(PR06/12) 1 Mai 2012
Data Tueddiadau'r Farchnad Mis Mawrth gan y Gofrestrfa Tir
- Prisiau Tai mis Mawrth wedi gostwng 0.6 y cant oddi ar fis Chwefror: prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £160,372
- De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol ym mis Mawrth gyda 271,010 o geisiadau
- Cyflwynwyd dros 55,000 o brisiau gwerthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i'w cofrestru ym mis Mawrth
Mae data mis Mawrth o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos gostyngiad prisiau blynyddol o 0.6 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £160,372. Mae'r newid misol o fis Chwefror i fis Mawrth yn ostyngiad o 0.6 y cant.
- Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 0.7 y cant.
- Yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr gwelwyd y cynnydd misol mwyaf gyda symudiad o 5.6 y cant.
- Gwelodd Cymru y gostyngiad prisiau blynyddol mwyaf gyda gostyngiad o 5.5 y cant a'r gostyngiad prisiau misol mwyaf sylweddol gyda gostyngiad o 4.1 y cant.
- Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Ionawr 2012 gynyddu 13 y cant i 42,511 o gymharu â 37,584 ym mis Ionawr 2011.
- Mae nifer yr eiddo yng Nghymru a Lloegr a werthwyd am fwy nag £1 miliwn ym mis Ionawr 2012 wedi gostwng 6 y cant i 467 o 497 ym mis Ionawr 2011.
Mynediad i'r set lawn o ddata www.cofrestrfatir.gov.uk/public/house-prices-and-sales
Rhanbarth | Newid misol (oddi ar fis Chwefror 2012) | Newid blynyddol (oddi ar fis Mawrth 2011) | Pris cyfartalog (Mawrth 2012) |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | 5.6% | -2.8% | £101,676 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 1.2% | 0.2% | £123,879 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 0.3% | 0.3% | £130,212 |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | 0.1% | -2.2% | £118,204 |
Dwyrain Lloegr | -0.1% | 0.5% | £173,227 |
Gogledd Orllewin Lloegr | -0.4% | -2.3% | £111,264 |
Cymru a Lloegr | 0.6% | -0.6% | £160,372 |
De Ddwyrain Lloegr | -0.7% | 0.3% | £206,918 |
De Orllewin Lloegr | -1.0% | -0.7% | £170,261 |
Llundain | -1.8% | 0.7% | £343,522 |
Cymru | -4.1% | -5.5% | £113,036 |
Prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) | Mawrth 2012 | Mawrth 2011 | Gwahaniaeth |
Tŷ sengl | £251,112 | £256,655 | -2.2% |
Tŷ pâr | £153,080 | £152,503 | 0.4% |
Tŷ teras | £122,075 | £122,619 | -0.4% |
Fflat/Fflat deulawr | £149,229 | £150,177 | -0.6% |
Holl | £160,372 | £161,290 | -0.6% |
Mis | Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr) | Gwerthiannau 2010 (Cymru a Lloegr) | Gwahaniaeth |
Ionawr | 37,584 | 35,872 | 5% |
Chwefror | 39,669 | 42,570 | -7% |
Mawrth | 46,721 | 51,454 | -9% |
Ebrill | 50,689 | 52,317 | -3% |
Mai | 48,920 | 52,224 | -6% |
Mehefin | 57,612 | 62,768 | -8% |
Gorffennaf | 62,202 | 67,514 | -8% |
Awst | 64,257 | 61,504 | 4% |
Medi | 63,331 | 57,496 | 10% |
Hydref | 57,674 | 58,654 | -2% |
Tachwedd | 59,872 | 56,331 | 6% |
Rhagfyr | 62,586 | 56,883 | 10% |
Cyfanswm | 651,117 | 655,587 | -1% |
Mis | Gwerthiannau 2012 (Cymru a Lloegr) | Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr) | Gwahaniaeth |
Ionawr | 42,511 | 37,584 | 13% |
Mae'r Data Trafodiad yn dangos i'r Gofrestrfa Tir dderbyn dros 1 miliwn o geisiadau gan ei holl gwsmeriaid (gyda a heb gyfrif) ym mis Mawrth. Mae hyn yn cynnwys 1,094,685 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda 246,609 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau), 507,354 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl, 167,602 yn chwiliadau a 51,015 yn drafodion am werth.
Mynediad i'r set lawn o ddata www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/transaction-data
Tri phrif gwsmer | Trafodion am werth |
My Home Move Limited | 1003 |
Addleshaw Goddard | 803 |
Countrywide Property Lawyers | 722 |
Tri phrif gwsmer | Chwiliadau |
Enact | 5,106 |
Optima Legal Services | 4,716 |
TM Group (UK) Ltd (Search Choice) | 4,066 |
Tair prif awdurdod lleol | Ceisiadau |
Birmingham | 18,032 |
Dinas Westminster | 17,482 |
Cernyw | 13,650 |
Rhanbarth | Ceisiadau |
De Ddwyrain Lloegr | 271,010 |
Llundain Fwyaf | 207,733 |
Gogledd Orllewin Lloegr | 128,902 |
De Orllewin Lloegr | 123,419 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 97,643 |
Swydd Gaerefrog a'r Humber | 95,215 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 81,533 |
Cymru | 57,362 |
Gogledd Lloegr | 55,352 |
Dwyrain Anglia | 46,814 |
Ynysoedd Sili | 37 |
Cymru a Lloegr (heb eu haseinio) | 36 |
Cymru a Lloegr | 1,165,056 |
Mae'r Data pris a dalwyd yn cynnwys manylion dros 55,000 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i'w cofrestru ym mis Mawrth 2012. Er i'r cofrestriadau gael eu derbyn ym mis Mawrth, gellir dyddio'r dyddiad trosglwyddo ar gyfer rhai eiddo i 1995. Mae cofrestriadau mis Mawrth yn dangos fod yr eiddo rhataf a werthwyd yn y chwarter cyntaf ym Middlesbrough am £8,000 ac roedd yr eiddo drutaf a werthwyd yn Rickmansworth am £47.7 miliwn.
Mynediad i'r set lawn o ddata www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/transaction-data
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
- Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a setiau data Trafodiad a Data pris a dalwyd mis Ebrill am 11 y bore ar ddydd Mawrth 29 Mai 2012.
- Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis.
- Mae'r Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA), a ddatblygwyd gan yr Archif Genedlaethol, yn caniatáu’r defnydd ac ail-ddefnydd rhydd o wybodaeth y sector gyhoeddus. I gael rhagor o wybodaeth ewch i http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence
- Mae'r Grŵp Data Cyhoeddus yn dod â'r Gofrestrfa Tir, Tŷ’r Cwmnïau, y Swyddfa Dywydd a'r Arolwg Ordnans at ei gilydd i gydweithio i ddod o hyd i gyfleoedd a llywio effeithlonrwydd, yn ogystal â rhyddhau eu data i ddefnyddwyr ac ail-ddefnyddwyr am bris gostyngol neu am ddim.
- Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
- Fel y rhan gyntaf o'i hymrwymiad i flaenoriaethau'r Llywodraeth o ran twf economaidd a thryloywder data, mae gwybodaeth pris a dalwyd y Gofrestrfa Tir bellach ar gael yn fisol yn ogystal â'r Mynegai Prisiau Tai a'r data trafodiad.
- Mae'r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:
- y cyfeiriad llawn
- y pris a dalwyd
- dyddiad y trosglwyddiad
- y math o eiddo
- ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio
- ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo
- Gellir ei llwytho i lawr o wefan y Gofrestrfa Tir fel cipolwg misol o'n cronfa ddata pris a dalwyd yn www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/price-paid-data ac mae ar gael i bawb ei harchwilio neu ei hail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
- I gael Data Pris a Dalwyd hanesyddol, anfonwch ebost at addvalueservices@landregistry.gsi.gov.uk neu ffoniwch 0800 678 1678. Codir tâl am yr adroddiadau hyn.
- Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
- Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion mwy nag 16 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
- Mae'r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. I gael esboniad o'r termau a ddefnyddir, ewch i http://www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/faqs#m11
- Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
- Mae'r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i'r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o chwiliadau, ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/faqs#m11
- Mae eleni'n nodi 150 mlwyddiant y Gofrestrfa Tir. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
- I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk
Cysylltu
Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov
Marion Shelley 0300 0067543, 07790 690297
marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk