Data Tueddiadau'r Farchnad Mis Gorffennaf gan y Gofrestrfa Tir
- Prisiau tai mis Gorffennaf yn codi 0.8 y cant oddi ar fis Mehefin: prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £162,900
- De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol ym mis Gorffennaf gyda 263,214 o geisiadau
- Cyflwynwyd dros 62,000 o eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i'w cofrestru ym mis Gorffennaf
Mae data mis Gorffennaf o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos cynnydd prisiau blynyddol o 0.3 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £162,900. Mae'r newid misol o fis Mehefin i fis Gorffennaf yn gynnydd o 0.8 y cant.
- Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 6.5 y cant.
- Llundain welodd y cynnydd misol mwyaf hefyd gyda chynnydd o 2.7 y cant.
- Gwelodd Gogledd Orllewin Lloegr y gostyngiad prisiau blynyddol mwyaf gyda gostyngiad o 3.9 y cant.
- Gwelodd Gogledd Ddwyrain Lloegr y gostyngiad prisiau misol mwyaf arwyddocaol gyda gostyngiad o 2.1 y cant.
- Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Mai 2012 gynyddu 2 y cant i 50,083 o gymharu â 48,974 ym mis Mai 2011.
- Mae nifer yr eiddo yng Nghymru a Lloegr a werthwyd am fwy nag £1 miliwn ym mis Mai 2012 wedi cynyddu 107 y cant i 562 o 271 ym mis Mai 2011.
Mynegai Prisiau Tai
Rhanbarth | Newid misol (oddi ar fis Mehefin 2012) | Newid blynyddol (oddi ar fis Gorffennaf 2011) | Pris cyfartalog (Gorffennaf 2012) |
---|---|---|---|
Llundain | 2.7% | 6.5% | £367,785 |
Cymru | 2.3% | -1.3% | £118,896 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 1.2% | 0.4% | £124,080 |
Cymru a Lloegr | 0.8% | 0.3% | £162,900 |
Dwyrain Lloegr | 0.4% | 0.8% | £175,051 |
De Ddwyrain Lloegr | 0.4% | 0.7% | £209,532 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 0.3% | -0.8% | £130,124 |
Swydd Gaerefrog a'r Humber | -0.1% | -2.5% | £117,865 |
De Orllewin Lloegr | -0.6% | -1.9% | £171,326 |
Gogledd Orllewin Lloegr | -1.7% | -3.9% | £109,235 |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | -2.1% | -3.8% | £98,557 |
Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) | Gorffennaf 2012 | Gorffennaf 2011 | Gwahaniaeth |
Tŷ sengl | £256,496 | £256,405 | - |
Tŷ pâr | £153,339 | £153,156 | 0.1% |
Tŷ teras | £123,097 | £123,548 | -0.4% |
Fflat/fflat deulawr | £155,314 | £151,981 | 2.2% |
Holl | £162,900 | £162,345 | 0.3% |
Mis | Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr) | Gwerthiannau 2010 (Cymru a Lloegr) | Gwahaniaeth |
Ionawr | 37,613 | 35,886 | 5% |
Chwefror | 39,680 | 42,579 | -7% |
Mawrth | 46,745 | 51,472 | -9% |
Ebrill | 50,725 | 52,344 | -3% |
Mai | 48,974 | 52,237 | -6% |
Mehefin | 57,691 | 62,785 | -8% |
Gorffennaf | 62,280 | 67,546 | -8% |
Awst | 64,374 | 61,526 | 5% |
Medi | 63,500 | 57,522 | 10% |
Hydref | 57,895 | 58,680 | -1% |
Tachwedd | 60,267 | 56,362 | 7% |
Rhagfyr | 63,403 | 56,917 | 11% |
Cyfanswm | 653,147 | 655,856 | 0% |
Mis | Gwerthiannau 2012 (England and Wales) | Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr) | Gwahaniaeth |
Ionawr | 43,537 | 37,613 | 16% |
Chwefror | 44,554 | 39,680 | 12% |
Mawrth | 60,476 | 46,745 | 29% |
Ebrill | 42,260 | 50,725 | -17% |
Mai | 50,083 | 48,974 | 2% |
Data Trafodiad
Mae'r Data Trafodiad yn dangos i'r Gofrestrfa Tir dderbyn bron 1,132,000 o geisiadau gan ei holl gwsmeriaid (gyda a heb gyfrif) ym mis Gorffennaf. Mae hyn yn cynnwys 1,080,732 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda 268,169 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau); 474,471 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl; 161,692 yn chwiliadau a 62,888 yn drafodion am werth.
Tri phrif gwsmer
Trafodion am werth | |
Countrywide Property Lawyers | 1,486 |
My Home Move Limited | 1,309 |
O'Neill Patient | 717 |
Tri phrif gwsmer | Chwiliadau |
Enact | 5,533 |
Optima Legal Services | 5,145 |
T M Group UK Ltd (Search Choice) | 3,933 |
Tair prif ardal awdurdod lleol | Ceisiadau |
Birmingham | 17,413 |
Dinas Westminster | 16,693 |
Leeds | 13,400 |
Rhanbarth | Ceisiadau |
---|---|
De Ddwyain Lloegr | 263,214 |
Llundain Fwyaf | 204,658 |
Gogledd Orllewin Lloegr | 123,617 |
De Orllewin Lloegr | 114,560 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 95,288 |
Swydd Gaerefrog a'r Humber | 92,461 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 80,928 |
Cymru | 56,442 |
Gogledd Lloegr | 54,114 |
Dwyrain Anglia | 46,539 |
Cymru a Lloegr (heb eu haseinio) | 48 |
Ynysoedd Sili | 38 |
Cyfanswm | 1,131,907 |
Mae'r Data pris a dalwyd yn cynnwys manylion dros 62,000 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i'w cofrestru ym mis Gorffennaf 2012.
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
- Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a setiau data Trafodiad a Data pris a dalwyd mis Awst am 11 y bore ar ddydd Gwener 28 Medi 2012.
- Mae'r Grŵp Data Cyhoeddus yn dod â'r Gofrestrfa Tir, Tŷ’r Cwmnïau, y Swyddfa Dywydd a'r Arolwg Ordnans at ei gilydd i gydweithio i ddod o hyd i gyfleoedd a llywio effeithlonrwydd, yn ogystal â rhyddhau eu data i ddefnyddwyr ac ail-ddefnyddwyr am bris gostyngol neu am ddim.
- Mae'r Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA), a ddatblygwyd gan yr Archif Genedlaethol, yn caniatáu’r defnydd ac ail-ddefnydd rhydd o wybodaeth y sector gyhoeddus. I gael rhagor o wybodaeth ewch i http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence
- Mae eleni'n nodi 150 mlwyddiant y Gofrestrfa Tir. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
- Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
- Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
- Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion am 16 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
- Mae'r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. I gael esboniad o'r termau a ddefnyddir, ewch i http://www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/faqs#m11
- Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
- Mae'r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i'r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o chwiliadau, ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/faqs#m11
- Mae'r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:
- y cyfeiriad llawn
- y pris a dalwyd
- dyddiad y trosglwyddiad
- y math o eiddo
- ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio
- ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo
- Gellir ei llwytho i lawr o wefan y Gofrestrfa Tir fel cipolwg misol o'n cronfa ddata pris a dalwyd yn http://www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/price-paid-data ac mae ar gael i bawb ei harchwilio neu ei hail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
- I gael Data Pris a Dalwyd hanesyddol, anfonwch ebost at addvalueservices@landregistry.gsi.gov.uk neu ffoniwch 0800 678 1678. Codir tâl am yr adroddiadau hyn.
- I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov Dewch o hyd i ni ar LinkedIn
Cysylltu
Ronal Patel 0300 0067490
Ronal.patel@landregis