top logo

Y Gofrestrfa Tir – dathlu 150 o flynyddoedd: 1862-2012150_website_Welsh_long

15 o ffeithiau diddorol amdanom ni

Lincoln's Inn Fields1. Agorodd y Gofrestrfa Tir ei drysau i'r cyhoedd gyntaf ar 15 Hydref 1862. Lleolwyd yr adran yn 34 Lincoln's Inn Fields yn Holborn, Llundain gyda dim ond chwe aelod o staff - y Prif Gofrestrydd Tir cyntaf, Brent Spencer Follett, ei ddirprwy, dau glerc, gwraig cadw tŷ a phorthor.

 

 

 

 

Crane Hall and the Chantry2. Roedd y dystysgrif tir gyntaf oll, Rhif Teitl 1, yn gofrestriad gwirfoddol yn 1863 i Syr Fitzroy Kelly AS ar gyfer ei eiddo Crane Hall a'r Chantry (bellach yn gartref Sue Ryder) ger Ipswich, Suffolk. Mae'n debyg i Syr Fitzroy fod yn ysbrydoliaeth ar gyfer dau o gymeriadau Dickens - 'Sir Horatio Fitzkin' yn The Pickwick Papers a ‘Bar’ yn Little Dorrit. 

 

 

BBC_Broadcasting-House23. Mae Broadcasting House y BBC yn Llundain yn sefyll ar safle'r Devonshire Arms, yr eiddo cyntaf i'w gofrestru'n orfodol yn 1899.

 

 

 

 

Lincoln's Inn Fields 20114. Lleoliad pencadlys y Gofrestrfa Tir oedd Lincoln's Inn Fields, Llundain, hyd 2011. Ar ôl difrod bom, symudwyd y staff i Westy'r Marsham Court yn Bournemouth rhwng 1940 ac 1942. Mae ein pencadlys bellach yn Croydon.


 

 

Blickling Hall5. Mae adeilad Lincoln’s Inn wedi'i seilio ar Blickling Hall, Norfolk.

 

 

 

 

 

Register of title6. Cofrestrwyd y filiwn teitl cyntaf (tystiolaeth o berchnogaeth tir neu eiddo) erbyn 1950, bron i ganrif ar ôl creu'r Gofrestrfa Tir. Cyrhaeddwyd y ffigur o bum miliwn yn 1975 a 10 miliwn erbyn 1990. Cyrhaeddodd nifer y teitlau a gofrestrwyd gan y Gofrestrfa Tir yng Nghymru a Lloegr 23 miliwn ar ddechrau mis Hydref 2011.


 


 

Find a Property service 7. Dechreuodd y gwaith o gyfrifiaduro cofnodion y Gofrestrfa Tir yn yr 1980au. Erbyn hyn, gellir cael gafael ar bob eiddo cofrestredig ar-lein trwy wasanaeth Find a Property y Gofrestrfa Tir.

 

 

 
 

Land Registry Staff8. Mae'r cyflogai sydd wedi gwasanaethu hiraf ar hyn o bryd wedi cwblhau 49 o flynyddoedd ac mae'n gweithio rhan-amser erbyn hyn. Hyd gwasanaeth cyfartalog yn y Gofrestrfa Tir yw 21 o flynyddoedd, ond mae dros 50 y cant o staff wedi gweithio yma am 23 o flynyddoedd neu ragor.

 

 

 

International unit9. Mae ein Huned Ryngwladol yn darparu arbenigedd cofrestru tir i wledydd ledled y byd. Er enghraifft, yn 2011 darparwyd cymorth i Lywodraeth Bermuda trwy ddrafftio'r Mesur Cofrestru Teitl Tir i'r Llywodraeth.

 

 


 

Buying and selling a house10. Mae cofrestriad wedi cyfrannu at ostwng costau cyfreithiol ar gyfer prynu a gwerthu tŷ. Yn yr 1860au, roedd y costau cyfreithiol ar gyfer prynu tŷ nodweddiadol gyfwerth â 2 i 3 y cant o'r pris gwerthu. Erbyn hyn, mae'r cyfuniad o gostau cyfreithwyr a'r ffi cofrestru tir ar gyfer prynu eiddo o bris cyfartalog gwerth £160,000 gyfwerth â dim ond 0.5 y cant.

 


 

Average price11. Yn 1862 cost eiddo nodweddiadol ym meddiant aelod o'r dosbarth gweithiol medrus neu waelod y dosbarth canol oedd £150-£250. Yn 1962 pris tŷ cyfartalog yn y DU oedd £2,673 – sef tua thair gwaith y cyflog cyfartalog ar y pryd. Mae hyn o gymharu â phris cyfartalog o £159,712 yn 2011 – dros chwe gwaith y cyflog cyfartalog o £26,000.

 


 
 

Lincoln's Inn Fields 194512. Yn 1918 10 i 15 y cant oedd lefel perchnogaeth cartrefi yn y DU. Cyrhaeddodd hyn frig o 71 y cant yn 2003 ac mae bellach yn 66 y cant. Mae hyn o gymharu ag 82 y cant yn Sbaen, 59 y cant yn Ffrainc, 46 y cant yn yr Almaen a 67 y cant yn yr UDA.

 

 

 
 

Home ownership level13. Ychydig dros 79 y cant o dir sy'n gofrestredig yng Nghymru a Lloegr. Mae cofrestru yn rhoi gwell sicrwydd a diogelwch am yr hyn sy'n eiddo i chi. Darllenwch ragor am gofrestru tir a/neu eiddo.

 


 
 

Property transactions14. Mae'r Gofrestrfa Tir yn ariannu ei hun, gan ennill ei hincwm trwy ffïoedd ar gyfer trafodion eiddo megis cofrestru eiddo a chofrestru newid perchnogaeth pan gaiff tŷ ei werthu.

 
 


 

Property fraud protection15. Mae gan y Gofrestrfa Tir Grŵp Gwrth Dwyll sydd â'r nod o warchod y gofrestr rhag twyll. Rhwng mis Medi 2009 a mis Rhagfyr 2011 ataliodd y Gofrestrfa Tir dwyll eiddo gwerth dros £50 miliwn. Darllenwch ragor am sut i warchod eich hun rhag twyll eiddo.

 

© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix