Datganiad Tasg Gyhoeddus
Mae'r datganiad hwn yn nodi'r swyddogaethau a gyflawnir gan Gofrestrfa Tir EM sydd o fewn ei thasg gyhoeddus o dan y Rheoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus 2005.
Mae'r Gofrestrfa Tir yn adran anweinidogol y llywodraeth ac mae ein swyddogaethau'n gwbl statudol. Nodir y pwerau a'r cyfrifoldebau perthnasol yn Neddf Cofrestru Tir 2002. Yn ogystal, ceir cyfrifoldebau statudol o dan Ddeddf Credydau Amaethyddol 1928 a'r Ddeddf Pridiannau Tir 1972. Ein prif bwrpas yw cofrestru perchnogaeth tir yng Nghymru a Lloegr a chofnodi deliadau â thir ar ôl iddo gael ei gofrestru.
Mae hyn yn golygu bod y wybodaeth rydym yn ei chadw'n cynnwys cofrestri, mynegeion a dogfennau sy'n ymwneud ag eiddo a'i berchnogaeth. Mae ein deddfwriaeth yn ei wneud yn ofynnol i ni sicrhau bod y wybodaeth hon ar gael i'r cyhoedd ac mae'n pennu codi ffïoedd penodol i'w rhyddhau ar ffurfiau penodedig. Ceir cyfyngiadau ychwanegol ar gyfer rhyddhau ac ailddefnyddio gan ddefnyddio diogelu data a hawlfraint. Yn gyntaf, o dan Ddeddf Diogelu Data 1998, gan fod llawer o'r wybodaeth yn ymwneud ag enw a chyfeiriad a data personol arall. Yn ail, gan nad yw llawer o'r wybodaeth a ddelir ac sydd ar gael i'w rhyddhau yn hawlfraint y Goron. Mewn llawer o achosion cafodd ei pharatoi gan eraill, megis perchnogion eiddo a'u cynghorwyr proffesiynol.
Mae Cynllun Cyhoeddiadau'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion y wybodaeth sydd ar gael i'w hailddefnyddio am ddim o dan y Drwydded Llywodraeth Agored. Caiff ceisiadau am wybodaeth sydd y tu allan i'n tasg gyhoeddus eu hystyried yn unol â'n telerau ac amodau cyhoeddedig/tîm gwasanaethau masnachol commercial.services@landregistry.gsi.gov.uk.
Caiff y datganiad hwn ei adolygu'n rheolaidd a disgwylir yr adolygiad nesaf ym mis Rhagfyr 2012. Os oes gennych unrhyw ymholiadau'n ymwneud â'r datganiad tasg gyhoeddus hwn, cysylltwch â ni trwy DRO@landregistry.gsi.gov.uk. Os oes gennych gŵyn amdanom o dan y Rheoliadau Ailddefnyddio, gallwch ei chyflwyno gan ddefnyddio ein proses trin cwynionMynegai Prisiau Tai
Tachwedd 2012: 259.3(Ionawr 1995 = 100)
Pris cyfartalog £161,490 Newid:Blynyddol 0.9%
Cysylltu â ni
Bydd ein tîm Cefnogaeth i Gwsmeriaid yn ateb eich cwestiynau ac yn ymateb i'ch ymholiadau trwy ebost neu dros y ffôn.
Cysylltu...