PR18/11
28/11/2011
PRISIAU MIS HYDREF WEDI GOSTWNG 0.9 Y CANT ODDI AR FIS MEDI: prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £159,999
Mae data mis Hydref o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos gostyngiad prisiau blynyddol o 3.2 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £159,999. Mae'r newid misol rhwng mis Medi a mis Hydref wedi gostwng 0.9 y cant ac mae'n parhau'r newid prisiau misol negyddol a welwyd ym mis Medi.
Yr unig ranbarth yng Nghymru a Lloegr i weld cynnydd mewn gwerth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 0.3 y cant. Yn Nwyrain Lloegr gwelwyd y cynnydd misol mwyaf gyda symudiad o 0.7 y cant. Gwelodd Gogledd Ddwyrain Lloegr y gostyngiad prisiau blynyddol mwyaf gyda gostyngiad o 7.2 y cant. Cymru welodd y gostyngiad misol mwyaf arwyddocaol mewn prisiau gyda gostyngiad o 3.0 y cant.
Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Awst 2011 gynyddu 1 y cant i 62,010 o 61,469 ym mis Awst 2010. Mae nifer yr eiddo yng Nghymru a Lloegr a werthwyd am fwy nag £1 miliwn ym mis Awst 2011 wedi gostwng 7 y cant i 714 o 764 ym mis Awst 2010.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk/house-prices
Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov
Rhanbarth |
Newid misol (oddi ar fis Medi 2011) |
Newid blynyddol (oddi ar fis Hydref 2010) |
Pris cyfartalog (Hydref 2011) |
Dwyrain Lloegr |
0.7% |
-2.4% |
£173,410 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr |
0.4% |
-3.1% |
£123,811 |
Swydd Gaerefrog a’r Humber |
0.4% |
-3.6% |
£120,526 |
De Ddwyrain Lloegr |
0.2% |
-1.4% |
£206,818 |
De Orllewin Lloegr |
-0.4% |
-2.9% |
£171,384 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr |
-0.7% |
-4.1% |
£129,500 |
Cymru a Lloegr |
-0.9% |
-3.2% |
£159,999 |
Llundain |
-1.6% |
0.3% |
£340,308 |
Gogledd Ddwyrain Lloegr |
-1.8% |
-7.2% |
£100,674 |
Gogledd Orllewin Lloegr |
-2.9% |
-7.0% |
£110,425 |
Cymru |
-3.0% |
-6.1% |
£115,923 |
Prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) |
Hydref 2011 |
Hydref 2010 |
Gwahaniaeth |
Tŷ sengl |
£255,315 |
£260,476 |
-2.0% |
Tŷ pâr |
£152,543 |
£156,178 |
-2.3% |
Tŷ teras |
£119,848 |
£126,376 |
-5.2% |
Fflat/Fflat deulawr |
£148,810 |
£153,651 |
-3.2% |
Holl |
£159,999 |
£165,246 |
-3.2% |
Mis |
Gwerthiannau 2010 (Cymru a Lloegr) |
Gwerthiannau 2009 (Cymru a Lloegr) |
Gwahaniaeth |
Ionawr |
35,853 |
26,292 |
36% |
Chwefror |
42,546 |
27,303 |
56% |
Mawrth |
51,433 |
35,559 |
45% |
Ebrill |
52,298 |
39,367 |
33% |
Mai |
52,194 |
45,889 |
14% |
Mehefin |
62,731 |
54,813 |
14% |
Gorffennaf |
67,485 |
63,702 |
6% |
Awst |
61,469 |
58,375 |
5% |
Medi |
57,459 |
58,553 |
-2% |
Hydref |
58,607 |
65,845 |
-11% |
Tachwedd |
56,278 |
61,165 |
-8% |
Rhagfyr |
56,808 |
78,563 |
-28% |
Cyfanswm |
655,161 |
615,426 |
6% |
Mis |
Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr) |
Gwerthiannau 2010 (Cymru a Lloegr) |
Gwahaniaeth |
Ionawr |
37,517 |
35,853 |
5% |
Chwefror |
39,587 |
42,546 |
-7% |
Mawrth |
46,555 |
51,433 |
-9% |
Ebrill |
50,482 |
52,298 |
-3% |
Mai |
48,630 |
52,194 |
-7% |
Mehefin |
56,948 |
62,731 |
-9% |
Gorffennaf |
61,121 |
67,485 |
-9% |
Awst |
62,010 |
61,469 |
1% |
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
1. Oddi ar 2006, mae Mynegai Prisiau Tai'r Gofrestrfa Tir, sydd ar gael am ddim yn www.cofrestrfatir.gov.uk/houseprices wedi cynyddu momentwm i ddod yn ddangosydd blaenllaw o symudiadau eiddo yng Nghymru a Lloegr. Caiff ei ystyried yn eang fel "y baromedr mwyaf cywir o'r farchnad dai ".
2. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y Gofrestrfa Tir ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir mynegai llawn mis Tachwedd am 11 y bore ar ddydd Gwener 30 Rhagfyr 2011.
3. Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
4. Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion mwy na 16 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae tua chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
5. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
6. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
7. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk
Cysylltu
Marion Shelley 0300 0067543, 07790 690297