Llywodraethu'r Gofrestrfa Tir
Cyfrifoldeb dau uwch fwrdd rheoli y Gofrestrfa Tir yw llywodraethu da, atebolrwydd cyhoeddus a rheolaeth strategol a beunyddiol.
Mae Bwrdd y Gofrestrfa Tir (BGT) yn gyfrifol am gyfeiriad strategol, llywodraethu da, a pherfformiad cyffredinol y Gofrestrfa Tir. Caiff ei gadeirio gan swyddog anweithredol annibynnol ac mae'n cynnwys dau gyfarwyddwr anweithredol sy'n cadeirio'r Pwyllgor Tâl a'r Pwyllgor Archwilio hefyd.
Mae'r Bwrdd Gweithredol (BG) yn sicrhau bod y cynllun busnes blynyddol yn cael ei gyflawni ac mae'n gyfrifol am reolaeth feunyddiol y Gofrestrfa Tir.
Bwrdd y Gofrestrfa Tir (BGT)
Diben Bwrdd y Gofrestrfa Tir yw gosod strategaeth gyffredinol y Gofrestrfa Tir a chynorthwyo'r Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr yn ei gyfrifoldeb a'i atebolrwydd terfynol mewn perthynas â llywodraethu a pherfformiad da'r Gofrestrfa Tir.
Aelodau
- Mark Boyle – Cadeirydd Anweithredol
- Malcolm Dawson OBE – Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr
- John Peaden – Cyfarwyddwr Gweithrediadau
- Heather Foster – Cyfarwyddwr Cyllid
- Catherine Raines – Cyfarwyddwr Anweithredol
- Kirsty Pearce – Cyfarwyddwr Anweithredol
Liz Conn – Ysgrifennydd
Cyfrifoldebau
Yn benodol, mae Bwrdd y Gofrestrfa Tir yn:
- gosod y strategaeth gyffredinol ac yn penderfynu ar ei blaenoriaethau
- cymeradwyo'r gyllideb a'r dangosyddion perfformiad allweddol ac amcanion eraill i'w rhoi gerbron yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Busnes, Menter a Sgiliau bob blwyddyn ac yn sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud i'w cyflawni
- adolygu perfformiad, rheolaeth risg a rheoli trwy gyfrwng adroddiadau lefel uchel o'r Bwrdd Gweithredol
- adolygu llywodraethu'r busnes gan gynnwys iechyd a diogelwch, yr iaith Gymraeg, amrywiaeth, peryglon busnes a materion archwiliad
- trafod materion a allai effeithio ar gyfeiriad strategol y busnes neu ei enw da.
Y Bwrdd Gweithredol (BG)
Diben y Bwrdd Gweithredol yw cymeradwyo cynllun busnes blynyddol y Gofrestrfa Tir a bod yn gyfrifol am reolaeth feunyddiol y Gofrestrfa Tir.
Aelodau
- Malcolm Dawson OBE (Cadeirydd) – Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr
- Alasdair Lewis – Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
- John Peaden – Cyfarwyddwr Gweithrediadau
- Heather Foster – Cyfarwyddwr Cyllid
- Annette Davies-Govett - Cyfarwyddwr y Strategaeth Fasnachol a Chwsmeriaid
- Rowland Coombs – Cyfarwyddwr Systemau Gwybodaeth
- David Evans – Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol
Victoria Henry – Ysgrifennydd
Cyfrifoldebau
Yn benodol, mae'r Bwrdd Gweithredol yn:
- cymeradwyo cynllun busnes blynyddol y Gofrestrfa Tir
- awgrymu dangosyddion perfformiad allweddol y Gofrestrfa Tir ac yn monitro eu hynt
- adolygu'r sefyllfa o ran gweithrediadau, cyllid, adnoddau dynol a systemau gwybodaeth a materion a gyfeirir atynt gan gadeiryddion is-fyrddau
- codi materion i Fwrdd y Gofrestrfa Tir i'w hadolygu a'u datrys sy'n effeithio'n gyffredinol ar strategaeth y Gofrestrfa Tir.
Mynegai Prisiau Tai
Tachwedd 2012: 259.3(Ionawr 1995 = 100)
Pris cyfartalog £161,490 Newid:Blynyddol 0.9%
Cysylltu â ni
Bydd ein tîm Cefnogaeth i Gwsmeriaid yn ateb eich cwestiynau ac yn ymateb i'ch ymholiadau trwy ebost neu dros y ffôn.
Cysylltu...