top logo

(PR05/12) 23/03/2012

Data Tueddiadau'r Farchnad mis Chwefror gan y Gofrestrfa Tir

Mae data trafodion a gwybodaeth pris a dalwyd misol manwl bellach ar gael yn ogystal â'r Mynegai Prisiau Tai a'r Data trafodiad

Prisiau tai mis Chwefror yn codi 0.1 y cant oddi ar fis Ionawr: prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £161,588

De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol ym mis Chwefror gyda 250,045 o geisiadau

Cyflwynwyd dros 56,000 o brisiau gwerthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i'w cofrestru ym mis Chwefror

Fel rhan o'i hymrwymiad i flaenoriaethau'r Llywodraeth o ran twf economaidd a thryloywder data, mae gwybodaeth pris a dalwyd manwl y Gofrestrfa Tir bellach ar gael yn fisol yn ogystal â'r Mynegai Prisiau Tai a'r data trafodiad.

Mae'r Data Pris a Dalwyd cyntaf am ddim a ryddhawyd gan y Gofrestrfa Tir, fel un o sylfaenwyr y Grŵp Data Cyhoeddus, yn cynnwys manylion dros 56,000 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i'w cofrestru ym mis Chwefror 2012. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:

  • y cyfeiriad llawn
  • y pris a dalwyd
  • dyddiad y trosglwyddiad
  • y math o eiddo
  • ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio
  • ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo.

Gellir ei llwytho i lawr o wefan y Gofrestrfa Tir fel cipolwg misol o'n cronfa ddata pris a dalwyd yn http://www.cofrestrfatir.gov.uk/market-trend-data/price-paid-data ac mae ar gael i unrhyw un ei archwilio neu ei ail-ddefnyddio am ddim o dan y Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA).

Mae data mis Chwefror o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos gostyngiad prisiau blynyddol o 0.6 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £161,588. Mae'r newid misol o fis Ionawr i fis Chwefror yn gynnydd o 0.1 y cant.

Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 4.2 y cant. Yng Nghymru y gwelwyd y cynnydd misol mwyaf gyda symudiad o 2.0 y cant. Gwelodd Gogledd Orllewin Lloegr y gostyngiad prisiau blynyddol mwyaf gyda gostyngiad o 3.5 y cant. Gogledd Ddwyrain Lloegr welodd y gostyngiad misol mwyaf arwyddocaol mewn prisiau gyda gostyngiad o 2.6 y cant.

Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Rhagfyr 2011 gynyddu 8 y cant i 61,470 o gymharu â 56,875 ym mis Rhagfyr 2010. Mae nifer yr eiddo yng Nghymru a Lloegr a werthwyd am fwy nag £1 miliwn ym mis Rhagfyr 2011 wedi gostwng 13 y cant i 488 o 559 ym mis Rhagfyr 2010.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i http://www.cofrestrfatir.gov.uk/house-prices

Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov

Rhanbarth

Newid misol (oddi ar fis Ionawr 2012))

Newid blynyddol

(oddi ar fis Chwefror 2011)

Pris cyfartalog

(Chwefror 2012))

Cymru

2.0%

-1.9%

£117,927

Llundain

1.4%

4.2%

£354,300

De Ddwyrain Lloegr

1.2%

1.1%

£209,065

Dwyrain Canolbarth Lloegr

1.2%

-1.6%

£124,208

Gorllewin Canolbarth Lloegr

0.6%

-0.9%

£130,323

De Orllewin Lloegr

0.1%

0.1%

£172,659

Cymru a Lloegr

0.1%

-0.6%

£161,588

Gogledd Orllewin Lloegr

-0.5%

-3.5%

£110,931

Dwyrain Lloegr

-0.7%

-1.8%

£171,852

Swydd Gaerefrog a’r Humber

-1.1%

-3.1%

£118,531

Gogledd Ddwyrain Lloegr

-2.6%

-2.5%

£99,385

Prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr)

Chwefror 2012

Chwefror 2011

Gwahaniaeth

Ty sengl

£253,678

£257,861

-1.6%

Ty pâr

£152,720

£153,935

-0.8%

Ty teras

£123,314

£123,927

-0.5%

Fflat/Fflat deulawr

£151,942

£150,961

0.6%

Holl

£161,588

£162,541

-0.6%

Mis

Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr)

Gwerthiannau 2010 (Cymru a Lloegr)

Gwahaniaeth

Ionawr

37,576

35,870

5%

Chwefror

39,666

42,565

-7%

Mawrth

46,709

51,449

-9%

Ebrill

50,674

52,314

-3%

Mai

48,896

52,213

-6%

Mehefin

57,571

62,758

-8%

Gorffennaf

62,146

67,511

-8%

Awst

64,160

61,502

4%

Medi

63,181

57,491

10%

Hydref

57,462

58,647

-2%

Tachwedd

59,456

56,322

6%

Rhagfyr

61,470

56,875

8%

Cyfanswm

648,967

655,517

-1%

Mae'r Data Trafodiad yn dangos i'r Gofrestrfa Tirdderbyn dros 1 miliwn o geisiadau gan ei holl gwsmeriaid (gyda a heb gyfrif) ym mis Chwefror. Mae hyn yn cynnwys 1,020,472 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda 224,939 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau), 490,981 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl, 139,486 yn chwiliadau a 51,101 yn drafodion am werth.

Tri phrif gwsmer

Trafodion am werth

My Home Move Limited

898

Countrywide Property Lawyers

741

O'Neill Patient

487

 

Tri phrif gwsmer

Chwiliadau

Enact

5,140

Optima Legal Services

4,955

TM Group (UK) Ltd (Search Choice)

4,381

 

Tair prif awdurdod lleol

Ceisiadau

Birmingham

17,156

City of Westminster

16,623

Leeds

12,675

 

Rhanbarth

Ceisiadau

De Ddwyrain Lloegr

250,045

Llundain Fwyaf

194,031

Gogledd Orllewin Lloegr

119,401

De Orllewin Lloegr

111,142

Gorllewin Canolbarth Lloegr

94,477

Swydd Gaerefrog a'r Humber

90,014

Dwyrain Canolbarth Lloegr

79,029

Cymru

55,303

Gogledd Lloegr

52,084

Dwyrain Anglia

44,453

Ynysoedd Sili

47

Cymru a Lloegr (heb eu haseinio)

34

Cymru a Lloegr

1,090,060

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  1. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a setiau data Trafodiad a Phris a Dalwyd mis Mawrth am 11 y bore ar ddydd Mawrth 1 Mai 2012.
  2. Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis.
  3. Mae'r Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA), a ddatblygwyd gan yr Archif Genedlaethol, yn caniatáu’r defnydd ac ail-ddefnydd o wybodaeth y sector gyhoeddus am ddim. I gael rhagor o wybodaeth ewch i http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence
  4. Mae'r Grŵp Data Cyhoeddus yn dod â'r Gofrestrfa Tir, Tŷ’r Cwmnïau, y Swyddfa Dywydd a'r Arolwg Ordnans at ei gilydd i gydweithio i ddod o hyd i gyfleoedd a llywio effeithlonrwydd, yn ogystal â rhyddhau eu data i ddefnyddwyr ac ail-ddefnyddwyr am bris gostyngol neu am ddim.
  5. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
  6. Mae'r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru yn ystod y mis hwnnw.
  7. I gael Data pris a dalwyd hanesyddol, anfonwch ebost at addvalueservices@landregistry.gsi.gov.uk neu ffoniwch 0800 678 1678. Codir tâl am yr adroddiadau hyn.
  8. Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
  9. Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion mwy nag 16 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
  10. Mae'r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. I gael esboniad o'r byrfoddau a thermau a ddefnyddir, ewch i http://www.cofrestrfatir.gov.uk/market-trend-data/public-data/faqs#m11
  11. Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
  12. Mae'r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i'r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o chwiliadau, ewch i http://www.cofrestrfatir.gov.uk/market-trend-data/public-data/faqs#m11
  13. Mae eleni'n nodi 150 mlwyddiant y Gofrestrfa Tir. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
  14. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk

Cysylltu

Marion Shelley 0300 0067543, 07790 690297
marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk

© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix