top logo

15/11 28/09/2011

Y Gofrestrfa Tir yn cyhoeddi cyfarwyddyd newydd ar chwilio'r Mynegai Enwau Perchnogion

Mae’r Gofrestrfa Tir wedi cyhoeddi cyfarwyddyd newydd ar chwilio am eiddo sy’n perthyn i unigolyn neu gwmni yn ei Mynegai Enwau Perchnogion (IOPN). Mae Cyfarwyddyd Ymarfer 74Chwiliadau o’r Mynegai Enwau Perchnogion yn esbonio sut i chwilio’r mynegai ac mae’n cynnwys awgrymiadau ar gyfer chwilio am unigolion, sefydliadau corfforaethol, awdurdodau lleol ac adrannau’r llywodraeth.

Gall unigolyn wneud cais i chwilio’r IOPN mewn perthynas â:

  • ei enw ei hun
  • enw corff corfforaethol, megis cwmni cofrestredig
  • enw person arall y gallent brofi i’r cofrestrydd fod ganddynt ddiddordeb cyffredinol yn ei eiddo. Er enghraifft:
  • gall y Derbynnydd Swyddogol neu ymddiriedolwr mewn methdaliad chwilio yn erbyn enw’r methdalwr
  • gall cynrychiolydd personol chwilio yn erbyn enw’r ymadawedig ar ôl cyflwyno profiant neu lythyrau gweinyddu.
  • enw unigolyn preifat os oes ganddynt orchymyn llys yn awdurdodi chwiliad o’r IOPN
  • enw unigolyn preifat os oes ganddynt awdurdod ysgrifenedig y person y chwilir yn erbyn ei enw.

Bydd canlyniad y chwiliad yn dangos holl deitlau’r Gofrestrfa Tir lle y mae'r unigolyn y chwilir yn erbyn ei enw yn berchennog neu’n gydberchennog y tir neu’n rhoddwr benthyg o dan forgais cofrestredig. Os yw’r enw y chwilir yn ei erbyn yn un cyffredin, megis ‘John Smith’ neu ‘John Smith Limited’, bydd y chwiliad yn datgelu eiddo ym meddiant unigolion neu sefydliadau eraill â’r un enw. Bydd chwiliad ‘High Street bank plc’ yn datgelu’r holl deitlau sydd â morgais cofrestredig gan y rhoddwr benthyg hwn.

O ddydd Llun 26 Medi 2011, rhaid i unigolion preifat gyflwyno tystiolaeth o hunaniaeth os ydynt am chwilio’r IOPN mewn perthynas â’u henwau eu hunain neu enw trydydd parti lle y mae’r unigolyn a enwir wedi rhoi caniatâd ar gyfer y chwiliad, gan ddefnyddio’r ffurflen hunaniaeth IOPN newydd. Nid oes angen ffurflen hunaniaeth wrth chwilio yn erbyn enw cwmni neu sefydliad arall.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  1. Gellir llwytho Cyfarwyddyd Ymarfer 74Chwiliadau o’r Mynegai Enwau Perchnogion a’r ffurflen hunaniaeth IOPN i lawr o http://www.cofrestrfatir.gov.uk/publications Codir ffi o £12 am bob enw y chwilir yn ei erbyn.
  2. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 22 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy warchod perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
  3. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
  4. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.ukCysylltu

Marion Shelley 0300 0067543, 07790 690297

marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk

Ronal Patel 0300 0067490

ronal.patel@landregistry.gsi.gov.uk

© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix