyl. O’r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy’n darparu’r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio’r mynegai. Mae’r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.

5. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 22 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy warchod perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.

6. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder ac Arglwydd Ganghellor, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.

7. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk

Cysylltu

Marion Shelley 0300 0067543

marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk

Jill Inglis 0300 0067487

jill.inglis@landregistry.gsi.gov.uk

© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix