Ein gwasanaethau rhyngwladol
Nod Uned Ryngwladol Cofrestrfa Tir EM yw darparu cyngor, arbenigedd a gwybodaeth dechnegol am gofrestru tir i'r gwledydd hynny sydd am sefydlu a datblygu perchnogaeth breifat o dir, system ddiogel o dirddaliadaeth a marchnadoedd tir a morgeisi sy'n gweithio.
Rydym yn frwdfrydig am gofrestru tir a chredwn yn gryf, fel conglfaen yr economi heddiw, mae'n galluogi pawb sy'n delio ag eiddo i wneud hynny'n hyderus.
Rydym yn cynnig gwasanaeth ymgynghori, hyfforddiand a theithiau astudio, sy'n cwmpasu ystod eang o ddisgyblaethau sy'n gysylltiedig â gweinyddu tir – yn cynnwys ymarferwyr cofrestru tir, cyfreithwyr, surfewyr, arbenigwyr technoleg gwybodaeth, adnoddau dynol, cyllid a hyfforddiant.
Defnyddiwch y cysylltau i adrannau ar y chwith a'n COA i ddysgu mwy am ein rôl a'n cyfrifoldebau ac i wybod sut y gallwch gysylltu â ni os oes angen cymorth neu gyngor pellach arnoch
Ymgynghori
Mae'n bleser gennym rannu ein gwybodaeth a'n harbenigedd gyda llywodraethau cleient, yn arbennig mewn gwledydd datblygol a throsiannol.
Mae ein pobl yn arbenigwyr yn eu meysydd ac maent yn cwmpasu ystod eang o swyddogaethau gweinyddu tir, o bolisi a deddfwriaeth tir i hyfforddiant a datblygiad staff.
Rydym yn darparu pobl ar gyfer aseiniadau ymgynghori sy'n amrywio o ychydig ddyddiau i hyd at chwe wythnos ar y tro.
Rydym yn darparu ein gwasanaethau ymgynghori'n uniongyrchol i lywodraethau cleient ac yn anuniongyrchol fel is-gontractwyr arbenigol ar brosiectau gweinyddu tir mawr.
Teithiau astudio
Yn flynyddol, rydym yn croesawu cannoedd o ymwelwyr i'n swyddfeydd yma yn y DU o awdurdodau gweinyddu tir a sefydliadau llywodraethol ac anllywodraethol eraill ledled y byd.
Cyfarfu ymwelwyr â ni yn ein Prif Swyddfa yn Llundain, yn ogystal ag yn ein swyddfeydd rhanbarthol ledled Cymru a Lloegr, i weld ein gweithrediadau ar waith.
Mae ein teithiau astudio, secondiadau ac ymweliadau addysgol yn rhoi cyfle i swyddogion o wledydd eraill gwrdd â'n harbenigwyr yn eu swyddfeydd ac i weld ein gweithrediadau ar waith. Caiff rhaglenni ar gyfer ymweliadau eu haddasu i ddiwallu amcanion penodol yr ymwelwyr. Ein nod yw rhannu ein profiad a dangos yr agweddau hynny ar ein gweithrediadau i ymwelwyr y mae angen iddynt wybod amdanynt.
Trefnir ymweliadau ar gyfer grwpiau o bob maint a gallent gymryd ychydig oriau neu bara hyd at wythnos, yn dibynnu ar yr angen.
Hyfforddiant
Mae'r Gofrestrfa Tir yn sefydliad hyfforddi arbenigol ac mae'n bleser ganddi ddarparu gwasanaethau hyfforddiant i lywodraethau tramor.
Rydym yn darparu hyfforddwyr a siaradwyr arbenigol i drefnwyr cyrsiau hyfforddi rhyngwladol a gyflwynir yn y DU neu dramor.
Mae ein hyfforddwyr yn cwmpasu ystod eang o bynciau sy'n gysylltiedig â gweinyddu tir, yn cynnwys polisi ac ymarfer cofrestru tir, yn ogystal â swyddogaethau mwy arbenigol mewn cyd-destun gweinyddu tir, megis llywodraethu, cyllid, adnoddau dynol a gwasanaeth cwsmeriaid.
Rydym yn darparu ystod lawn o wasanaethau addysg a hyfforddiant yn uniongyrchol hefyd i weithwyr proffesiynol cyfreithiol sydd angen dealltwriaeth fanwl o sut mae cofrestru tir yng Nghymru a Lloegr yn gweithio, a'r prosesau a ddefnyddir i'w diweddaru. Gwybodaeth ychwanegol am ein rhaglen addysg a hyfforddiant domestig.
Cydweithio
Mae’r Gofrestrfa Tir yn cydweithio â’i chymheiriaid gartref a thramor ac mae’n aelod gweithredol o’r sefydliadau a’r mentrau canlynol:
Y Gymdeithas Cofrestru Tir Ewropeaidd (ELRA) - www.elra.eu
Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Ewropeaidd (EULIS) - www.eulis.org
Pwyllgor Parhaol ar Stentiau yn yr Undeb Ewropeaidd (PCC) - www.eurocadastre.org
Comisiwn Economaidd Ewrop y Cenhedloedd Unedig - Gweithgor am Weinyddu Tir (UNECE-WPLA) - www.unece.org/hlm/wpla
Cydweithio yn y DU
Cyfrifoldeb nifer o sefydliadau yw gweinyddu tir yn y DU.
Awdurdodau cofrestru tir y DU
- Cymru a Lloegr – Cofrestrfa Tir EM (HMLR) - http://www.cofrestrfatir.gov.uk/
- Gogledd Iwerddon – Gwasanaeth Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon (LPSNI) - www.lpsni.gov.uk
- Yr Alban – Cofrestri’r Alban (RoS) - www.ros.gov.uk
Awdurdod mapio cenedlaethol y DU
- Yr Arolwg Ordnans (OS) - www.ordnancesurvey.co.uk/
Awdurdod prisio tir y DU
- Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) - www.voa.gov.uk
Manylion cysylltu
Julie Barry
Pennaeth yr Uned Ryngwladol
Llinell uniongyrchol: +44 (0) 300 006 7844
Ebost: julie.barry@landregistry.gsi.gov.uk
Sue Knowles
Cydlynydd yr Uned Ryngwladol
Llinell uniongyrchol: +44 (0) 300 006 7601
Ebost: sue.knowles@landregistry.gsi.gov.uk
Mynegai Prisiau Tai
Tachwedd 2012: 259.3(Ionawr 1995 = 100)
Pris cyfartalog £161,490 Newid:Blynyddol 0.9%
Cysylltu â ni
Bydd ein tîm Cefnogaeth i Gwsmeriaid yn ateb eich cwestiynau ac yn ymateb i'ch ymholiadau trwy ebost neu dros y ffôn.
Cysylltu...