Data Tueddiadau'r Farchnad Mis Awst gan y Gofrestrfa Tir
- Dim newid oddi ar fis Gorffennaf ym mhrisiau tai mis Awst: prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £163,376
- De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol ym mis Awst gyda 255,424 o geisiadau
- Cyflwynwyd dros 65,400 eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i'w cofrestru ym mis Awst
- Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 5.0 y cant.
- Yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr gwelwyd y cynnydd misol mwyaf gyda chynnydd o 0.8 y cant.
- Gwelodd Cymru y gostyngiad prisiau blynyddol mwyaf gyda gostyngiad o 3.2 y cant.
- Cymru welodd y gostyngiadau prisiau misol mwyaf arwyddocaol hefyd, gyda gostyngiad o 2.4 y cant.
- Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Mehefin 2012 ostwng 3 y cant i 56,077 o gymharu â 57,702 ym mis Mehefin 2011.
- Mae nifer yr eiddo yng Nghymru a Lloegr a werthwyd am fwy nag £1 miliwn ym mis Mehefin 2012 wedi cynyddu 35 y cant i 647 o 478 ym mis Mehefin 2011.

Mynegai Prisiau Tai
Rhanbarth | Newid misol (oddi ar fis Gorffennaf 2012) | Newid blynyddol (oddi ar fis Awst 2011) | Pris cyfartalog (Awst 2012) |
---|---|---|---|
Gogledd Ddwyrain Lloegr | 0.8% | -3.5% | £100,934 |
De Orllewin Lloegr | 0.7% | 1.0% | £173,448 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 0.7% | 0.6% | £125,171 |
Gogledd Orllewin Lloegr | 0.4% | -2.5% | £110,656 |
De Ddwyrain Lloegr | 0.4% | 2.0% | £211,050 |
Swydd Gaerefrog a'r Humber | 0.2% | -1.4% | £119,178 |
Llundain | 0.0% | 5.0% | £364,059 |
Cymru a Lloegr | 0.0% | 0.7% | £163,376 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 0.0% | 0.1% | £130,533 |
Dwyrain Lloegr | -0.3% | 1.0% | £175,145 |
Cymru | -2.4% | -3.2% | £115,887 |
Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) | Awst 2012 | Awst 2011 | Gwahaniaeth |
Tŷ sengl | £255,562 | £255,531 | - |
Tŷ pâr | £154,774 | £153,337 | 0.9% |
Tŷ teras | £125,329 | £123,484 | 1.5% |
Fflat/fflat deulawr | £152,023 | £151,408 | 0.4% |
Holl | £163,376 | £162,172 | 0.7% |
Mis | Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr) | Gwerthiannau 2010 (Cymru a Lloegr) | Gwahaniaeth |
Ionawr | 37,619 | 35,886 | 5% |
Chwefror | 39,683 | 42,582 | -7% |
Mawrth | 46,753 | 51,479 | -9% |
Ebrill | 50,742 | 52,347 | -3% |
Mai | 48,979 | 52,242 | -6% |
Mehefin | 57,7021 | 62,788 | -8% |
Gorffennaf | 62,289 | 67,553 | -8% |
Awst | 64,394 | 61,533 | 5% |
Medi | 63,512 | 57,524 | 10% |
Hydref | 57,926 | 58,687 | -1% |
Tachwedd | 60,284 | 56,367 | 7% |
Rhagfyr | 63,473 | 56,921 | 12% |
Cyfanswm | 653,356 | 655,909 | 0% |
Mis | Gwerthiannau 2012 (England and Wales) | Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr) | Gwahaniaeth |
Ionawr | 43,591 | 37,619 | 16% |
Chwefror | 44,629 | 39,683 | 12% |
Mawrth | 60,828 | 46,753 | 30% |
Ebrill | 42,674 | 50,742 | -16% |
Mai | 51,282 | 48,979 | 5% |
Mehefin | 56,077 | 57,702 | -3% |
Data Trafodiad
Mae'r Data Trafodiad yn dangos i'r Gofrestrfa Tirdderbyn dros 1,100,000 o geisiadau gan ei chwsmeriaid (gyda a heb gyfrif) ym mis Awst. Mae hyn yn cynnwys 1,044,299 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda 263,225 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau); 455,762 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl; 157,067 yn chwiliadau a 70,820 yn drafodion am werth.
Tri phrif gwsmer | Trafodion am werth |
Countrywide Property Lawyers | 1,552 |
My Home Move Limited | 1,484 |
O'Neill Patient | 974 |
Tri phrif gwsmer | Chwiliadau |
Optima Legal Services | 4,813 |
Enact | 4,681 |
T M Group UK Ltd (Search Choice) | 3,755 |
Tair prif ardal awdurdod lleol | Ceisiadau |
Dinas Westminster | 16,665 |
Birmingham | 16,609 |
Cernyw | 13,057 |
Rhanbarth | Ceisiadau |
---|---|
De Ddwyain Lloegr | 255,424 |
Llundain Fwyaf | 195,383 |
Gogledd Orllewin Lloegr | 120,277 |
De Orllewin Lloegr | 113,088 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 92,400 |
Swydd Gaerefrog a'r Humber | 90,595 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 79,922 |
Cymru | 54,366 |
Gogledd Lloegr | 52,751 |
Dwyrain Anglia | 45,942 |
Cymru a Lloegr (heb eu haseinio) | 41 |
Ynysoedd Sili | 31 |
Cyfanswm | 1,100,220 |
Mae'r Data pris a dalwyd yn cynnwys manylion dros 65,400 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i'w cofrestru ym mis Awst 2012.
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
- Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a setiau data Trafodiad a Data pris a dalwyd mis Medi am 11 y bore ar ddydd Gwener 26 Hydref 2012.
- Mae'r Grŵp Data Cyhoeddus yn dod â'r Gofrestrfa Tir, Tŷ’r Cwmnïau, y Swyddfa Dywydd a'r Arolwg Ordnans at ei gilydd i gydweithio i ddod o hyd i gyfleoedd a llywio effeithlonrwydd, yn ogystal â rhyddhau eu data i ddefnyddwyr ac ail-ddefnyddwyr am bris gostyngol neu am ddim.
- Mae'r Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA), a ddatblygwyd gan yr Archif Genedlaethol, yn caniatáu’r defnydd ac ail-ddefnydd rhydd o wybodaeth y sector gyhoeddus. I gael rhagor o wybodaeth ewch i http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence
- Mae eleni'n nodi 150 mlwyddiant y Gofrestrfa Tir. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
- Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
- Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
- Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion am 16 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
- Mae'r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. I gael esboniad o'r termau a ddefnyddir, ewch i http://www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/faqs#m11
- Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
- Mae'r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i'r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o chwiliadau, ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/faqs#m11
- Mae'r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:
- y cyfeiriad llawn
- y pris a dalwyd
- dyddiad y trosglwyddiad
- y math o eiddo
- ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio
- ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo
- Gellir ei llwytho i lawr o wefan y Gofrestrfa Tir fel cipolwg misol o'n cronfa ddata pris a dalwyd yn http://www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/price-paid-data ac mae ar gael i bawb ei harchwilio neu ei hail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
- I gael Data Pris a Dalwyd hanesyddol, anfonwch ebost at addvalueservices@landregistry.gsi.gov.uk neu ffoniwch 0800 678 1678. Codir tâl am yr adroddiadau hyn.
- I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov Dewch o hyd i ni ar LinkedIn