PR17/11
28/10/2011
Prisiau mis Medi wedi gostwng 0.3 y cant oddi ar fis Awst: prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £162,109
Mae data mis Medi o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos gostyngiad prisiau blynyddol o 2.6 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £162,109. Mae'r newid misol o fis Awst i fis Medi yn ostyngiad o 0.3 y cant ac mae'n parhau â'r newid prisiau misol negyddol a welwyd ym mis Awst o -0.1 y cant.
Yr unig ranbarth yng Nghymru a Lloegr i weld cynnydd yng ngwerth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf oedd Llundain gyda symudiad o 2.7 y cant. Gogledd Orllewin Lloegr welodd y cynnydd misol mwyaf gyda symudiad o 1.0 y cant. Gogledd Ddwyrain Lloegr welodd y gostyngiad prisiau blynyddol mwyaf gyda gostyngiad o 8.2 y cant a'r gostyngiad prisiau misol mwyaf arwyddocaol gyda symudiad o -3.9 y cant.
Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Gorffennaf 2011 ostwng 11 y cant i 59,919 o 67,475 ym mis Gorffennaf 2010. Bu gostyngiad o 24 y cant yn nifer yr eiddo a werthwyd am fwy nag £1 miliwn yng Nghymru a Lloegr rhwng mis Gorffennaf 2010 a mis Gorffennaf 2011, sef o 932 i 707
I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk/houseprices
Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov
Rhanbarth |
Newid misol (oddi ar fis Awst 2011) |
Newid blynyddol (oddi ar fis Medi 2010) |
Pris cyfartalog (Medi 2011) |
---|---|---|---|
Gogledd Orllewin Lloegr |
1.0% |
-2.7% |
£115,057 |
De Orllewin Lloegr |
0.5% |
-2.4% |
£173,331 |
Swydd Gaerefrog a’r Humber |
0.4% |
-4.9% |
£121,680 |
Llundain |
0.3% |
2.7% |
£349,026 |
De Ddwyrain Lloegr |
0.0% |
-2.1% |
£207,244 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr |
-0.2% |
-4.1% |
£130,308 |
Cymru a Lloegr |
-0.3% |
-2.6% |
£162,109 |
Dwyrain Lloegr |
-1.1% |
-3.0% |
£171,600 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr |
-1.6% |
-4.3% |
£122,973 |
Cymru |
-1.7% |
-5.8% |
£117,813 |
Gogledd Ddwyrain Lloegr |
-3.9% |
-8.2% |
£100,616 |
Prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) |
Medi 2011 |
Medi 2010 |
Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl |
£257,187 |
£261,101 |
-1.5% |
Tŷ pâr |
£153,059 |
£157,691 |
-2.9% |
Tŷ teras |
£122,494 |
£126,820 |
-3.4% |
Fflat/Fflat deulawr |
£152,286 |
£156,000 |
-2.4% |
Holl |
£162,109 |
£166,364 |
-2.6% |
Mis |
Gwerthiannau 2010 (Cymru a Lloegr) |
Gwerthiannau 2009 (Cymru a Lloegr) |
Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Ionawr |
35,848 |
26,289 |
36% |
Chwefror |
42,540 |
27,296 |
56% |
Mawrth |
51,424 |
35,556 |
45% |
Ebrill |
52,295 |
39,367 |
33% |
Mai |
52,192 |
45,883 |
14% |
Mehefin |
62,725 |
54,809 |
14% |
Gorffennaf |
67,475 |
63,698 |
6% |
Awst |
61,455 |
58,373 |
5% |
Medi |
57,450 |
58,545 |
-2% |
Hydref |
58,588 |
65,834 |
-11% |
Tachwedd |
56,252 |
61,155 |
-8% |
Rhagfyr |
56,766 |
78,549 |
-28% |
Cyfanswm |
655,010 |
615,354 |
6% |
Mis |
Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr) |
Gwerthiannau 2010 (Cymru a Lloegr) |
Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Ionawr |
37,497 |
35,848 |
5% |
Chwefror |
39,534 |
42,540 |
-7% |
Mawrth |
46,487 |
51,424 |
-10% |
Ebrill |
50,355 |
52,295 |
-4% |
Mai |
48,392 |
52,192 |
-7% |
Mehefin |
56,342 |
62,725 |
-10% |
Gorffennaf |
59,919 |
67,475 |
-11% |
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
- Oddi ar 2006, mae Mynegai Prisiau Tai'r Gofrestrfa Tir, sydd ar gael am ddim yn www.cofrestrfatir.gov.uk/houseprices wedi cynyddu momentwm i ddod yn ddangosydd blaenllaw o symudiadau eiddo yng Nghymru a Lloegr. Caiff ei ystyried yn eang fel "y baromedr mwyaf cywir o'r farchnad dai ".
- Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y Gofrestrfa Tir ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir mynegai mis Hydref am 11 y bore ar ddydd Llun 28 Tachwedd 2011.
- Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
- Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion mwy na 16 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae tua chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
- Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
- Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
- I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk
Cysylltu
Marion Shelley 0300 0067543, 07790 690297