LR03/11 11/04/2011
Newidiadau yn y Gofrestrfa Tir
Mae Marco Pierleoni, Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr, yn gadael y Gofrestrfa Tir i ddilyn cyfleoedd y tu allan i'r Gwasanaeth Sifil. Bydd Malcolm Dawson, y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol ac Ystadau presennol, yn cymryd rôl y Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr o ddydd Mawrth 22 Mawrth dros dro.
Dywedodd Marco:
"Er i mi lywio'r sefydliad trwy gyfnod anodd o gau swyddfeydd yn ystod fy neiliadaeth fer, byddaf yn gadael gydag atgofion da iawn o sefydliad proffesiynol iawn, llawn ymroddiad sy'n aros wrth wraidd y byd eiddo.
"Er bod ansicrwydd ynghylch y dyfodol o hyd, bydd y weledigaeth a'r gwerthoedd newydd sy'n cael eu cyflwyno yn gwasanaethu'r Gofrestrfa Tir yn dda o dan unrhyw amgylchiadau."
Dywedodd Malcolm:
"Rwy'n falch iawn o gael fy mhenodi'n Brif Weithredwr a Phrif Gofrestrydd Tir. Mae'n rôl bwysig gyda llawer iawn o hanes yn gysylltiedig â hi ac rwy'n ei chymryd gyda balchder gan gydnabod yr her sydd o'm blaen.
"Rydym yn aros am ganlyniad Astudiaeth Ddichonoldeb y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy'n edrych ar gyfeiriad y Gofrestrfa Tir yn y dyfodol. Yn y cyfamser byddaf yn canolbwyntio ar gyfathrebu ein gweledigaeth, gwerthoedd a'n strategaeth cwsmeriaid ac ar gyflwyno ein hamcanion strategol a'n dangosyddion perfformiad allweddol newydd.
"Rwy'n hyderus y bydd ein gweledigaeth, sy'n rhoi'r cwsmer, safon ac arloesiad wrth wraidd gwasanaethau cofrestru tir, yn rhoi ymdeimlad clir o gyfeiriad ar gyfer y dyfodol inni."
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
1. Penodwyd Marco Pierleoni yn Brif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr y Gofrestrfa Tir ar 1 Chwefror 2010.
2. Penodwyd Malcolm Dawson OBE yn Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol i'r Gofrestrfa Tir ar 7 Ionawr 2008, ac am y ddwy flynedd diwethaf mae wedi bod yn arwain rhaglen drawsnewid y Gofrestrfa Tir.
3. Cyhoeddodd y Gofrestrfa Tir y Rhaglen Trawsnewid Cyflymedig i bennu maint, ffurf ac arferion gwaith y sefydliad yn y dyfodol ar 22 Hydref 2009.
4. Ar hyn o bryd mae'r Gofrestrfa Tir yn destun Astudiaeth Ddichonoldeb, o dan arweiniad y Weinyddiaeth Gyfiawnder fel rhan o adolygiad Swyddfa'r Cabinet o Gyrff 'Hyd Braich'. Mae'r astudiaeth yn archwilio'r posibiliadau a gynigir gan fuddsoddiad y sector preifat ac mae'n edrych ar yr ystod o opsiynau gan gynnwys preifateiddio rhannol neu lawn.
5. Gyda'r gronfa ddata o drafodion fwyaf o'r fath gyda manylion dros 22 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
6. Fel adran o'r llywodraeth a sefydlwyd yn 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy'n atebol i'r Arglwydd Ganghellor a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, mae'r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae'r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
7. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk
Cysylltu
Marion Shelley 020 7166 4543
marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk