Tŷ Gwydyr

Newidiwyd y dudalen hon ddiwethaf 20 Hydref 2010 | English

Cartref presennol Swyddfa Cymru yw Tŷ Gwydyr, yn Whitehall, San Steffan.

Mae gan yr adeilad hanes hir a diddorol ers ei adeiladu’n wreiddiol ym 1772 i gadw cofnodion swyddogol Syrfëwr Cyffredinol Tiroedd y Goron.

Yn fuan ar ôl iddo gael ei benodi’n Syrfëwr Cyffredinol Tiroedd y Goron ym mis Mai 1769, yr oedd Peter Burrell wedi ysgrifennu at Drysorlys Ei Mawrhydi yn dadlau bod “Llyfrau, Cynlluniau, Gweithredoedd Eiddo ac Arolygon Ei Mawrhydi … mewn perygl o fod mewn Tân ac mewn perygl o Fynd ar Goll neu ryw Anghyfleustra arall drwy ddisgyn i Ddwylo Ysgutorion, Gweinyddwyr ac eraill pe bai’r Syrfëwr Cyffredinol yn Marw neu’n cael ei Ddiswyddo; a bod gwir Golledion wedi digwydd i’r Goron a’r deiliad, a bod angen swyddfa reolaidd lle dylid cadw’r hawlysgrifau gwerthfawr hyn”.

Yr ateb a awgrymodd Mr Burrell oedd adeiladu tŷ newydd iddo’i hun yn Whitehall lle gellid cadw cofnodion ei swyddfa’n ddiogel. Ar ôl trafodaethau, sicrhaodd safle presennol Tŷ Gwydyr. Credid bod cost yr adeilad wedi bod dros £6,000. Credir bod y gwaith adeiladu wedi cychwyn ym 1772 a’i fod wedi gorffen erbyn i Peter Burrell farw ym 1775.

O’r dyddiau cynnar iawn teimlwyd bod angen mwy o le yn Nhŷ Gwydyr. Gallai hyn fod oherwydd bwriad Mr Burrell i ddefnyddio’r adeilad fel cartref ac fel swyddfa. Ymddengys bod y pwysau hwn dal yno pan oedd ei fab (a wnaed yn Arglwydd Cyntaf Gwydyr ym 1796) yn Uchel Siambrlen Lloegr. Erbyn 1799, roedd estyniad sylweddol wedi’i godi yn yr ardd i’r Dwyrain o’r adeilad. Dilynwyd hyn gan estyniad a godwyd yn ochr ddeheuol yr ardd ym 1803.

Yn dilyn marwolaeth yr Arglwydd Gwydyr ym 1820, defnyddiwyd y tŷ fel cartref teulu am gyfnod a’r rhai olaf i fyw yno oedd Chweched Dug Leeds, Meistr y Ceffylau i Frenin Siôr IV. Ymddengys nad oedd neb yn byw yn y tŷ erbyn 1835 ac, yn dilyn cyfnod pan fu Clwb y Diwygiad yn defnyddio’r adeilad dros dro, fe’i rhentwyd at ddefnydd y Goron ym 1842. Ymhlith y sefydliadau swyddogol cyntaf i ymgartrefu yno oedd Comisiwn y Celfyddydau Cain, Comisiwn Archwilio Refeniw a’r Comisiwn Iawndal Caethweision.

Y Comisiwn Iawndal Caethweision oedd un o’r canlyniadau mwy dadleuol a ddaeth yn sgil diddymu caethwasiaeth. Fe’i sefydlwyd ym 1833 yn dilyn penderfyniad gan Lywodraeth Prydain i roi £20 miliwn o’r neilltu i dalu iawndal i blanwyr, masnachwyr caethweision a pherchnogion caethweision oherwydd y ddiddymu. Byddai’r ffigur hwnnw heddiw yn cyfateb i £2biliwn – ond ni roddwyd yr un geiniog erioed i’r rheini a fu’n gaethweision. Mae plac coffa yn derbynfa Tŷ Gwydyr yn nodi daucanmlwyddiant Deddf Diddymu’r Fasnach Caethweision ym 1807.

Yn ddiweddarach yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, bu’r Bwrdd Iechyd, Bwrdd Cyfraith y Tlodion a’r Comisiwn Elusennau’n defnyddio Tŷ Gwydyr. Roedd angen llawer mwy o le swyddfa ar bob un ohonynt ac yn sgil hyn, adeiladwyd cyfres o estyniadau ar hyd yr ochr ddeheuol ac i’r cefn a wnaeth fwy na dyblu maint gwreiddiol y tŷ ym 1772.

Gwelwyd yr estyniad mwyaf sylweddol ym 1884-5 pan gomisiynwyd John Taylor, pensaer y Swyddfa Gwaith, gan y Comisiwn Elusennau, i gynllunio estyniad i Dŷ Gwydyr, gan ychwanegu llawr atig cyfan ar ben y prif adeilad.

Gwelwyd y newidiadau mawr olaf i Dŷ Gwydyr ym 1938 pan orffennwyd adeilad y Weinyddiaeth Amddiffyn gerllaw. Yn ystod y gwaith clirio, penderfynwyd dymchwel yr estyniadau yng nghefn Tŷ Gwydyr a oedd yn ymwthio i Erddi Whitehall. Ar yr un pryd, yn yr adeilad, ailosodwyd y llawr, gosodwyd lifft newydd a gosodwyd nifer o barwydydd modern.

Nid yw Tŷ Gwydyr wedi newid llawer ers hynny ac mae wedi bod yn gartref i’r Swyddfa Gymreig, sef Swyddfa Cymru erbyn hyn, ers haf 1971.